Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Notes
Nodiadau gan Miss Janet James, Castell Newydd Emlyn, ar 'Batrwm Bwydydd a Chadw Ty' mewn atebiad i Holiadur Amgueddfa Werin Cymru, 1971. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.
Notes by Miss Janet James, Newcastle Emlyn, on food patterns and domestic life as a response to a questionnaire by the Welsh Folk Museum, 1971. Answer Books were sent out by the Welsh Folk Museum to individuals across Wales as a way of collecting and documenting information on aspects of folk culture in their areas, including agriculture, crafts, food, customs and dialects. The responses were hand-written in the books. The Answer Books had a similar purpose to the earlier questionnaires sent out in 1937.
**Tudalen 1/Page 1** **Janet Jones 14** **Patrwn Bywyd a Chadw Tŷ.** **Ar Fferm** A. 1. Bwyteid cawl i ginio, ac wedi ei dwymo i swper (cawl eildwym new "gawl twymo" ei gelwent ef.). [sic] 2. Uwd i frecwast neu bara menyn a chaws. Cawl i ginio yn y gaeaf. Bwdram, uwd a llaeth yn yr haf. Bara menyn a chaws i de. Cawl twymo i swper, neu fara a llaeth twym. Amserau Prydiau [3 wedi'i groesi allan] Brecwast – tuag wyth o'r gloch wedi gorffen godro a bwydo'r anifeiliaid. Doedd dim pryd rhwng brecwast a chinio and 'roedd teg deg yn fath o sgwlc gyda'r gwregedd [?]. Weithiau fe gefai'r dynion hefyd de deg yn yr haf. Cinio: deuddeg o'r gloch. Swper: 'roedd hwn yn gynnar, am saith o'r gloch. 'Roedd hen ddywediad fod swper nos Gŵyl Dewi heb olau cannwyll. B. Bwyd yn nhymor yr haf. 1. Brewast – Uwd. Bara a chaws. Ambell waith ceid bacwn ag ŵy wedi ffreio. Cinio. – [sic] Tatws a chig gyda llysiau o'r ardd. Cawl. Treli [?] gyrch. Uwd a llaeth. Os byddai'r dynion allan yn y caeau sucan a llaeth, neu sucan a thoblen [?]. Te. – [sic] Bara menyn a chaws neu jam weithiau. Swper – Tatws a chig mochyn, neu datws wedi eu "pwtsio" [sic] gyda llaeth enwyn. [sic] 2. Ceid y bwyd gorau yn yr haf am fod ymenyn ffris i'w gael, tatws newydd a phob math o lysiau yn yr ardd, ynhgyd a ffrwythau.
**Tudalen 2/Page 2** 3. Yr oedd yn haws i ddarparu bwyd yn yr haf am fod mwy o amrywiaeth o fwyd ffres wrth law. 4. Amrywiadau bwyd – bara barlys, bara ceirch, "twmplis" [sic] afalau neu bwdin wedi ei ferwi mewn clwtyn neu liain, - efo gwsberis neu riwbob wedi ei dorri, o'i gymysgu mewn rhyw fath o "batter" gweddol dew, o'i ferwi am oriau mewn dwr berw yn y cwdyn lliain. Roli-poli a chyrens ynddi wedi ei ferwi un fath. Reis a llaeth wedi ei ferwi .weithiau. 'Sgedon ffres wedi eu ffrio, "mecryll o lan y môr." Ar ddiwrnod pobi fe [?] potes datws. 5. Ceid 'sgaden ar ôl diwrnod marchnad a chocos pan ddeuai'r dyn o gwmpas. Os byddai ffermwr yn yr ardd a buwch neu eidion wedi cael anffawd, megis dorri coes, gwerthid ef o dŷ i dŷ ac o fferm i fferm, wedi ei dorri yn ddarnau cyfleus. C. Bwyd y Sul. 1. Cedwid unrhyw faethyn at y Sul. Cig mochyn ffres weithiau a ffowlyn bryd arall ac hefyd fe geid gig eidion oer. Pwdin reis wedi ei bobi yn araf yn y ffwrn nes ei fod o liw hufen dwfn gyda "raisins" ynddo weithiau fe dorrai hwn fel tafell o fara wedi iddo oeri. 2. 'Roedd y bwyd yn well ar y Sul. 'Roedd mwy o ferched a morynion ar y fferm i eilio bod gartref i goginio cinio. 'Roedd cinio i'r pregithwr [sic] yn ei dro yn achlysur arbennig iawn. Yn aml iawn fe geid cig oer a thatws wedi berwi i ginio a phwdin reis wedi ei gynhesu. Weithiau fe geid tartu [?]. CH. Gweithwyr. 1. Mewn fferm ag un forwyn y feistres a baratoi'r bwyd, ond fe gai honno gyfle i ddysgu gyda'r meistres, a helpu i baratoi – crafu tatws etc.
**Tudalen 3/Page 3** 2. Y wraig fyddai'n paratoi'r bwyd gan amlaf ond pan fethau'r wraig y brif forwyn fyddai y gwneud hynny. neu y brif forwyn gyda'i meistres. D. Ystafelloedd y Tŷ 1. Ystafelloedd y llawr – Y gegin orau, y parlwr bach Ystafelloedd [sic] ('shwm') [?], llaethdy. Weithiau fe fyddai'r llaethdy ychydig ar wahân i'r tŷ. 2. Paratoid y bwyd yn y gegin. 3. Cedwid bwyd megis llaeth ac ymeryn yn y llaethdŷ. 'Roedd hwn yn le oer wynebu'r gogledd gyda llawer o meinciau o gurig [?] glas oer. Byddai bacwn yn hongian o dan y llofft yn y gegin. Byddai bara ceirch hefyd mewn basgedi o dan y lloft. Mewn rhai ffermydd 'roedd math o ystafell hirgul yng nghefn y llofft lle byddai'r custiau blawd ceirch, a "stand" i ddal y cosynnau. 'Roedd hefyd gwpwrdd yn y "thwm" foed. 4. Roedd pob math o gig at fwyd y gaeaf yn cael ei hollti neu ei biclo. Helltid moth, neu eidion mewn picl o ddwr a halen. Helltid pysgod a'u sychi yn y simne ac fe helltid crochenaid mawr o fenyn yn yr haf ar gyfer y gaeaf. Sychid llysiau o dan y lloft ac yna byddai rhaffai o "wynwyn" a brynid gan Stori Wynwns yn hongian. Byddai "shallots" a'u bresych coch yn cael ei piclo mewn finegr. DD. Lle Bwyta. 1. Os oedd y teulu'n fawr iawn fe fwytai'r gwr a'i wraig yn y gegin. 2. Fe fwytai'r gweision ar morynion eu bwyd yn yr "rwm ford." [?] 3. Y "rwm ford" [?] gelwir yr ystafell hyn. 4. Roedd y teiliwr ar [sic] wniadyddes yn cael bwyta gyda'r meistr a'r feistres yn y gegin yn yr rwm ford.