Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by an unknown person using the non de plume 'Y Gwas Bach' from Amlwch, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
**Tudalen 01/Page 01** Gorffennaf 17, 1957 Enw: Y Gwas Bach Cyferiaid: Amlwch Beth oedd amser codi arferol? Hanner awr wedi pump y bore A godai pawb yr un amser? Na dim ond y gweision ar morynion A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Glanhau a [pharrhir?] Pa bryd oedd amswer brecwast? Am chwech y bore Beth a fwyteid i frecwast? Te mewn powlen a bara haidd A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Dim ond y gweision ar morynion A oedd hi’n arferol i gadw dyletswydd? Oedd Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Amser cinio Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y meistr ar hwsmon A gymerai pawb ran yn ei dro? Na chymerau A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nag oedd Os felly, pa fwyd? – Beth oedd enw’r pryd? – Ym mh’le y bwyteid ef? – A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? – Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Am hanner dydd A fyddai pawb un cael yr un bwyd? Na fyddai Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Fel arfer tatws, cig a llaeth A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddai. Y gweision ar morynion yn y briws A oedd enw arall ar ginio? Nag oedd
**Tudalen 2/Page 2** A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Amser cynheuaf Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Oedd, Caws, Bara, menyn a jam Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio? a chloch Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn? Nid oedd dim ar ol tê dan swper Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? – Beth a fwyteid? Uwd a llefrith Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Yn y Briws Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Wyth o’r gloch Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper Beth a fwyteid iddo? Uwd a llefrith neu fara llaeth Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraift?) Y gweision ar morynion Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Ardderchog o dy y meistr Pa amser a wneid y godro? Hanner awr wedi chwech, bore a nos A fyddid yn dyrnu â ffust? Dim yn fy aw i Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Pan fyddai amser yn caniatau A beth am y dynion? Ar nos Sadwrn Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Cerdded tai Sut yr oedd pobl y neu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Rhai yn addysgu y plant erail i drafod pynciau ynglyn a’r [farm?] Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Tua naw o’r gloch yr hwyr A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Y morynion i [barsiau?] ar gyfer y bore, ar gweision beth a fynent A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Dim gwahaniaeth