This site uses cookies to improve your experience. View our Cookie Policy
Preferences

Cookie Preferences

Essential

These cookies are absolutely essential for our website to function properly.

 

Cookies that measure website use

We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.

 

Cookies that help with communications and marketing

These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.

 
 
View our Cookie Policy
Donate
Amgueddfa Cymru
Cymraeg
My account
Donate
Collections & Research
Departments Collections Online National Collections Centre

Amgueddfa
Cymru
Family

National Museum Cardiff

St Fagans National Museum of History

National Waterfront Museum

Big Pit National Coal Museum

National Slate Museum

National Wool Museum

National Roman Legion Museum

  • Collections & Research
  • Departments
  • Current Page: Collections Online
  • National Collections Centre
  • Articles
  • Ancient Wales
  • Art
  • Celf ar y Cyd
  • History
  • Natural History
  • The Museum at Work
  • Health, Wellbeing and Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • About Us
  • Collections & Research
  • Learn
  • Shop
  • Support Us
  • What's On
  • Get Involved
  • Health & Wellbeing

Collections Online

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Advanced Search

Advanced Search

Image filter options
Back to search results

Essay

Jenkin, Professor T.J. (respondent)

Ysgrif gan y diweddar Athro T.J. Jenkin, Aberystwyth, ar 'Traddodiad Llafar Cymru' yn ateb i Holiadur Amgueddfa Werin Cymru. Ceir nodiadau manwl yma ar - eirfa tafodieithol Cymru, cloddiau, cadw ty, gwaith ffermwr a chrefftwr, porthmyn, cymeriadau, arferion, priodasau, dynion hysbys, planhigion, peiriannau a.y.b. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.

Notes by Prof. T. J. Jenkin, Aberystwyth, in 1964 on sheep breeds and various aspects of Welsh life and Welsh folklore including dilectology, hedges, housework, farm work and crafts people, drovers, local characters, traditions, weddings. The information was as a response to the 1957 Welsh Folk Museum questionnaire. Answer Books were sent out by the Welsh Folk Museum to individuals across Wales as a way of collecting and documenting information on aspects of folk culture in their areas, including agriculture, crafts, food, customs and dialects. The responses were hand-written in the books. The Answer Books had a similar purpose to the earlier questionnaires sent out in 1937.

**Tudalen 1/Page 1** Wiliam Sâr, (Wiliam Daf; William Davies) Ym mhentref Maenclochog y triogai Wiliam a phan weithiai yn Budloy cerddai yntau yn ol a blaen pob dydd dros y cyfnod. Nis gwn i yn y byd faint a wyddai William am wahanol fathau o brennau o herwydd yn ei waith yn Budloy ychydig o gyfle a byddai iddo dangos hynny. Yr oedd llawer iawn o arfer a tradodiad ynglyn a pha bren i ddefnyddio at wahanol amcanion ac y oedd gan y ffarmwr ei hun ei farn a chyda hynny yr oed bob cyfle yn torri coed yn eu trin ac yn eu sychu a'u gosod o'r naill du hyd nes y byddai golur am danynt. Cofiaf fy hunan fynd i arwerthiad coed newydd eu torri yn y Gellifor, Cwm Gwaun. Yr oeddwn i brynu dwy coeden larswydden (larch) yno os cawn rai oed yn taro i wneud dwy ysgol dim llai na ugain [ffor] yr un o hyd; yn union; a heb fod yn rhy drwm. Prynais dwy; cawson hwy adref; llifiwyd hwy yn eu hyd a gosodwyd i orwedd ar daflod y glowty (glow-dy – beudy) i aedfedi a disgwyl eu hawser. Pren llarwydden hefyd oedd y gorau at glwydi ac os byddai rhuddin iddo, at bryd-byst o wahanol fathau. Ond tybier ein bod yn bwriadu rhybryd i wneud cart trwm newydd cyfan. Os byddai yr ecs (axle) i fod o'r bren, yna pren onnen o'r hyd a'r trwch priodol (gydag ychydig dros ben) y rhaid iddo fod heb golfen o gwbl. Rheswm am ddewis pren onnen oedd ei fod yn gryf a gwydn ac eto nid heb rywfaint ystrwyddfa fel y gallai 'roddi' ychydig wrth gario llwyth trwm ar hyd ffordd ar wastad a charegog. Dyna un o ragoriaethau pren onnen a'r paham y defnyddid ef bob amser i wneud coesau i offer ac arfau – pigffyrch, rofiau etc: hefyd i wneud cadeiriau at darw llafur (torri yd) a phopeth oedd yn gofyn am nerth a gwydnwch gyda rhywfaint o ystwythder, ond yn rhyfedd iawn, gyda ni, beth bynnag, defnyddid pren onnen hefyd at ran arall o'r cart lle nad oedd ystwythdu fel y cyfryw mor bwysig sef yn y ['curfse'] (cyrfsiau?, camog,felloes). Cofiaf gwympo hen coeden onnen yn arbennig ar gyfer hyn. Yr oedd yn fawr a hen iawn ond yr oedd ei rhannau isaf wedi eu crebachu gan ganghennau man fel pan y llifiwyd [?lir] yn blanciau o'r trwch priodol (tua 4 morfedd) nid oedd 'grain' i'w weld yn un man. Byddai yn gamp arbennig i hollti'r planciau hyn a dyna'r pwynt; rhaid i bren y cwrpyn beidio hollti ar un cyfrif. Yn y shafts (y prennau o bob tu i gefyll y bôn) ar y llaw arall yr oedd gofyn eto am ystwythder mewn prennau trwchus, ac, os yn bosib, gwell dewis coeden a oedd yn plygu neu yn camu ychydig gan ef ffordd iawn. I wneud bogeli i'r olwynion, rhaid oedd cael pren oedd a'r [???] leiaf bosib i hollti ynddo ac nid oedd hyd yn ddigon da. Yr hyn oedd rhaid ei gael at hyn oedd pren llwyffen (Elm) ac nid oedd coed felly yn tyfu yn ein cymdogaeth ni, ac felly rhaid prynu'r prennau at y bogeli drwy'r masnachwr coed yn Arberth. Yr oedd y spogau (adenydd? Spokes) yr olwynion i fod o derw wedi ei hollti gyda'r graen yn berffaith ac yr oedd holl ffram – waith y gist hefyd o derw, ond gallai ochrau a gwaelod y gist fod o goed cymharol feddal fel pinwyd o rywfath o herwydd gallid eu adnewyddau fel y byddai y galw. Cyfrifid bod pren masarn (sycamorwyd) yn dal yn dda mewn lle yr oedd llawer o dŵr a defnyddid ef i wneud llwyau rhod dŵr. Pren gwael ydoedd pren helygen ond yr oedd yn lled wydn ac yn hawdd ei naddi ac felly yn defnyddiol iawn i wneud dannedd rhaca bren. Pren ysgawen a defnyddid bob amser i wneud skewers (gwaechelli?) hir wrth osod gwyddau ar ol eu lladd yn barod i'w coginio ond defnyddid pinnau draw yn syth o'r ddraenen wan at ddal manion yn eu mannau iawn. Defnyddid coed cyll a helyg i wneud plethiadau i gau bylchau, a gwiail cyll a helyg i wneud cewyll (cawell; cawelli) a drysi (ar ol ei paratoi yn briodol) at wneud lipnau (a gwelais gadair esmwyth fawr wedi ei gwneud fel hyn o wellt a drysi). I wneud oged ddrain at drin tir gwair a thir pori nid oedd dim byd gwell na drain duon mewn [?clwyd]. Ar glawdd yr ysgol bob dydd, coed laburnum (golden chain)a deffai. Nid roddent llawer o gysgod ond yn briodol iawn at waith gwialen yn yr ysgol. Dai'r Allt: Dylwn gyfeirio at un arall a ddeuai bob hyn a hyn pan oeddwn ifanc iawn ond dim yn prin cof sydd gennif am dano. Dai'r Allt oedd hwnnw neu David Williams. Gwaddotwr oedd Dai – un oedd dal gwaddod (moles). Nis gwn i pa mor

