Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur gan Mrs Ellen Hughes, Rhosneigr, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by Mrs Ellen Hughes, Rhosneigr, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
**Tudalen 1/Page 1** [Cwestiynau wedi ei teipio, atebion wedi ei ysgrifennu] flwydyn: 1889 Beth oedd amser codi arferol? Pump or gloch y Bora A godai pawb yr un amser? dim ond y gwas ar forwyn A wneid unrhyw waith cyn brecwast? gwneir gwaith Pa bryd oedd amser brecwast? saith or gloch Beth a fwyteid i frecwast? gwanol Bithau bob dydd Bara llaeth Brwas A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? na fyddai dim ond y [gweision] a forwyn A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? ond mewn rhai ffermudd Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? ar ol Brigwast Pwy fyddai’n cymryd rhan? y Meistr ar gweision A gymerai pawb ran yn ei dro? gymerant ran yn ai tro A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? nacoedd Os felly, pa fwyd? — Beth oedd enw’r pryd? — Ym mh’le y bwyteid ef? — A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? — Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? deuddag or gloch A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? na mi fydd y teulu y ty yn gwahanol Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatws llaeth a tatws a gig a [Ygws] A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? na mi fydda gwas ar forwyn yn [aneglur] a teulu ty yn gegin troadd A oedd enw arall ar ginio? nacoedd
**Tudalen 2/Page 2** A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Naddo Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? — Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ gael eu cinio? dyfod at y ty [ddeuddy] os nha arall yn gweddi a [glch] mewn nhi ffermydd Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn? am bedwar yn haf [chwe guaf] Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? [gnauswd?] Beth a fwyteid? llaith a brechdan mewn nhi ffermydd a te a bara a menun [mewn hai] arall Ym mh’le y bwyteid y pryd hwn? Yn y lle byddar dyn gwithu yn haf ac yn tu yn y gaeaf Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? saith or gloch Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swpar Beth a fwyteid iddo? uwd llymru a llaeth wedi ai dwymo a brechdan Pwy fyddai yno (Y gweision er enghraifft?) ia Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Pa amser a wneid y godro? pedwar or gloch i bump A ffyddid yn dyrnu â ffust? byddai [?] aed ddyrnu yn y wlad amsr yna Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? gidar nos A beth am y dynion? Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y feiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? yr oedd gwahanol amser o ddeg i hanar nos A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? bydda y [mercha] y gweu A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf? oed yn yr haf bara llaeth yn guaf i fricwast [Brws a Brwas] Bara [Seirch] NELL o fon