This site uses cookies to improve your experience. View our Cookie Policy
Preferences

Cookie Preferences

Essential

These cookies are absolutely essential for our website to function properly.

 

Cookies that measure website use

We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.

 

Cookies that help with communications and marketing

These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.

 
 
View our Cookie Policy
Donate
Amgueddfa Cymru
Cymraeg
My account
Donate
Collections & Research
Departments Collections Online National Collections Centre

Amgueddfa
Cymru
Family

National Museum Cardiff

St Fagans National Museum of History

National Waterfront Museum

Big Pit National Coal Museum

National Slate Museum

National Wool Museum

National Roman Legion Museum

  • Collections & Research
  • Departments
  • Current Page: Collections Online
  • National Collections Centre
  • Articles
  • Ancient Wales
  • Art
  • Celf ar y Cyd
  • History
  • Natural History
  • The Museum at Work
  • Health, Wellbeing and Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • About Us
  • Collections & Research
  • Learn
  • Shop
  • Support Us
  • What's On
  • Get Involved
  • Health & Wellbeing

Collections Online

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Advanced Search

Advanced Search

Image filter options
Back to search results

Holiadur | questionnaire

Thomas, Ellen (respondent)

Atebion i holiadur gan Elen Thomas, Llanddona, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Gyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.

Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by Elen Thomas, Llanddona, Anglesey on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.

**Tudalen 1/Page 1** [Beth oedd amser codi arferol?] Pump or[sic] gloch y bore [A godai pawb yr un amser?] Byddai pawb or gweision ond nid y teulu [A wneid unrhyw waith cyn brecwast?] Yn gaeaf Porthi, Carthu, gwisgo’r wedd yn barod [Pa bryd oedd amser brecwast?] Chwech or[sic] gloch [Beth a fwyteid i frecwast?] Brywes bara Ceirch, Bara llaeth, ac efallai dê ar ei ol [A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?] Mewn ambell i le, ond nid bob amser [A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?] Oedd [Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?] Canol dydd ar ol[sic] cinio [Pwy fyddai’n cymryd rhan?] Y Meistr ar[sic} feistres, yr hwsmon ac eraill oedd yn gallu gwneyd [sic] [A gymerai pawb ran yn ei dro?] Gwnant os yn medru, byddai pawb yn darllen yn ei dro [A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?] Nac oedd [Os felly, pa fwyd?] [Beth oedd enw’r pryd?] [Ym mh’le y bwyteid ef?] [A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?] [A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?] Deuddeg or[sic] gloch or[sic] munyd [sic] [A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?] Mewn ambell fferm, ond bwyta yn y gegin y byddai y teulu ar [sic] gweision ar [sic] morynion yn y briws [Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?] Tatws, llaeth a digon o gig eidion [A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?] Na ddim ymhob lle, y gwasanaethyddion yn y briws, ar [sic] teulu drwodd yn y gegin [A oedd enw arall ar ginio?] Ni Chlywais am enw arall ar ginio

**Tudalen 2/Page 2** [A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?] Na fyddem mynd ir [sic] ty bob amser [Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?] [Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?] Chwythu Cragen, neu bib [Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?] Yn yr haf pedwar or [sic] gloch, y gaeaf 6 or [sic] gloch (a tendio y ceffylau tua wyth) [Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?] Cynwysfwyd [Beth a fwyteid?] Bara haidd neu gymysg a tê [Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?] Ar y caeau yn yr haf, ac yn y ty yn y gaeaf [Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?] Tua wyth or [sic] gloch [Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?] Swper [Beth a fwyteid iddo?] Uwd llaeth neu lefrith [Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)] Y gweision ar [sic] morynion [Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?] Yn drefnus iawn [Pa amser a wneid y godro?] (Bore) (Prynhawn) Cyn brecwast haf a gaeaf, gorffen erbyn te chwech yn y gaeaf a gorffen run fath yn yr haf, sef ar ol te darfod 6 o gloch [A fyddid yn dyrnu â ffust?] Byddai [?] cyn cof i mi [Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?] Yn y prynhawn neu gyda’r nôs [A beth am y dynion?] Ychydig o amser a gai y gweithwyr i ymweld ond ar y Sul [Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)] Ymweld a chymydog (troi i mewn) [Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?] Adrodd straeon, merched yn gweu ar[sic] dynion yn gwneyd [sic] canhwyllau brwyn. Glanhau gêr ceffylau eto. [Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?] Rhwng naw a deg or [sic] gloch [A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?] Gweu ir[sic] merched eto fel yr uchod [A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?] Na tebyg fyddai bwyd gydol y flwyddyn

**Tudalen 3//Page 3** [Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?] Briws, gegin, parlwr, pantri ty llaeth etc. [A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?] Byddai bwyd da iawn amser dyrnu, byddai pawb am y goreu [sic] [Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gas bach)?] Hwsmon, Pen Certmon, Ail gertmon, Pen Porthwr, Ail borthwr, dyn caled, ail gwas, gwas bach [Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?] Beudy, stabl, cwt lloi, hovel, siedau gwartheg stôr, cwt malu ysgubor etc. [Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?] Un arferiad, arfer pobi hefo tywyrch ac eithin, Corddi llaeth gyda corddwr wyntyll. Torri yd a gwair hefo pladuriau Llogi bachgen i wylio brain rhag iddynt godi Swedes. Cymaint a deuddeg o fechgyn yn teneuo rwdins a dyn yn edrych ar eu hol. Gwneyd [sic] canwyllau [sic] brwyn Cofio merched yn cynull[sic] yr yd gymaint a chwech neu wyth ohonynt. Cofio cario yd trwy y nos hefo goleu’r lleuad Arfer rhoddi swllt neu ddau o ernes pan yn cyflogi gwâs fel ZEL ar y cytuneb Hel tail gwartheg wedi sychu yn yr haf, fel tanwydd.

Image: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  Zoom / More Images (3)

Collection Area

Social & Cultural History

Item Number

MS 338

Historical Associations

Associated Person/Body: Thomas, Ellen
Association Type: Writer
Date: 1957
Place: Llanddona

Creation/Production

Thomas, Ellen

1957

Role: respondent
Period: 1957

Acquisition

Collected Officially

Material

Paper

Categories

Welsh Folk Museum questionnaires and answer books Anglesey
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.

Related Items

Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 340
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 342
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 344
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 353
More information

Site Map

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Visiting
  • Collections & Research
  • Learn
  • Blog
  • Support Us
  • Shop
  • Venue Hire

Our Museums

  • National Museum Cardiff
  • St Fagans National Museum of History
  • National Waterfront Museum
  • Big Pit National Coal Museum
  • National Slate Museum
  • National Wool Museum
  • National Roman Legion Museum

Connect With Us

  • Contact Us
  • Get Involved
  • Join the Mailing List
  • Facebook
  • Instagram

The Website

  • Accessibility statement
  • Cookies
  • Copyright

Corporate

  • About Us
  • Jobs
  • Press Office
  • Picture Library
  • National Collections Centre
  • Working with Others
  • Filming & Photography
Sponsored by Welsh Government
  • Facebook
  • Instagram
Charity No. 525774
×
❮
❯