**Tudalen 2/Page 2** dda ydoedd wrth ei grefft ond reaglau syml o'i waith ef ei hun a ddefnyddiau. Yr oedd Dai yn gefnder i fy nhad – y dau o honynt yn wyrion i Dafi Jenkin Gothy Walls ac yr oedd Dai yn frawd cyfan i Daniel William (y Bardd) i'r hwn yr ysgrifennodd Dr. Gwylfa Roberts erthygl goffa yn “Geninen” cyfrol XL, Ebrill 1922 td.80-85 ond ni chlwyais i bod gan Dai elfen na thalent at ganiadaeth. Calennig Dilyn ei grefft a enill ei fywoliaeth yr oedd Dai'r allt wrth [?waddota]. Ei faglau ef ei hun oedd ei ganddo rhai o wneuthuriad cartref cofiaf eu gweld ond nid yw fy llaw yn ddigon da i dynnu llun un o honynt. Gwialen gollen oedd y “spring” a llinyn rhawn ceffyl oedd y groglath – am ei fod yn wdyn a hefyd yn di-sawr. Yr oedd y magl yn effeithiol iawn yn llaw crefftwr. Ond yr oedd nifer o wragedd oedrannus neu wanllyd – gweddwau a rhai di-briod a ddeuent yn eu tro i gasglu Calennig tuag adeg y Calan. Nid oedd y ddiwrnod pendant ac felli gallai gwraig gymenyd rhai dyddiau i alw ym mhob man i bwriadai wneud. Er nad oedd bwyd blawd ceirch mor boblogaidd a chyffredin tua 1890 ag y bu cyn hynny, yr oedden ni yn Budloy bob tymor y [?gywu] rhai pynnau o'r ceirch goreu i'r felin i'w falu (ar ol ei grasu) y flawd ceirch man a gadwai yn berffaith am o lleiaf flwyddyn ond ei wasgu mor galed ag oedd bosib i “garnesh” (cist) ddofn o goed, (a blawd barlys yr un fath [?muon] adran arall o'r un garnesh). Bum lawer tro pan yn ifanc yn droednoeth yn sathru blawd yn y garnesh. Yr oedd yr arferiad i rywrai o'r ffarm fynd i'r felin gyda llafur a byddent yn helpu gyda'r malu etcdrwy'r nos ond ni fum i erioed gwneud hynny. Y peth mwyaf derbyniol o ddim gan y gwragedd hyn fel calennig ydoedd phiolaid neu dwy o bob un o'r dau fath hyn o flawd o herwydd gellid ei ddefnyddio pryd bynnag y byddai galw ond gellid ei cadw yn hir. Nis gwn i yn y byd faint fyddai unrhyw un yn gasglu mewn tymor ond yr oedd hwn yn hollol rydd a nid oedd yn creu dyled o gwbl. Yr oedd felly yn wahanol i ganiatau i ryw hon wraig “osod rhych o dato ar y ffarm o herwydd yr oedd yn dealledig bod cael “osod rhych o dato” yn golygu dyled o un diwrnod wrth y cynhaeaf (Sy [?] mi “gosod” tato yn hytrach na'u “plannu” na'u “hau” a fyddem ni er mai “tato hâd” a ddefnyddiem). Anrhegion: Yn ein teulu ni, yn leiaf, nid oedd yr arferiad o rodi neu gyfnewid anrhegion yn bod er na waherddid i ni'r plant i dderbyn ceiniog neu dwy gan ryw ymwelyd fel y gwelais yn ddiweddarach dad a mam o [?ysgofiaid] yn gwneud. Y syniad o'r tu ol yn [?ddriau fur?] mai peth i'w enill yr arian a phob peth arall heblaw bwyd a dillad. Tra yr oeddwn i eto yn blentyn ifanc yn yr ysgol, er hynny, pan ddelai mis Chwefror (yr oedd y “Ddefad Las” oedd yn alw yr adeg Hen Galan wedi diflannu cyn hynny) cawn sialens y byddwn yn enill tair ceiniog os mai [?'myfu'] a fyddai y cyntaf i weld oen bach cyntaf y tymor. Ond ni chredaf bod y tair ceiniog wedi gwneud un gwahaniaeth o gwbl – y byddwn wedi codi i fynd i fysg y defaid pan fyddai dechrau goleuo yn y bore ac y byddwn allan eto yn eu plith mor fuan ac y gallwn gyrraedd adre o'r ysgol yn y prynhawn – tair ceiniog neu beidio. Ond [?erys?] un eithriad ar fy nghof. Dechreuodd fy mrawd adael yr ysgol cyn ei fod yn 12 oed i “dilyn y ceffylau” ar ol i'r gwas diweddaf adael yn Hydref 1894. Nid oedd gadael yr ysgol yn poeni llawer arno ef. Nid cafodd anhawster erioed gyda'i wersi ond nid oedd ymhoffi ynddynt i'r un graddau ag y gwnawn i. Un o bethau mawr mab a gwas ffarm ydoedd bod yn berthen “watch” (oriawr). Mor bell yn ol a mis Ebrill 1878 talodd Edward Harries a oedd y was yn Budloy ac yn enill £13:5:0 am y flwyddyn o waith, bedair punt am watch! Nid bu fy nhad yn berchen oriawr erioed (ond un oriawr y gafodd yn ol ei hanner brawd y Parch Abedngo Jenkin ac nid oedd honno yn cadw amser. Nid chariodd fy nhad hi erioed). Ond pan adawodd fy mrawd yr ysgol cafodd addewid y byddai yn cael watch yn eiddo iddo ef ei hun

