Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Dinorwig slate quarry, photograph
Three quarrymen at Dinorwig Quarry. The quarryman on the right side of the photograph is splitting a large block of slate using a Rhys Mawr (a hammer made of African oak). The quarryman in the centre is splitting a block of slate using a cŷn manhollt (a wide and slim chisel) and a gordd (a small mallet made of African oak). The quarryman on the left hand side of the photograph is sitting on a trafael, dressing a roofing slate by hand using a cyllell naddu (a knife-like tool). The quarrymen are photographed behind one of the gwaliau – an open ended structure where roofing slates were split and dressed. It is believed that the photograph was taken during the early 1920s, as the majority of the large dressing sheds/mills at Dinorwig Quarry were built during the 1920s. These sheds/mills housed the mechanically driven saw tables, which took over the role of dressing slate by hand. Also, the quarrymen are wearing similar outfits to the quarrymen in the photograph of Twll y Mwg taken in 1921 (2018.171/1).
Tri chwarelwr yn Chwarel Dinorwig. Mae'r chwarelwr ar y dde yn defnyddio Rhys (gordd o 'African Oak') i dorri piler ar ei draws. Mae'r chwarelwr yn y canol yn hollti clwt o lechfaen gan ddefnyddio cŷn manhollt (cŷn llydan a thenau) a gordd y wal (gordd fechan gron wedi ei gwneud o 'African Oak' gyda chylch o haearn am ei deupen). Mae'r chwarelwr ar y chwith yn eistedd ar drafael (mainc bren gyda llafn haearn yn ei ganol) ac yn naddu llechen do gan ddefnyddio cyllell naddu (llafn o haearn gyda carn o bren, a'r ochr finiog o ddur). Mae'r chwarelwyr wedi eu lleoli tu ôl i un o'r gwaliau - cytiau gyda wyneb agored ble byddai chwarelwyr yn hollti a naddu llechi. Credi fod y ffotograff wedi ei dynnu yn ystod y 1920au cynnar, gan fod y mwyafrif o siediau llifio Chwarel Dinorwig wedi cael eu hadeiladu yn ystod y 1920au. Roedd byrddau llifio ac injians naddu mecanyddol yn y siediau llifio, a ddisodlodd llawer o'r gwaith pileru a naddu gyda llaw. Hefyd mae'r chwarelwyr yn gwisgo dillad tebyg i'r hyn a wisgai chwarelwyr mewn llun a dynnwyd yn Twll y Mwg, Chwarel Dinorwig, yn 1921 (2018.171/1).