Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur gan Edward Jones, Llanerchymedd, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by Edward Jones, Llanerchymedd, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
**Tudalen 01/Page 01** Gorffennaf 17, 1957 Enw: Edward Jones Cyferiad: Ty Capel, Llanerchymedd Beth oedd amser codi arferol? 5 o’r gloch y bore A godai pawb yr un amser? Na dim ond y gewision a’r morwynion A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Fe [wnaud?] hâf a gaeaf Pa bryd oedd amser brecwast? 6 o’r gloch y bore Beth a fwyteid i frecwast? Bara llaeth a bara brwes A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Na fyddai y gwasanaethyddion fyddai yn cael y [salaf?] A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? Fel rheol ar ôl boreufwyd Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y meistr gyda’r gwasanaethyddion yn eu tro A gymerai pawb ran yn ei dro? – A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nag oedd Os felly, pa fwyd? – Beth oedd enw’r pryd? – Ym mh’le y bwyteid ef? – A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? – Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? 12eg o’r gloch A fyddai pawb un cael yr un bwyd? Na fyddai Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Cig môch wedi ei halltu, beef wedi ei halltu, tatw a llaeth a phenwaig hallt A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddai byddai y gwasanaethyddion yn y briws a’i meistr a’r fastres yn y gegin A oedd enw arall ar ginio? Prynhawnfwyd
MS 353_0002 A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Byddai bwyta cinio yn y caeau yn amser cynheuaf Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Yr oedd yn wahanol Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio? Byddai rhai yn arfer galw gyda cragen glan y môr eraill gyda cloch Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawd? Oddeutu 4 o’r gloch Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cynmys fwyd neu gynyswyd Beth a fwyteid? Bara haidd. Bara gwenith ymenyn pot gyda llaeth ac yna yn ddiweddarach daeth te Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Bwyteid ef yn y caeau ond [aed?] i’r briws pan yn gweithio o gylch y ty Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Oddeutu 8 o’r gloch Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper Beth a fwyteid iddo? Uwd llaeth Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraift?) Y llanciau sengl a’r morwynion Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Byddai y certmon yn rhoi yn holl amser gyda’r cyffylau y [porthant?] gyda’r gwartheg yna byddai yr hwsmon gyda gwahanol ddyletswyddau sef cau y cloddiau a thacluso o gylch y fferm Pa amser a wneid y godro? Oddeutu 6:30 yn y bore ac yna rhwng 5 a 6 yr hwyr ond byddai peth newid ar y Sadwrn a’r Sul A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddai Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Byddai ymweliadau achlysurol o fferm i fferm oddeutu 3 neu yn y prynhawn A beth am y dynion? Byddent yn cyfarfod wedi noswyl Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Mynd i hel [visit?] Sut yr oedd pobl y neu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Byddai rhai yn canu ystrymant ac oed y gynnal nosweithiau llawen cadw gwylnos eraill yn [dieynydda?] a darllen, eraill y pendronni i gael dau pen linyn gyda theuad o blant. Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Rhwng 9 a 10eg gan byddai codi yn fore A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Byddai taclu esgidiau a llawer o waith coed a naddu llwyau pren, plethu rhaffau, fel byddai y ddiddordebau A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Ychydig o newid fyddai yn y bwyd gan nad oedd llawer o amrywiaeth ar y fferm yn y cyfnod hwn
**Tudalen 3/Page 3** Gwas Bach