**Tudalen 3/Page 3** pan fyddai yn 15 oed – ac fe'i cafodd – English Lever mawr gyda châs arian trwm yn werth 50/- [shillings] a honno fu ganddo gydol ei fywyd ac yr oedd yn falch iawn ohoni. Cofiaf hefyd i Tom Llewclyn, brawd hynaf fy mam, ddwyn adref gydag ef “brooch” arian yr un i'm dwy chwaer yn 1889 o'r Almaen. Nid oedd dim rhodd pen-blwydd na rhodd Nadolig i neb a phan ddaeth fy mrawd a minnau yn perchen dafad yr un (er mwyn i ni gael pris oen yn arian poced am y flwyddyn) bu rhaid I mi dalu 10/-[shillings] yr un am danynt allan ceiniogach oeddem wedi eu [derbyn] o dro i dro gan hwn a'r llall. Ond ar ol i mi adael cartref os na fyddwn gartref ar dydd fy mhen-blwydd, byddai fy mam yn gyson yn danfon cyw iar i mi yn di-dor hyd ei marw yn 1929. Egwyddai fy chwaer hynaf am hyn a decreuodd hi wneud yr un peth yn 1930 a gwnaeth hitau yn diffael bob blwythyn hyd ei marw yn 1944. Fyth wedi hynny – eleni, 1864, yw'r ugainfed tro i'm nith ([???] fy chwaer arall) wneud yr un peth – a'r tair o honynt heb ddisgwyl dim yn gyfnewid. Ac eto yr oedd rhoddion cymdogion a'i gilydd – ond rhoddion mewn pethau a mewn gwasanaeth oeddynt bron i gyd, a gwasanaeth gyda'r cynhaeaf gwair oedd y pennaf oll. Cylch helpu gda'r gwair yn Budloy oedd:- Bernard's Well Ichaf – Ffarm dau neu dri lladdiad o wair (Maurice John) George Wardoro[?] Bernard's Well Isaf - “ pedwar lladdiad John Phillips Y Dyffryn - “ tri lladdiad John James Holmws Fach (= y Cnwc) Tyddyn bychan un lladdiad Mrs Anne Williams Yr Holmws - Ffarm dau lladdiad Thomas Higgon Bla'cnwc Isaf - “ pedwar lladdiad David Phillips Bla'cnwc Ganol - “ un lladdiad lled fawr Enos Griffiths Bla'cnwc Ichaf - “ tri lladdiad Benjamin Perkins Patshin Glas (Brynglas) - Tyddyn un lladdiad Daniel Howell Trebengych - Ffarm dau neu dri lladdiad Benjamin John Horeb (Skerry Hill) - Tyddyn un lladdiad Elizabeth Evans Gotty Isaf (Gotty Walls) – Ffarm dau lladdiad Elias Phillips Penrhiw - Tyddyn un lladdiad Evan Jones Rhydfach - “ “ “ David Harries Budloy - Ffarm dau neu dri lladdiad David Jenkin Gotty - “ dau lladdiad (Thomas James) Daniel Williams Dyna'r cylch cyson a chyflawn ac ambell dro byddem hefyd yn helpu yn: - Bellevue Rhosy-bwsh – tyddyn: un lladdiad Griffith Williams (gôf) “ Rhosy-bwsh – tyddyn: un lladdiad peter Edwards (crigydd) Eithbed Maenclogoch - Ffarm dau lladdiad Maurice John Byddai helpu gyda'r gwair er hynny yn ol y dyled (gyda llawn eithriad yn ol yr amgylchiadau). Creu dyled a fyddem ddechreu'r tymor drwg fynd I ffarm oedd y gwair ar lawr ar fore y diwrnod crefu'r gwair neu ar fore cywain y gwair – fyth ymlaenllaw – a'r gofyniad ydoedd bob amser “ Odych eishe help at y gwair heddi?” Rhaid gofyn I feistr y ffarm. Os na fwriadai ef gywain y gwair y diwrnod hwnnw – os mai ei grafu, ei drin a'i 'goco' fwriadau, fo allai y meistr wrthod help yn enwedig pan fyddai yn ddigon eisioes wedi dod ynghyd ond ni feiddiai un ffarmwr gwrthod help gan neb ar diwrnod cywain y gwair oblegid fe gyfrifid hynny yn sarhad anfaddeuol. Y canlyniad oedd bod ambell dro lawer mwy o ddwylo yn gweithio ar laddiad o wair nag oedd eu hangen. Cofiaf weld dros deugain o weithwyr yn Budloy ar diwrnod gywain gwair y Weinglodd lle y byddai 30 yn llawr digon. Ond ar gynhaeaf gwair drwg, yr oedd dwylo'n brin fynnych a'r gwaith yn galed o herwydd byddai y lladdidau ar y gwahanol ffermydd yn dal ei gilydd a delai nifer o laddiadau ar wahanol ffermydd i'w cywain ar yr un diwrnod a rhaid oedd rhannu'r dwylo yn ol y dyledion. Yn ystod y cyfnod 1900 hyd 1908 (gan cynwys y dau) a hefyd, i rywfaint llai mesur yn 1909 a 1910 bum i yn helpu gyda'r gwair rywbryd neu gilydd ym mhob un o'r lleoedd hyn, ac ar

**Tudalen 4/Page 4** y cyfan hwyrach mai hwn ydoedd tymor mwyaf difyr y flwyddyn ar y ffarm. Fel y rhedai tymor y cynhaeaf gwair ymlaen y duedd ydoedd i “anghofio dyledion wedi'i cwbl ac i rhai yn ffodus i orffen yn gymharol gynnar fynd i helpu y rhai oedd ar ol pa un y fyddai dyled neu beidio. Ar tud. 4 o un holiadur yn y par cyntaf cyfeirir at amryw bethau fel 'Mari Lwyd'.etc etc. Yn y modd symlaf ceisiaf ateb y pwyntiau a godir - 1. Ni chlywais i erioed (yn y cyfnod 1890-1909) so lleol o 'Mari Lwyd' na dim byd o'r fath. 2. Ni oedd dim son am na seremoni ynglyn ag wyau'r Pasg. Yr unig beth a ddigwyddai oedd bod pob un yn cael wy cyfan i frecwast y diwrnod cyntaf y byddai pris wedi gostwng i ddimau yr un. 3. Ni chlywais ddyweddiad tebyg i “hel bwyd cennad y meirw” a ni cofyf eto yn ei deall. 4. Clywais son am nethiorau fel [perhau ?] a fu, ond ni chefais fanlynion – neu os cefais, ni chofnodais hwy ac aethant yn angof. Gwn, ar hynny, mae ffordd I helpu pan ifanc i ddechrau eu byd oeddynt a deallaf mae peth tebyg a helpu gyda'r gwair ydoedd – creu a talu dyled. Gan agor hen lyfr cyfrifon Budloy ar antur dyma rai cyfeiriadau - Cyfrif David James 1861 Oct 1st pd Jno gof weding 0:1:0 “ “ “ “ June 17 Bernard's Well 0:1:6 “ John Jenkin 1861 Feb 27th paid for Jno John weding 0:1:6 “ “ June 11 Maria weding 0:1:0 “ “ Oct 8 Griffith gof weding 0:1:0 “ “ Oct 8 pd Hulmers weding 0:3:0 “ Martha Evan 1860-61 pd David gof weding 0:0:6 “ “ Feb 26 pd for Jno John weding 0:1:0 “ “ Jun 11 Maria weding 0:1:0 “Jane William 1860-61 Jan 12 pd for Jno John weding 0:1:0 “ “ Jun 11 Maria Weding 0:1:0 “ “ Jun 11 David gov weding 0:0:6 “ “ Oct 8 Griffith gof weding 0:0:6 Nid oes ond fel uchod yn y llyfr cyfrifon ynglyn ar rhoddion hyn ac felly nid oes gyfeiriad at neithiorau fel y cyfriw ond y mai'n sicr mai rhoddion mewn 'arian sych' oedd y rhai hyn ac fe welir bod [???] John Jenkin fewn un flwyddyn wedi 'bud-soddu' cyfanswm 6/- [shillings]. Ceir cofnodion tebyg yn llai mynych o hynny ymlaen ond yn y cyfrif am Edward Harries 1876-1877 ceir - January 5 pd him to buy Christmas gift 0:10:0 February 20 pd him Mary Rees weding 1:0:0 May 17 Sarah Jenkins weding 0:5:0 Dyma'r cofnodion diethaf a welais i (heb chwilio byd berffaithrwydd) am weision a morwynion yn codi arian cyflog i wneud rhoddion priodas a digon tebyg bod yr arfer o leiaf yn gwanhau o tua 1876 ymlaen. Pa rhoddion oedd y rhai hynny a wnaeth Edward Harries yn Mis Ionawr 1877 nis gallu gwybod. Yr oedd Edward yn enill cyflog o £12:10:0 am ei flwyddyn – cyflog uchel am yr amser hwnnu ac ar derfyn ei flwyddyn yr oedd £15: 19:0 yn ddyledus iddo. Priodasau Dylwn i fod mewn sefyllfa dda i ddiscrifio priodasau fy hun ardal rhywle tua'r cyfnod 1850-60 o herwydd discrifiodd Daniel William (y bardd) [?gwib?]

