Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur gan Richard Roberts o Fryngwran, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by Richard Roberts from Bryngwran, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
**Tudalen 1/Page 1** Beth oedd amser codi arferol? 5 (yn y gaeaf), 5.30 yn yr haf A godai pawb yr un amser? Y gwnsion a’r morwynion A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Yn y gaeaf dwfnhau yr anifeiliaid a bwydo, a hefyd glanhau y stabl a’r beudu Pa bryd oedd amser brecwast? Am chwech Beth a fwyteid i frecwast? Bara llaeth neu brwas bara ceirch A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Y gweision yn y briws [ nis pwydderu] ddim am y gegin bwrdd A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? Nid ym mhob lle, mi fyddai yr hwsmon yn gofyn am bendith mewn ambell fferm Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Yn y bore os y byddai hynny yn cymryd lle Pwy fyddai’n cymryd rhan? Dynion a fyddai yn arfer a bod yn gyhoeddus yn yr Eglwsyi A gymerai pawb ran yn ei dro? Na nid pawb A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Na fyddai Os felly, pa fwyd? - Beth oedd enw’r pryd? - Ym mh’le y bwyteid ef? - A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? - Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Am haner dydd A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Mae yn debyg na fyddai, am nad oedd pawb yn bwyta yn yr un lle Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatws llaeth a bara menyn, dipyn o gig ar y Sul A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddennt A oedd enw arall ar ginio? Pryndawnfwyd
**Tudalen 2/Page 2** A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Na fydden Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? - Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio? Crogen, ei chwythu Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn? Pedwar o gloch yn y cynheaf Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cynyswyd, neu te Beth a fwyteid? Bara a menyn Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Ar y cae Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Am wyth o’r gloch Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Uwd Beth a fwyteid iddo? Uwd llaeth neu lefrith Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?) Yr hwsmon, ail was, ar certwyr y porthwr ac eraill dros y cynhaeaf Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Yn y gaeaf, pump yn y bore tan yr haf chwech yn y bore hyd hwyr amser cynhaeaf neu o chwech hyd chwech amser arall Pa amser a wneid y godro? Chwech y bore a pump y prydnawn A fyddid yn dyrnu â ffust? byddai Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Unrhyw amswer A beth am y dynion? Dim llawer o amswer i weld neb Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Cerdded tai Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Yn y haf os y byddai amser yn yr ardd. Yn y gaeuaf am y gwely (gwaith a gwely) Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Am nawr o’r gloch A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Dim llawer o amser wneud dim A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Nag oedd