This site uses cookies to improve your experience. View our Cookie Policy
Preferences

Cookie Preferences

Essential

These cookies are absolutely essential for our website to function properly.

 

Cookies that measure website use

We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.

 

Cookies that help with communications and marketing

These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.

 
 
View our Cookie Policy
Donate
Amgueddfa Cymru
Cymraeg
My account
Donate
Collections & Research
Departments Collections Online National Collections Centre

Amgueddfa
Cymru
Family

National Museum Cardiff

St Fagans National Museum of History

National Waterfront Museum

Big Pit National Coal Museum

National Slate Museum

National Wool Museum

National Roman Legion Museum

  • Collections & Research
  • Departments
  • Current Page: Collections Online
  • National Collections Centre
  • Articles
  • Ancient Wales
  • Art
  • Celf ar y Cyd
  • History
  • Natural History
  • The Museum at Work
  • Health, Wellbeing and Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • About Us
  • Collections & Research
  • Learn
  • Shop
  • Support Us
  • What's On
  • Get Involved
  • Health & Wellbeing

Collections Online

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Advanced Search

Advanced Search

Image filter options
Back to search results

Holiadur | questionnaire

Roberts, R.J. (respondent)

Atebion i holiadur gan R.J. Roberts, Rhos y bol, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.

Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by R.J. Roberts, Rhos y bol, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.

**Tudalen 01/Page 01** [Cwestiynau wedi ei teipio, rhifau wedi ei ysgrifennu gan llaw ] 1. Beth oedd amser codi arferol? [atebion aneglur/strempiog] 2. A godai pawb yr un amser? [atebion aneglur/strempiog] 3 A wneid unrhyw waith cyn brecwast? [atebion aneglur/strempiog] 4 Pa bryd oedd amser brecwast? 5 Beth a fwyteid i frecwast? 6 A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? 7 A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? 8 Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? 9 Pwy fyddai’n cymryd rhan? 10 A gymerai pawb ran yn ei dro? 11 A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? 12 Os felly, pa fwyd? 13 Beth oedd enw’r pryd? 14 Ym mh’le y bwyteid ef? 15 A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? 16 Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? 17 A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? 18 Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? 19 A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? 20 A oedd enw arall ar ginio?

MS 352_0002 21 A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? 22 Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? 23 Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ gael eu cinio? 24 Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn? 25 Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? 26 Beth a fwyteid? 27 Ym mh’le y bwyteid y pryd hwn? 28 Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? 29 Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? 30 Beth a fwyteid iddo? 31 Pwy fyddai yno (Y gweision er enghraifft?) 32 Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? 33 Pa amser a wneid y godro? 34 A ffyddid yn dyrnu â ffust? 35 Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? 36 A beth am y dynion 37 Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y feiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) 38 Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? 39 Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? 40 A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? 41. A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf?

MS 352_0003 [Wedi teipio] “DIWRNOD GWAITH CYFFREDIN ERS LLAWER DYDD” R.J. ROBERTS. Yr wyf wedi rhifo cwestiynau y cylchlythyr ac felly yr atebion i gyfateb iddynt. - - - - - 1. Mewn mwyafrif o ffermydd pump o’r gloch. 2. Codai y forwyn i olau tan, ac i baratoi brecwast. 3. Yn yr haf rhaid oedd nol y gwartheg i’r beudy, a chael y cunogau, a’r llestri godro yn barod. Prin iawn o ynni fyddai y gweision am y daliad hwn gan edrych ymlaen yn farwaidd at y cysur a’r diddanwch oedd yn eu haros amser brecwast. 4. Chwech o’r gloch. 5. Llond bowlan o frwes a paned o de. 6. Dibynnai hyn ar y parch fyddai gan y meistri tuag at y gweithwyr. Eisteddai y teulu o gwmpas bord gron, tra eisteddai y gweision a’r morwynion o amgylch bwrdd mawr, gwyn glân di-lian. 7. Oedd. 8. Ar ol brecwast, tra y berwai sospan llaeth lloi, a chrochan tatw moch ar ffon y grat. 9. Y Pen Teulu, a phawb arall yn eu tro. 10. Ni theimlai pawb eu bod yn gymwys i gymmeryd rhan yn y gwasanaeth. 11. Oedd 12. Ceid paned o de a bara haidd, neu fara ceirch. 13. Paned ddeg. 14. Os yn gyfleus yn y tŷ, ond yn y caeau amser cynhaeaf. 15. O hanner awr wedi naw i ddeg. 16. Am hanner dydd. 17. Dibynnai hyn ar y ffermwyr. 18. Tatw a llaeth, cawl digon dilygad, tamaid prin o gig moch yn awr ac eilwaith. Byddai digon o laeth iw gael iw yfed. Da fyddai wrtho gan mor hallt fyddai y bwyd. Byddent yn cael pwdin ar ddyddiau gwyl. 19. Weithiau byddai y teulu yn bwyta yn y gegin orau, tra mewn fferm arall byddai y teulu yn bwyta yn y briws gyda’r gweithwyr, ond fod ganddynt ford eu hunain. 20. Nac oedd 21. Amser cynhaeaf byddid yn mynd a bwyd i’r caeau rhag gwastraffu amser i ddod at y tŷ 22. Math o ‘gnwswd’ a ddygid. Cynnwys-fwyd, -bara haidd a bara ceirch a llond piser o laeth 23. Gyda cragen neu gloch 24. Yn yr haf te am bedwar, ac yn y gaeaf te am chwech. 25. Prynhawn fwyd, neu yn fwyaf cyffredin te.