**Tudalen 5/Page 5** ysgrif. Gwylfa arno ef yn Y Geninen (1922) rai o honynt yn lled fanwl i mi. Yn anfodus ni fyddai dim byd llai na tape recorder yn ddigon da i wneud nodiadau cywir a manwl, ac nid oeddwn i ar y pryd ond gwrando a mwynhau heb wneud un nodyn o gwbl, a llythras y cwbl bron o'm cof. Un peth y gofiaf er hynny yw, bod rasus yn arferol ac yn boblogaidd iawn ynglyn a priodasau yn y coffnod hwnnw tua'r amser yr oedd Daniel William yn was yn Budloy (1855-6 a 1856-7). Gallai y ras bod ar droed neu ar geffylau, yn dibynnu, mi gredaf, ar y pellder rhwng cartref y gwr ifanc a chartref y wraig. Fu ol ei dystiriolaeth ef ei hun, yr oedd Daniel William yn gampwr ar redeg pellder o rai milldiroedd ar draed ac nid rhyfedd, hwyrach, gan ei fod yn cerddor ac yn ddatganwr da fel yr oedd yn defnyddio llawer iawn o'i amser rhydd i ddysgu corau i ganu. Ni chlywais i ddim [?son?] bod rhedegfeydd o'r fath wedi bod pan briodwyd fy nhad a fy mam yn Nhy Cwrdd y Bedyddwyr, Bethseda, Arberth yn Mis Hydref 1879. Yr unig beth y glywais am honno yw mai 'priodas' ceffylau' ydoedd. Hynny yw bod pawb a oedd yn perthyn i waith y briodas, gan cynnwys y gwr a ferch ifanc, yn marchogaeth ar ceffylau – i'r briodas ac o'r briodas i'r cartref newydd. Nid oedd son am “fis mil” o gwbl. Dychwelai'r wraig ifanc i'w chartref newydd yn syth o'r briodas i gydio mewn gwaith ffarm! Y briodas gyntaf y bum i ynddi, (tua 1894 gallwn feddwl) oedd priodas Tom Owen a Mary Anne Harries yn Horeb, Maenchlochog, priodas dawel iawn ydoedd honno heb ddim ffwdan o fath yn y byd, o herwydd nyddwr edyfedd wlan oedd Tom Owen a morwyn ffarm oedd Mary Anne Harries ond pendefigion o ran eu cymeriadau gwaithgarwch crefyddol. Mewn gwyrionedd, nid oedd rhai y fyddai yn priodi yn yr ardal honno yn hoff o wneud arddangosiad a'u priodas, a chadwent yr amgylchiad mor dawel ag oedd yn bosib o herwydd pobl yswil iawn ydoedd pobl y fro honno. Geilw[?] yr ymdrafod cyffredin ac agored y sydd heddyw (1964) ynghylch rhyw a'r duadd i gyfeirio at genedlaethau o'r blaen fel rhagrithwyr am sylw yma. Gellir cydnabod yng ngeiriau [ein?] hen frawd bod damweiniau yn digwydd wrth garu ac fe glywais son am “garu yn y gwely” ond y mae yn sicr gennyf nad oedd y naill beth na'r llall yn arferol yn y cyfnod 1890-1919. Y mae'n ddigon posib y dangosai ystadagaeth bod priodi yn y Swyddfa Gofrestru yn hytrach nag mewn eglwys na Ty Cwrdd yn beth cyffredin, ond dylid bod yn ofalus I beidio cymryd yn ganiataol bod hynny yn golygu bod plentyn eisioes ar y ffordd o herwydd priodai llawer yn y swyddfa yn unig er mwyn osgoi cyhoeddusrwydd a ffwdan. Nid oedd y priodi i'r rhai hynny o natur sacrament – nid oedd y weithred ynddi ei hunan yn cyfleu bendith yn brydol ond yr oedd yn ymrwymiad llawn mor bendant a llawn mor ddififol a chrefyddol a phe bai'r priodas mewn eglwys neu Dy Cwrdd. Os digwyddodd 'damwain mewn garu' er i'r ddeuddyn briodi cyn i'r plentyn gael ei eni cymerai yr eglwysi Anghydffurfiol hyn fel peth yn gorfodi ddiarfeliad a thorrid y troseddwyr allan o ailodaeth. Ond rywfodd chyfrifid y troseddi yn un difrifol iawn o herwydd ymhen dau neu tri mis gallai'r troseddwr i'r Cwrdd [P?] a chaeil ei adfer i ailodaeth, a gallai un o'r ddiaelodwyd am y trosedd hwn gael ei ethol yn ddiacon yn mhen rhai Glynyddau[?]! Ond nid oedd hyn yn lleihau dim ar bwysiggrwydd bod yn rhydd o'r trosedd. Yr oedd i aelod o deulu fod yn eog o hono yn tynnu gwarth ar y teulu cyfan a hwyrach bod hynny yn fwy o atalfa na bod un yn tynnu gwarth arno ef ei hun. Y mae'n wir bod ambell unigolyn yn anghofio pob cyfrifoldeb a chlywais am un ychydig cyn fy amser i, ag yr oedd ganddo dair [?] yn feichiog yr un pryd. Diangodd ef i'r America! Yr oedd ambell ferch un yr un modd yn syrthio i'r un trosedd fwy nag unwaith. Ond y safon yn hollol bendant ydoedd diweirdeb cyflawn cyn priodi, a phriodas gyflamod santaidd pa le bynnag y byddai y gwasanaeth. Dynion Hysbys Yr oedd son am 'dynion hysbys' yn y cyfnod 1890-1910, ond rhai yn bod yn y gorffennol oeddynt y pryd hynny. Yr oedd rhywfaint o son am Doctor Jones Werndew (Werndu?) rhywle i gyfeiriad y dinas (Dinas Cross) - y gallai ddad-reibio, a bod ganddo ryw lyfrau mawr, trwm, [mas?] gallai neb ond ef eu darllen a'u ddeall. Drwy y rhai hynny gallai 'godi Ysbryd Drwg' a'i osod i lawr y drachefn. Ond yr oedd ganddo forwyn oedd yn myfyrio yn y llyfrau hyn bob cyfle a gelai. Un bore Sul, a Dr. Jones wedi mynd i'r eglwys, Llwyddodd y forwyn 'codi'r Ysbryd Drwg' ond methai yn lan a'i osod i lawr drachefn. Rhaid oedd felly yn gadw yn brysur hyd nes y delai Dr. Jones adref a gorchwyd a osododd hi iddo ydoedd cario dwr mewn gogr i lanw cerwyn fawr. Fe wn bod hon yr hen stori gyffredinol ac mai y peth mwyaf diddorol ynddi yw y

