This site uses cookies to improve your experience. View our Cookie Policy
Preferences

Cookie Preferences

Essential

These cookies are absolutely essential for our website to function properly.

 

Cookies that measure website use

We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.

 

Cookies that help with communications and marketing

These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.

 
 
View our Cookie Policy
Donate
Amgueddfa Cymru
Cymraeg
My account
Donate
Collections & Research
Departments Collections Online National Collections Centre

Amgueddfa
Cymru
Family

National Museum Cardiff

St Fagans National Museum of History

National Waterfront Museum

Big Pit National Coal Museum

National Slate Museum

National Wool Museum

National Roman Legion Museum

  • Collections & Research
  • Departments
  • Current Page: Collections Online
  • National Collections Centre
  • Articles
  • Ancient Wales
  • Art
  • Celf ar y Cyd
  • History
  • Natural History
  • The Museum at Work
  • Health, Wellbeing and Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • About Us
  • Collections & Research
  • Learn
  • Shop
  • Support Us
  • What's On
  • Get Involved
  • Health & Wellbeing

Collections Online

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Advanced Search

Advanced Search

Image filter options
Back to search results

Holiadur | questionnaire

Williams, Hugh (respondent)

Atebion i holiadur gan Hugh Williams, Llanfaelog, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.

Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by Hugh Williams from Llanfaelog, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.

**Tudalen 1/Page 1** [Beth oedd amser codi arferol?] [A godai pawb yr un amser?] O 5 i 5.30, Dibyna ar faint o waith cerdded oedd gan y gweithiwr o’i gartref at ei waith. Chwech y codai y gweithwyr a gysgai ar y fferm a’r forwyn hefyd. Yr hwsmon a alwai arnynt. Ar ol [sic] hyn y codai’r ffermwr ai[sic] deulu. [A wneid unrhyw waith cyn brecwast?] [Pa bryd oedd amser brecwast?] Gwneid llawer o waith cyn brecwast yn y Gaeaf. porthi’r da, carthu’r ystabl, a’r beudy, a godro. Haf gweithid am awr cyn brecwast, os byddai hwnnw am saith, ond os brecwast am 6. nid eid i weithio. Byddai’r cloc bob amser hanner awr (in advance) [Beth a fwyteid i frecwast?] Bara Llaeth. Te. Bara cymysg a bara gwyn. Digon o lefrith. Llai o siwgr ac ambell fferm yn gynil [sic] gyda’r ymenyn. [A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?] Y gweision gyda’i gilydd, y teulu yn hwyrach pan fyddai arogl cig moch iw[sic] glywed [A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?] Fe fu ychydig o gadw dyletswydd yn ystod y Diwygiad. 1904 oddeuty. [Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?] ac fe’i cedwid amser cinio, os digwydda i’r hwsmon, neu’r porthor fod wedi cael diwygiad [Pwy fyddai’n cymryd rhan?] Ni chymerai pawb ei ran. Chafodd pawb ddim (Troedigaeth) [A gymerai pawb ran yn ei dro?] [A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?] Nac oedd, ond cai’r gwas bach, a’r porthwr (weithia) yn y gaeaf gan eu bod wrth y ty. [Os felly, pa fwyd?] Diod o de a brechdan. [Beth oedd enw’r pryd?] (Panad ddeg) [Ym mh’le y bwyteid ef?] Yn un o’r beudai, byddent yn gofalu am gadw yn agos i’r ty pan oedd amser panad. [A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?] Tua deg. [A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?] Hanner dydd [A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?] Dim ond y gweithwyr a’r forwyn. Byddai’r teulu yn bwyta trwodd yn y gegin, ac nid yn y briws. [Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?] tatw. Biff wedi ei ferwi, ac yn aml yn ddigon hallt. Llaeth. Bara ac ymenyn. Stwns ffa. Stwns Rwdan. Ac weithiau Tatw drwy’u crwyn. [A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?] Roedd hi’n dy Cyffredin, a Thy’r Arglwyddi amser cinio hefyd. [A oedd enw arall ar ginio?] Chlywais i erioed ddim enw arall

