Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Photograph (print)
Quarrymen demonstrating the art of hand splitting and dressing slate outside one of the gwaliau (an open-fronted shed where slates were split and trimmed) at a slate quarry (believed to be Penrhyn Quarry). One quarryman is sitting on a ‘blocyn tîn’ (a slate splitter’s seat), splitting a block of slate using a ‘Rhys Bach’ (a mallet made of African Oak) and a ‘cŷn manhollt’ (a wide and slim chisel). The other quarryman is sat on the ‘trafael’ (a bench with a fixed iron blade), dressing a roofing slate using a ‘cyllell naddu’ (a slate trimming knife). Standing behind the two quarrymen are approximately 19 quarrymen (10 of which are boys/teenagers). The quarrymen’s outfits suggest that the photograph was taken during the first half of the twentieth century.
Chwarelwyr yn arddangos y grefft o hollti a naddu llechi o flaen un o'r gwaliau mewn chwarel lechi (credir mai Chwarel Penrhyn yw'r lleoliad). Mae un o'r chwarelwyr yn eistedd ar 'flocyn tîn' ac yn hollti clwt o lechfaen gan ddefnyddio 'gordd y wal' a 'chŷn manhollt'. Mae'r chwarelwr arall yn eistedd ar 'drafael', yn naddu llechen do gan ddefnyddio 'cyllell naddu'. Mae o ddeutu 19 o chwarelwyr (10 o rheiny yn fechgyn/yn eu harddegau) yn sefyll tu ol i'r ddau chwarelwr. Mae gwisg y chwarelwyr yn awgrymu fod y ffotograff wedi eu dynnu yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.