**Tudalen 6/Page 6** ffordd a ddyfeisiwyd yn y gwahanol ardaloedd I gadw'r Gwr Drwg yn brysur. Y 'Dyn Hysbys' y mwyaf enwog hyd yn oed yn ardal Maenchlochog ydoedd Harries Cwrtycadno (yn uchel yn sir Gaerfyrddin). Yr oedd striau am dano ef (neu amdanynt hwy dad a mam ) yn mynd yn ol hyd tua diwedd ddeunawfed ganrif.Y fanylaf y glywais oedd am dano ef a John Lewis, Trebengych, ond rhaid dwyn Pegi Lewis Bla'cnwc i'r mewn y stori honno hefyd. Y mai map o ffarm Bla'cnwc (Blacknuck) a wnaid yn 1754 yn y Llyfyrgell Genedlaethol. Clytiau o dri ar wasgar ydoedd y pryd hynny, a'r rhai yn perthyn i wahanol berthnogion. Pa bryd y rhannwyd hi yn dair ffarm ac yr amgaewyd rhagor o dir, nis gwn, ac felly nis gwn yn gywir ym mha le yr oedd Pegi Lewis yn byw ond nid bod dychmygol ydoedd hi o herwydd y mai ei henw yn hon lyfyr eglwys [?Rhydwelyn]. Cyfrifid ei bod hi yn ddewines ac y gallai reibio: (ac hefyd y gallai droi yn ysgyfarnog pan fynnai ond stori arall yw honno). Nid oedd dim byd allan o le yn y ffaith bod Pegi ar yr un pryd yn ddewines ac yn ddynes grefyddol iawn – neu o leiaf yn selog iawn fel Bedyddwraig ac yn ei thy hi, Y bla'cnwc, y byddai Bedyddwyr y cylch yn cyfarfod i gyd -addoli. (Ni chodwyd Ty Cwrdd Horeb hyd1835). Nis gwn i a oedd Pegi Lewis y Bla'cnwc a John Lewis, Trebengych (rhan o Drebencych fu'r Bla'cnwc rywbryd cyn 1754) yn perthyn i'ur gilydd ond yr oedd John Lewis hefyd yn Fedyddwr er bod ei chwiriodydd yn “Bresbyteriaid” (anibynwyr) (un o honnynt yn wraig i Dafi Jenkin, Gothy Walls). Cododd rhyw gweryl rhwng John Lewis, Trebencych a Pegi Lewis, y Bla'cnwc, ac, un bore methai gwartheg John Lewis a chodi oddiar eu gorwedd. Y tebg yw y “gwyddai” John Lewis mai Pegi Lewis oedd wedi “rhibo'r” gwartheg ac mai y problem oedd sut i'w dad-ribo. Aeth John Lewis i Gwrtycadno at Harries ac rhyngddynt penderfynwyd mai Pegi Lewis oedd wrth wraidd y drwg er bod John Lewis yn protestio yn erbyn hynny arni fod Pegi yn wraig dda ac y cynhelid cyfarfodydd crefyddol yn gyson yn ei chartref. [Ateb?] Dr harries i hyn oedd bod hynny yn gwneud y gwith o dda-ribio yn fwy anodd am fod dynion [?] yn gweddio ar ei rhan. Ond tynnodd y doctor fras-gynllun allan i John Lewis. Y peth cyntaf ar ol dychwelid adref rhaid iddo symud y cyfarodydd crefyddol o'r Bla'cnwc fel na byddai'r un amddiffyn dros Pegi Lewis. Y peth arall oedd bod rhaid iddo rywfodd dynnu gwaed o gorff Pegi Lewis ac o'i merch oedd yn byw gyda hi yn y Bla'cnwc. Ni chafodd John Lewis drafferth gyda'r rhan cyntaf. Ar diwedd y cwrdd yn y Bla'cnwc, cododd, a chyn i neb wybod beth oedd ei fwriad, cyhoeddodd mai yn Nhrebengych y byddai y cyfarfod nesa ac felly y bu. Yr oedd ail rhan y cynllun yn fwy annodd. Yr hen feidir i'r Bla'cnwc o fforddd Trebengych yn ddiau yw honno sydd yn dechrau yn ymyl Patshin Glas (Bryn Glasyn awr) ac yn cyrraedd yn cwmins y Bla'cnwc rhwng Bla'cnwc uchaf a Bla'cnwc ganol. Y Mae honno, mewn mannau, yn dwfn ac yn gul iawn ac ar hyd y feidir honno yr [?] Pegi Lewis a'i merch wrth gychwyn i bentref Maenchlochog. Gwchodd John Lewis hwy yn mynd ryw ddiwrnod ac aeth i'r feidir honno i'w disgwyl yn dychwelyd. Ar bob cyfrif mis gallai ymosod yn giaidd arnynt i dynnu gwaed ohonnynt. Yn ol [?] a phrofiad gwlad pigiad drainen ddu a phigiad drainen wen yn dueddol iawn i chwerwi a gallent wenwyno'r gwaed ac ni chyfrifid pigiadau [?] yn ddiogel ychwaith. Felly dewisodd John Lewis frigau pren celyn a phan ddaeth y ddwy ddynes, ymosododd John Lewis arnynt gan defnyddio'r brigau celyn a thynnodd [?] o waed o'r ddwy. Pan dychwelodd i Drebengych cafodd bod y gwartheg i gyd wedi codi ac yn hollol hapus!* Sonid am eraill hefyd o'r ardal a ymwelodd a Chwrtycadno – o leiaf un a oedd yn fyw o [?fawr] fy nghof i ond ni chofiaf am neb yn fu yn fy amser i yn ymgynghori a “Dyn Hysbys”. Ond pan dechreuwn fynd yn ol at bethau fel hyn, daw pethau eraill i gof. Fe gwnes i gyfeiriad eisioes at - Yr Ysbryd Drwg Yng gnhyntaf oll credaf mae yr 'Ysbryd Drwg' sylfaenol oedd y Diafol fel 'pennaeth y * Nid yw cyfrolau 'Y Prioritan Newydd' yn fy meddiant. Cyhoeddwydd 'Hanes y Bedyddwyr yn Ardal Maenchlochog' yn hwnnw (tua 1900-1905?) a chredaf yn sicr bod cyfeiriad at y Bla'cnwc ac at Trebencych yn hwnnw. Gan yr awdur David Jenkin (fy nhad) y cefais i'r stori uchod.

