Blog Homepage

Ionawr 11, 2007

Sara Huws, 11 January 2007

'Rwy'n ysgrifennu hwn wrth i'r rhew ddadmer o'r coed o amgylch yr Eglwys. Mae s?n ysgafn iawn d?r yn rhedeg a'r haul trwy'r coed yn rhoi naws reit llon i'r parc - yn sicr, mae'n codi dipyn o gyffro at be fydd yn wanwyn cyntaf i finne yn Sain Ffagan. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar ato.

Bydd lliw blodau 'gwyllt' a glaswellt yn ymddangos yn iard yr Eglwys, felly hefyd y tu fewn iddi, am ein bod ni am gychwyn ar y gorchwyl o ail-greu y murluniau. Roedden nhw'n bethau llachar, bywiog iawn pan y peintiwyd nhw ym 1520: rydyn ninne wedi bod yn cymysgu paent naturiol i ail-greu yr effaith.

Comments (1)

Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.
sian
17 July 2007, 10:57
atgofion melys iawn.mae'r eglwys fel yr oedd ger y Bont amser maithyn ol.