**Tudalen 4/Page 4** [wedi teipio] _2_ R. J. Roberts. 26. Te a bara menyn, caws neu jam. 27. Yn y tŷ. 28. Wyth o’r gloch 29. Swper. Byddai rhai o’r llafurwyr yn cysgu adref ond byddent yn cael “swper adre” neu “hoglyn” fel ei gelwid trwy ras gwraig y fferm. 30. Bara llaeth. Caled a du a fyddai y bara haidd ynddo yn aml. 31. Y morwynion a’r llanciau sengl. Arferai y gwŷr priod a chysgu adref os yn hwylus iddynt. 32. Caled oedd y gwaith a’r oriau gweithio yn faith ond er hynny byddid yn cael yr holl gynhaeaf i ddiddosrwydd mewn pryd. Rhaid oedd ffitio y wadn fel bo’r troed. Yr oedd gan pob gweithiwr waith ei hun. 33. Ar ol brecwast ac ar ol te yn yr haf, ond yn y gaeaf cyn te. Mewn ambell fferm byddid yn godro cyn brecwast. Byddai y gweision allan felly am bron i ddwy awr heb gael eu brecwast. 34. Dyrnu gyda ffust ar lawr dyrnu, fel yn nyddiau’r Beibl, a nithio gyda gwyntyll 35. Prin oedd amser hamdden gwraig fferm, felly nid yn aml yr ai i ymweled a’i chymdogion os na fyddid yn mynd i gysuro rhywun mewn galar neu amgylchiad cyffelyb. Yn y prynhawn y byddid yn mynd. Dro arall byddai y teulu i gyd yn mynd i swper, a chedwid noson lawen. 36. Hawdd oedd i’r meistri uno ymweliad ar fusnes ac ymweliad gymdeithasol. Weithiau ai y llanciau i lawr i efail y pentre ar hwyrnos gaeaf, ac yn canu hen alawon tra fyddai y gof yn troi hen bedolau yn rhai newyddion. 37. Fe ddefnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ hefyd ‘cymwota’ yn y rhan hon o’r wlad. Cewch ambell un hefyd a ddywed ‘mynd i hel straeon’. 38. Byddai y gweision yn treulio eu hamser yn y lloft-stabl. Yno y byddent yn canu rhyw alawon tebyg i’r “Hogen Goch”. Byddent yn ymgynnull yn yr hwyr i dorri gwalltiau ei gilydd ac i adrodd rhyw newydd fyddai ganddynt. Efallai y byddai ambell un yn medru canu y chwibanogl. 39. Fe fyddent yn mynd i’r gwely tua hanner awr wedi naw i ddeg. 40. Byddai gan y merched ddigon o waith trwsio, nyddu a gweu. Treuliai rhai o’r dynion eu hamser yn gwneuthur rhyw ddodrefn bychan, ar unig erfyn fyddai ganddynt oedd cyllell boced. 41. Prin iawn fyddai y gwahaniaeth yn y bwyd.

Image: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  Zoom / More Images (4)

Collection Area

Social & Cultural History

Item Number

MS 352

Historical Associations

Associated Person/Body: Roberts, R.J.
Association Type: Writer
Date: 1957
Place: Rhos-y-bol

Creation/Production

Roberts, R.J.

1957

Role: respondent
Period: 1957

Acquisition

Collected Officially

Categories

Welsh Folk Museum questionnaires and answer books Anglesey
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.

Related Items

Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 344
More information
Social & Cultural History

Answer book

MS 1095
More information
Social & Cultural History

Answer book

MS 369
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 353
More information

Site Map

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Visiting
  • Collections & Research
  • Learn
  • Blog
  • Support Us
  • Shop
  • Venue Hire

Our Museums

  • National Museum Cardiff
  • St Fagans National Museum of History
  • National Waterfront Museum
  • Big Pit National Coal Museum
  • National Slate Museum
  • National Wool Museum
  • National Roman Legion Museum

Connect With Us

  • Contact Us
  • Get Involved
  • Join the Mailing List
  • Facebook
  • Instagram

The Website

  • Accessibility statement
  • Cookies
  • Copyright

Corporate

  • About Us
  • Jobs
  • Press Office
  • Picture Library
  • National Collections Centre
  • Working with Others
  • Filming & Photography
Sponsored by Welsh Government
  • Facebook
  • Instagram
Charity No. 525774
×
❮
❯