**Tudalen 7/Page 07** Cythreuliaid' ond yr oedd ein hastudiaeth o'r Beibl wedi rhodi'r syniad i ni bod nifer mawr o ysbrydion Drwg neu gythrenliaid oedd yn is-wasanaethgar i'r Diafol (fel pennaeth) yn bod ac y gallai rhai pobl cymdeithasu a fwy fel y forwyn honno a lwyddodd 'codi'r ysbryd ddrwg' ond a fethodd ei ddanostwng. Ni chofiaf yn sicr a oeddem, yn yr Ysgol Sul tua 1900-1910 yn barod i gydnabod mai dyn a'i synhwyrau wedi eu drysu oedd y dyn a'i ysbryd allan ynddo yn y Testament Newydd ond yn sicr ni chredem mai mai[sic] dyn wedi ei feddiannu gan 'Yr Ysbryd Drwg' heb son am y Diafol ei hun oedd dyn a oedd wedi colli ei synhwyrau. Ambell dro, er hynny, pan welai rhywun weithred eithriadol ddrwg, ac yn enwedig os byddai y dyn hwnnw yn hollol resymol yn ei ymddygiad, gallam ddwyd fod ei ymddygiad 'fel pe bae'r diawl wedi cydio ynddo' gan golygu yna nid bod rhyw [?] bach o gythrenol wedi ymaflyd ond y [?] Ddiafol ei hun. Ond, cyn fy amser i) yr oedd y Ysbryd Drwg yn trigiannau mannau arbennig, ac yn ymddangos i bobl arbennig. Nid yr un un oedd ymmhob man ac ar y cyfan, rhai cyfeillgar i ddyn oeddynt cyhyd ac y byddai dyn yn cydnabod y rholau ond gallent droi fel arall. Yr oedd son hyd yn oed yn fy amser cynnar i bod Ysbryd Drwg yn gwarchod cist neu gerwyn o drysorau rhywle yn Foel-Cwm-Cerwyn pigyn uchelaf Preselau. Nid oedd bugeiliaid y Preselau wrth ddilyn eu gorchwylion [?] yn cael un achos i gofio am ei fodolaeth. Nid oedd achos iddynt ofni dim ddydd ac nos. Ond os elai un dros ryw fan arbennig ar odre'r mynydd gyda'r bwriad o chwylio am y trysor deuai yn storom enbyd o law a thoranau (o waith ceidwad y trysor) ac ni gallai wneud dim o gwbl. Yn ol syniad yr ardaloedd yr oedd y trysor hwnnw ar hyd rhywle ar Foel Cwm Cerwyn , a'r Ysbryd Drwg hefyd yno o hyd yn ei warchod! Cefais gyfle o [?fawr y llynyddau?] diweddar i gael ambell gip ar “A Historical Tour Through Pembrokeshire” by Richard Fenton Esq. F.R.S London 1811. Gall fod Fenton yn [?] dda ond nis gallwn i lai na chasglu bod ganddo syniad uchel iawn o'i bwysigrwydd ei hun. [?] thudalennau 348 & 349 sonia am ddiwrnod mawr a drefnasai i'u dreulio tua Preselau a Maenchlochog. Dylwn i ddweyd mai yn hydref y flwyddyn 1846 yr oedd hyn – adeg yn hanes Ewrob pan yr oedd yn rhy beryglus i'u gwyr mawr i fynd ar y 'Grand Tour' ar y cyfandir ac o herwydd hynny trodd rhai eu [??] [??] Gymru i ddod o hyd i bethau newydd - heb anghofio yn diau y 'brodorion'. Yr oedd gan Fenton ei fwriad arbennig ef ei hun ond trefnodd i wneud hynny yn achlysur i ddangos rhwysg a mawredd o dosbarth ef o dynion gerbron dynion bach cyffredin y mynyddau drwy eu dwyn yno yn marchogaeth ar ceffylau urddasol neu mewn cerbydau gwych, ac ar ol dangos ei ysblander, yna gwinia ar lun y mynydd. Ar ol y hanes a sydd ef, llwyddodd ef i ddod o hyd i gist gydag URN (wedi torri) ynddi. “The pottery was very crude and ill-baked but the model elegant … contained a large quantity of charcoal, ashes and small pieces of bone not perfectly calcified … ond yn fuan ar ol i'r crymdaith[?] (cavalcade) wych gyrraedd newidiodd y tywydd i law mawr (ni sonir am fellt a tharanau) a gorfodwyd hwy i gael eu gwledd mewn tafarn ym mhentref Maenchlochog. Ydyw, y mae'r hanes o saflwynt Fenton yn ddiddorol i mor [?] i gylla dyn cyffredin, ond beth, tybed, oedd barn y 'brodorion' eu hunan am hyn oll? Yn ol pob tebyg yr oedd yr ymgyrch i gyd yn hollol annisgwydd iddyn hwy ac nis gallent wybod dim am fwriadau yr ymgyrch. Nis gallent hwy, felly, ond tynnu casggliadau oddi wrth yr wyn a welant (ac ychydig hwyrach oddiwrth y hyn y glywsant o herwydd yr oedd ambell un o'r brodorion a dillai rywfaint o Saesneg). A'r hyn y welant hwy oedd llu mawr a phwysig yn ymweled a Moel Cwm

**Tudalen 8/Page 8** Cerwn i ddwyn ei thrysor; y tywydd yn torri, a'r ymchwilwyr yn cael eu gwasgar. Ai nid gwaith y gwarchodydd, yr Ysbryd Drwg oedd yn trigo ar Foel Cwm Cerwn ydoedd hyn? [Yn anffodus nid oedd gennyf fi dystiolaeth uniongyrchol ynglyn a hyn. Y mae yn hollol bosch[?] bod fy nhad-cu, John Jenkin, wedi gweld rhywfaint o'r hyn a ddigwyddodd o herwydd y oedd ef wedi priodi ym mis Ionawr o'r flwyddyn honno 1806, ac yn ol pob tebyg yr oedd yn byw ar y pryd yn y “Mwntan” - y tu uchaf i Faenclochog, ond ni chofiaf i fy nhad son dim wrthyf fi yn y tro hwn]. Ie, un a garai llonyddwch oedd Ysbryd Drwg Moel-Cwm-Cerwn, ond gallai droi yn gas pan fyddai gofyn. Ni chlywais i i hwn erioed gymdeithasu ag unrhyw dyn. • Yr oedd Ysbryd Drwg Mynydd Budloy dipyn yn wahanol. Hen wr cwbl barchus oedd y Parch Henry George, gweinidog yr Anibynwyr yn Brynberian;Maenclochog; Bethesda [?Llanbadra?] ac efallais eglwysi ereill. Yr oedd y rhan fwyaf o dir ffarm Budloy wedi bod yn nwylo Lloyd y Bla'cnwc yn ystod rhyfeloedd Napoleon a digon tebyg wedi hynny – efallais hyd 1835 neu yn agos i hynny ac nid oedd angenTy Budloy arno at redeg y ffarm. Yn “Ty Tyst”, Hydref 20 1955, ceir yn agos i golofn ar dud.6 o dau y penawd: “Dyddiadur y Parch Daniel Evan Owen 1803-1830 ond er y nodir dyddiau yr wythnos, ni nodir na'r mis na'r flwyddyn, Ceir fel hyn: “23 Maw.) Pan aethom i Bwdloy[sic] cyfarfyddais ar hen weinidog W, harries...” eto “28 Sul............cysgais yn Bwdloy.” Y casgliad y synnaf fi o hyn yw mai rhyw W. harries oedd y pryd hynny yn byw yn Budloy ac yn weinidog ar eglwysi'r Anibynnwyr yn y cylch – Brynberian, Maenclochog, a rhai eglwysi eraill a'r fod yn hen wr ond nid oes dim i ddangos ym mha flwyddyn yr oedd ymweliad Daniel Evan Owen. Ni chlwyswn i son am y Parch W. harries fel un a fu yn byw yn rhy Budloy, ond [?ymddengys?] yn lled sicr mai rhymydd iddo ef oedd y Parch Henry George a fu hefyd yn byw yn Budloy ac yn weinidog Brynberian, Maenchlochog, etc. Bu Henry George farw yn 1840 (clafwydd ef yn mynwent Brynberian) ond yr oedd wedi ymadael o Budloy rai blynyddau cyn hynny ac wedi ymddeol o ofalaith yr eglwysi, o herwydd cyn ei farw yr oedd y Parch Evan (?) Lewis esioes wedi ei benodi yn weinidog Brynberian.Mab y parch Evan (?) Lewis ydoedd yr athro D. Morgan Lewis M.A. Pennaeth adran physeg yng Ngholeg y Prifysgol Aberystwyth, ac yr oedd ganddo ef gof plentyn o'r Parch Henry George yn dod i de i gartref y teulu, a D.Morgan Lewis a'i frawd ofni y byddai Henry George yn bwyta'r bara can i gyd gan gadael dim o hono iddynt hwy. Cof D.M.L. Amdano, oedd ei fod, yn ei hen ddyddiau, yn ddyn corffol iawn. Yr oedd taith weinidogaethol Henry George yn un fawr iawn ac elai o'r naill fan a'r llall ar geffyl o rywfath.Pan fyddai yn dychwelyd o Frynberian i Budloy, byddai yn croesi y Preselau, digon tebyg dros Fwlch Pennant, a pham, yn yr nos, y delai traed ei geffyl a'r dir Budloy (yn ol yr hanes) deuai “Yr Ysbryd Drwg” wrth ei ngil a'r cefn y ceffyl ac ymgomient yn rywfaint o leiaf. Yr oedd Henry George mor hyf arno a mentro ei geryddu ambell dro a dweyd wrtho bod y ceffyl esioes wedi blino ac y dylai ef “Yr Ysbryd Drwg” ddisgyn rhag gor-flino'r ceffyl. Er hynny, ar ol yr “hanes” (storiau) yr oedd cymdeithas Henry George a'r Ysbryd Drwg yn hollol gyfeillgar. Pan oedd fy nhad (a anwyd Tach 8 1851) yn ddyn ifanc aeth ar neges i Llys-y-Fran – dywedir rhywle tua 1868. Yno yr oedd gweithdy crydd pwysig, ond gan nad yw “almanac y Cymro” am y blwyddau wrth law gennyf, nis gwn a oedd Daniel Jenkins, y prif-grydd yn fyw ar y pryd er y credaf ei fod. Bu Daniel Jenkins yn gyfrannydd cyson o “ddychmygion” ac [??] i Almanac y Cymro am rai blynyddau, ac felly hefyd ei fab Javez Jenkins a oedd hefyd yn grydd wrth ei alwedigaeth. Ond yr oedd Daniel Jenkins hefyd yn brif feddyg y cylch (a etifeddodd Jabez hynny hefyd) a digon tebyg mae mynd i weld Daniel Jenkins fel meddyg yn hytrach nag fel crydd a wnaeth fy nhad y tro hwnnw. Beth bynnag, ym mhlith y cryddion oedd yn gweithio i daniel Jenkins yr oedd un hen wr a hawliai iddo ef pan yn ifanc, gyda chwmni o dynion eraill, dreulio diwrnod cyfan ar fynydd Budloy “yn hela'r Ysbryd Drwg”, ond ni welsant dim.