**Tudalen 2/Page 2** [A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Na fyddent. [Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?] [Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?] Clywais nhad yn dweud mai Cragen fyddai’n galw ond ychydig fedrai ei chanu. Pan gofiaf i roedd watches gan bawb, o’r gwas bach efo’i watch 2/9 i’r certmon hefo’i watch arnian[sic] [Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?] pedwar o’r gloch yn yr haf a chwech yn y gaeaf [Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?] (Cynwysfwyd) Cyn nos fwyd? Gyda’r nos fwyd? [Beth a fwyteid?] Uwd a the a brechdan. [Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?] Ar ol Calan Mai, yn y caeau. Y Gaeaf yn y ty ar ol[sic] cadw noswyl am chwech [Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?] Wyth o’r gloch, yr adeg pan orffenai Gwaith y dydd. Ni chai’r certmyn adael y ceffylau cyn eu swperu (speru) am wyth [Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?] [Beth a fwyteid iddo?] Nis gallaf ateb hwn byddwn i wedi mynd adref. [Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)] Y gweision fyddai’n cysgu yn Llofft y Stabal, a’r forwyn. [Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?] [Pa amser a wneid y godro?] Yn union ar ol [sic] codi yn y bore pan fyddai y forwyn wedi cael brecwast yn barod. O bedwar i hanner awr wedi yn y prynhawn [A fyddid yn dyrnu â ffust?] Gwelais ffust ac adnabum hen w^r fyddai’n cael ei fywoliaeth wrth ddyrnu, drwy’r gaeaf. Roedd wedi mynd yn rhy hen pan gofiaf ef. Y Dyrnwr a’r Ingian wyf fi yn gofio. [Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?] Yn y prynhawn. [A beth am y dynion?] Gweithio drwy’r dydd [Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)] Mynd i visit [Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?] Nid oedd fawr o hamdden ar ol[sic] swper wyth, ac eisiau codi am 5.30. Nos Sadwrn byddai’r rhai a gysgai ar y fferm yn mynd adre i gael “dillad glân’ gan eu rhieni [Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?] Yn gynar [sic] yn y gaeaf. Ond pa ddaeth “Bicycles’ byddai dipyn o grwydro. Concert yn rhywle. Penny Reading ac efallai Seiat. [A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?] Dim llawer [A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?] Tebyg fyddai

**Tudalen 3/Page 3** [Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?] Ar Fferm Briws. Cegin bach. Y Gegin. Llofft y Forwyn. Parlwr gore a’r Llofftydd Tai. Y Gegin. Siambar. Ty Llaeth a’r Llofft os byddai un [A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?] Byddai amser Dyrnu. Tatw Rhost a Chig a Phwdin i ginio. Te, Jam a chaws i de. [Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gwas bach)?] Hwsmon, porthwr, Pen Certmon. Ail gertmon. Gwas Bach. Ac weithiau Dyn Calad, un gyflogid am gyfnod i gau cloddiau neu rhywbeth cyffelyb. Byddai hefyd ddyn neu ddau yn cael eu cyflogi am fis o gynhaeaf [Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?] Stabal. Beudy. Cwt Lloiau Cytiau Moch. Cwt Malu. Llofft Storio. Cwt Boiler lle y berwyd bwyd y moch. Shediau. Rhiwel. [Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal? Y rheswm yr ymgeisiais ateb y Rhain oedd fod raid i mi, pan yn ifanc, a hefyd pan ar wyliau o’r ysgol a’r coleg hefyd, fynd i weithio er mwyn helpu mam gan fy mod yn un o wyth o blant a toedd dim iw[sic] gael ond ffarm[sic]. Heddiw mae’n ffasiynol i Efrydwyr gymeryd gwaith yn y Gwyliau, ond nid oedd felly yn famser[sic] i. Gorfod gweithio ac am ychydig iawn hefyd. Ond yr oedd yn werth ei wneud pe ond y teimlad iach. Bwyta fel ceffyl ac ar ol[sic] pob diwrnod o waith yn syth i’r môr gan fod fy nghartre ar ei lan.

Image: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  Zoom / More Images (3)

Collection Area

Social & Cultural History

Item Number

MS 341

Historical Associations

Associated Person/Body: Williams, Hugh
Association Type: Writer
Date: 1957
Place: Llanfaelog (Anglesey)

Creation/Production

Williams, Hugh

1957

Role: respondent
Period: 1957

Acquisition

Collected Officially

Material

Paper

Categories

Welsh Folk Museum questionnaires and answer books Anglesey
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.

Related Items

Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 348
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 346
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 342
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 362
More information

Site Map

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Visiting
  • Collections & Research
  • Learn
  • Blog
  • Support Us
  • Shop
  • Venue Hire

Our Museums

  • National Museum Cardiff
  • St Fagans National Museum of History
  • National Waterfront Museum
  • Big Pit National Coal Museum
  • National Slate Museum
  • National Wool Museum
  • National Roman Legion Museum

Connect With Us

  • Contact Us
  • Get Involved
  • Join the Mailing List
  • Facebook
  • Instagram

The Website

  • Accessibility statement
  • Cookies
  • Copyright

Corporate

  • About Us
  • Jobs
  • Press Office
  • Picture Library
  • National Collections Centre
  • Working with Others
  • Filming & Photography
Sponsored by Welsh Government
  • Facebook
  • Instagram
Charity No. 525774
×
❮
❯