Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur gan William Jones, Rhosneigr, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by William Jones, Rhosneigr, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
MS 348_0001 Beth oedd amser codi arferol? Caniad y Ceiliog, 4.30 i 5 o’r gloch A godai pawb yr un amser? Gwnant A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Gwneid Pa bryd oedd amser brecwast? Tua 7 o’r gloch Beth a fwyteid i frecwast? Potas gwyn, brwas, neu fara llaeth A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Byddant A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? Oedd Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Ar ol brecwast Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y Penteulu, ar gweinidogion yn ei tro A gymerai pawb ran yn ei dro? Gwnant A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nac oedd Os felly, pa fwyd? - Beth oedd enw’r pryd? - Ym mh’le y bwyteid ef? - A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? - Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Haner dydd A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Byddant Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatws, cig berw a brwas a bara A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Dim yn mhob man. A oedd enw arall ar ginio? -
**Tudalen 2/Page 2** A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Byddan amser cynheuaf i [arbed] amser. Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Oedd. Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio? Gyda’r Grogan ar gloch yn ddiweddarach Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn? Tua 4 o’r gloch Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cnwswyd Beth a fwyteid? Te, bara cymysg, bara ceirch ac ymenyn dim ond treat oedd bara gwyn ar rhyw achlysur neillduol Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Gyda’r gorchwyl ple bynag y byddant Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Haner awr wedi saith i wyth Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Hwyr bryd neu swpar Beth a fwyteid iddo? Sican, pincwsmali, llymru Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?) Y teulu ar gwasion sengl Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? [Arcdig hau] planu tatws lladd gwair ac yd [toi] dyrnu, codi tatws Pa amser a wneid y godro? Tra byddai y dynion yn bwyta brecwast A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddant Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Prydnawn fel rheol A beth am y dynion? Gyda’r nos Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) - Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Trysori i’r cof, adrodd chwidlau, codi afalau or dwr heb gymorth llaw Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Naw i haner wedi A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Gwneid, gwneud canwyllau gwer, a gwau hefo y droell A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Dim llawer o wahaniaith