**Tudalen 9/Page 9** Beth felly ydoedd y syniad cyfreddin am “yr Ysbryd drwg” hwn? Y syniad cyn y diwrnod hela oedd ei fod yn rhywbeth y gallent ei weld, ond wedi'r diwrnod hwnnw, nad oedd yn rywbeth y gallent ei weld, o herwydd credent mor gryf ag o'r blaen ei fod yno. Eto gan fod Henry George yn gofyn iddo ddisgyn oddiar y ceffyl rhag i'r ceffyl or-flino, bod pwysau yn plentyn i'r Ysbryd Drwg, ac yr oedd y ffaith y gallai yn siarad yn ddealladwy a Henry George yw profi bod ganddo offer [?] torri geiriau. Ie, rhywbeth ar ffurf dyn (a hwnnw yn Gymro!) ydoedd a nid oedd y ffaith ei fod yn cymdeithasu a'r Parchedig henry George yn effeithio o gwbl ar barchusrwydd cymeriad Henry George fel pregethwr a groeinidog yr efengl. Y farn ydoedd mai gwarchod trysor oedd yn guddriedig yn rhywle ar Budloy oedd ei waith ac mai ei fwriad wrth cymdeithasu a Henry George oedd ceisio dod o hyd i ffordd i ddatguddio i Henry George ym mha le yr oedd y trysor yn guddriedig. Dywedid mai un o delerau cael y datguddiad oedd, nad oedd yr un a cymdeithasai yr Ysbryd Drwg ag ef i ateb yn ol pan dywedai yr Ysbryd Drwg rywbeth a nis gallai Henry George gadw'r rheol hon. Beth bynnag nid oedd un awgrym bod Henry George wedi enill dim o'r gymdeithas. Bu rhywfaint amser rhwng ymadawiad Henry George o Budloy a mynediad fy nhadcu John Jenkin i Budloy tua 1836, ac ni chlywyd son am neb yn gweld yr Ysbryd Drwg ar fynydd Budloy fyth wedyn. Ysbryd Drwg Trewern Hen blâs (heb fod yn fawr iawn [wi] dybiaf) yn Nyffryn Gwaun ydoedd Trewern. Bum i yno unwaith pan yn ifanc iawn (tua phum neboydd[?] oed?) pan yr oedd ysgol Sul Horeb, Maenchlochog yn ymweled a Ysgol Sul Caersalem, Dyffryn Gwaun. Yr oedd cefnder i fy mam, James Parsons Jones, Dyffrynconin newydd briodi Mary Anne Harries, Clyncemaes, ac yr oedd Mrs. Griffiths, Trewern yn chwaer i honno a ffordd o gydnabod y berthynas newydd (drwy briodas) ydoedd y gwahoddiad i mi i fynd yno. Ni chofiaf ddim am y lle ond bod pethau urddasol iawn yno ac i mi weld rhai moch anferth o faint yno. Ond, rywbryd, ymhell cyn hynny, bu Dafydd George, gweinidog Bedyddwyr yn Jabes a Chaersalem, Dyffryn Gwaun, yn by yn Nhrewern. Nid oedd berthynas gwaed o gwbl rhwng Dafydd George a Henry George (uchod) ac heb allu dod o hyd i'r manlion am Dafydd George ei fod ef o leiaf ugain mlynedd yn ddiweddarach na Henry George (tybiaf y gallai fod yn ei fri tua 1860-1870) Gellir meddwl bod rhaid Dafydd George yn weddol gefnog cyn y byddai yn gallu mynd i fyw i Blâs Trewern ond y mae yn bosib bod y plâs wedi dadfeilio rhywfaint. Nis gwn i a oedd son bod Ysbryd Drwg ym Mhlâs Trewern cyn i Dafydd George fynd yno i fyw, nac ym mha faint o amser y dechreodd yr Ysbryd drwg cymdeithasu a Dafydd George. Nis gwn ychwaith pa mor aml yr ymwelai ag ef, ond pan oedd dafydd george yn ei ystafell ar ei ben ei hun y deuai. [?Deuni?] o'r tu ol Dafydd George fel na welid ef ac ni chlywais am ba beth yr oedd yr Ysbryd Drwg yn siarad ond syniad y stori oedd bod yr Ysbryd Drwg yn paratoi'r ffordd ac yn ceisio profi a oedd Dafydd George yn deilwng o'r datguddiad a fwriadau roddir iddo. Ond daeth y peth i ben un noson, ac dywedodd yr Ysbryd Drwg i Dafydd George ym mha le ym Mhlâs Trwern yr oedd y trysor yn [?garddnidig?]. Fe wnaeth yr Ysbryd Drwg y camgymeriad o osod telerau i lawr ar ol gwneud y datguddiad, sef nad oedd Dafydd George i droi ei ben i geisio gweld yr Ysbryd Drwg pan fyddai hwnnw yn gadael yr ystafell. Yr oedd hynny yn rhy ddiweddar ac fe drodd dafydd George ei ben ac yn union fe'i tarawyd a diffrwythdra yn ochr ei wddf (neu ei waft) fel fyth wedi hynny celai drafferth i droi ei ben i un cyfeiriad. Dyna'r stori gyffredin am Dafydd George a'i [gyfreth?], ac, fel gyda Henry George, nid oedd hyn i gyd yn effeithio dim ar gymeriad a parchusrwydd Dafydd George fel weinidog yr Efengyl. Ond yr oedd stori arall, sef bod Plâs Trewern a dadfeilio a bod Dafydd George wedi

