Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Answer book
Llyfrau Ateb Amgueddfa Werin Cymru, 1971, oddi wrth Mrs Ann Lloyd, Glanrafon, Corwen, yn cynnwys nodiadau ar chwaraeon plant, meddyginiaethau gwerin, ofergoelion, 'Eira mawr 1937', enwau caeau yn y cylch, arferion, digwyddiadau lleol yn bennaf o ddechrau'r 20fed ganrif ymlaen. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.
Welsh Folk Museum Answer Book ,1971, received from Mrs Ann Lloyd, Glanrafon, Corwen, containing notes on children's games, traditional medicines, superstitions, the heavy snowfall of 1937, local field names, customs and local events mainly during the early part of the 20th century. Answer Books were sent out by the Welsh Folk Museum to individuals across Wales as a way of collecting and documenting information on aspects of folk culture in their areas, including agriculture, crafts, food, customs and dialects. The responses were hand-written in the books. The Answer Books had a similar purpose to the earlier questionnaires sent out in 1937.