**Tudalen 10/Page 10** penderfynu ei atgyweinio ac yr oedd hynny yn golygu gwneud cynewidiadau. Wrth wneud hynny torrodd i mewn i ryw ystafell dirgel lle yr oedd hen delwau aur wedi eu cuddio gan ryw Babyddion a fu unwaith yn byw yno. Ni ddaeth im meddwl am holi a oedd gan dafydd George blant ac felly fe gefais dipyn o syndod pan ymwelais a ffarm mewn rhan arall o'r wlad yn 1940 (mi credaf) mai mab i Dafydd George oedd y ffarmwr oedd yn wr yn ochrau teg ac rhodi flaen drosodd i'w ferch a'i fab-yng-gyfraith. Ni feiddiais holi dim iddo am y naill stori na'r llall! Drychiolaethau Fy ngof i yw bod”drychiolaeth” yn ein hiaith ni yn agos iawn a bod gyfystyr a'r Saesneg “ghost” - sef ysbryd rhwy un arbennig yn ymddangos ac yn adwaenadwy[?] ar ol iddo farw, ond ni chofiaf fi am un achos pendant o'r fath. Ni chofiaf fi ychwaith am neb a adwaenwn[?] i a welsai “Ganwyll corff” ond cofiaf glywed bod Charlotte Evans a dod yn byw yn y ty a berthynai i Dy Cwrdd Horeb, ger Maenchlochog wedi gweld llawer o honynt ac iddi son am weld Canwyll Corff rhyw samuel John tua yr oedd y dyn hwnnw yn hollol iach a chryf i bob golwg ond a fu farw yn sydyn. Faint a noddai gael ar y stori, nis gwn. Yr oedd gyda phethau o'r fath hefyd son am angladdau oedd yn rhagflaenu marwolaethau ac efallai mai y rhai hyn yn dylid a galw “drychiolaethau”. Yn ystod fy oes, cwrddais a thri dyn a gredent iddyn gael profiad personol o'r math hwn o drychiolaeth, ac yr wyf yn hollol cicr bod y tri hyn yn hollol ddiffuant pan yn adrodd eu stori wrthyf. Evan Jones, Penrhiw. Tythynwr oedd hefyd wrth ei grefft yn torri ceffylau i mewn i waith oedd Evan Jones, ond am un tymor o leiaf bu yn arwain march (stallion) Bernard's Well Uchaf o amgylch Sir Benfro o Ebrill i Fehefin i'r march wneud ei waith. Golygai hynny y byddai Evan a'r march yn mynd filldiroedd lawer oddicartref ac yn [fywych] elai yn hwyr iawn y nos arnynt yn cyraedd llety. Y mae'n sicr iddo dyweud wrthyf yn mha le y bu'r digwyddiad ond ni wnes i nodyn o'r peth o gwbl ac ysgrifennu oddiar gof yn unig yr wyf ar hyn o bryd. Beth bynnag, yr oedd yn hwyr ac wedi tywyllu ac Evan ar draed yn arwain y march pan gwrddasant a drychiolaeth angladd yr hon a'i gwasgodd ef a'r ceffyl at y clawdd. Daliasant i fynd ymlaen er hynny a phan ddaethant allan o honi yr oedd Evan a'r march yn llifo o chwys. Cofiaf Evan yn pwysleisio bod y march wedi chwysu o herwydd iddo ef, yr oedd hynny yn prawf nad dychmygu y cwbl a wnaeth. Gellir cofio, ar hynny, mai ar diwedd diwrnod o gerdded yn mhell ac yn galed ydoedd, ac er bod Evan yn gofalu nad oedd y ceffyl yn dioddef eisiau bwyd, nid yw mor sicr y byddai ef ei hunan yn cael bwyd yn ei bryd. David Phillips, Aberystwyth Ganwyd y David Phillips hwn, yn ol ei air ef ei hyn i mi, ym mhentref Crymych,Sir Benfro mewn ty a safai lle, wedi hynny, y codwyd gorsaf y ffordd haiarn (sydd hithau erbyn hyn,1964, hefyd yn [sigur?] mi gredaf). Magwyd ef yn yr ardal ond ymunodd a heddlu sir Aberteifi. Pan gofiaf fi ef gyntaf yn Aberystwyth (efallai yn 1907) yr oedd wedi ei godi i radd “Inspector”; wedi hynny bu yn “Superintendant” ac am gyfnod cyn diwedd ei oes, bu yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Sir Aberteifi. Yr oedd yn ddyn telgryf a chythwys[?] ei corff ac yn gythwys[?] ei feddwl hefyd a bu am rai bynyddau yn diacon yn eglwys y Bedyddwyr, Bethel, Aberystwyth, a chymerai ran yn ei holl weithrediadau yn ol ei gyfle. Pan deallodd fy mod i o Sir Benfro, gwasgod ataf, a daethoni ar delerau agos a'n gilydd. Dyna sut y daeth iddo dweyd wrthyf iddo ef pan yn fachgen ifanc yn cerdded wrtho ei ar hyd y brif-fford tua Phentre Galar (i'r dir o Grymydi) gael y profiad o weld a theimlo gwasgfa drichiolaeth angladd ond ni chofiaf a adwaenodd[?] ef neb o'r rhai oedd yn cerdded yn y cynhebrwng.

Image: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  Zoom / More Images (49)

Collection Area

Social & Cultural History

Item Number

MS 1156

Historical Associations

Associated Person/Body: Jenkin, T.J.
Association Type: Writer

Creation/Production

Jenkin, Professor T.J.

1964

Role: respondent
Period: 1964

Acquisition

Donation, 8/7/1964

Material

Paper

Categories

Welsh Folk Museum questionnaires and answer books Cardiganshire
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.

Related Items

Social & Cultural History

Answer book

MS 1471/7
More information
Social & Cultural History

School magazine

MS 80
More information
Social & Cultural History

Note

F70.300.4
More information
Social & Cultural History

List of terms

MS 3167/1
More information

Site Map

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Visiting
  • Collections & Research
  • Learn
  • Blog
  • Support Us
  • Shop
  • Venue Hire

Our Museums

  • National Museum Cardiff
  • St Fagans National Museum of History
  • National Waterfront Museum
  • Big Pit National Coal Museum
  • National Slate Museum
  • National Wool Museum
  • National Roman Legion Museum

Connect With Us

  • Contact Us
  • Get Involved
  • Join the Mailing List
  • Facebook
  • Instagram

The Website

  • Accessibility statement
  • Cookies
  • Copyright

Corporate

  • About Us
  • Jobs
  • Press Office
  • Picture Library
  • National Collections Centre
  • Working with Others
  • Filming & Photography
Sponsored by Welsh Government
  • Facebook
  • Instagram
Charity No. 525774
×
❮
❯