This site uses cookies to improve your experience. View our Cookie Policy
Preferences

Cookie Preferences

Essential

These cookies are absolutely essential for our website to function properly.

 

Cookies that measure website use

We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.

 

Cookies that help with communications and marketing

These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.

 
 
View our Cookie Policy
Donate
Amgueddfa Cymru
Cymraeg
My account
Donate
Collections & Research
Departments Collections Online National Collections Centre

Amgueddfa
Cymru
Family

National Museum Cardiff

St Fagans National Museum of History

National Waterfront Museum

Big Pit National Coal Museum

National Slate Museum

National Wool Museum

National Roman Legion Museum

  • Collections & Research
  • Departments
  • Current Page: Collections Online
  • National Collections Centre
  • Articles
  • Ancient Wales
  • Art
  • Celf ar y Cyd
  • History
  • Natural History
  • The Museum at Work
  • Health, Wellbeing and Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • About Us
  • Collections & Research
  • Learn
  • Shop
  • Support Us
  • What's On
  • Get Involved
  • Health & Wellbeing

Collections Online

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Advanced Search

Advanced Search

Image filter options
Back to search results

Notes

Miss Auriol Thomas (respondent)

Nodiadau gan Miss Auriol Thomas, Llandysul, ar 'Batrwm Bwydydd a Chadw Ty' mewn atebiad i Holiadur Amgueddfa Werin Cymru, 1971. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.

Notes by Miss Auriol Thomas, Llandysul, on food patterns and domestic life as a response to a questionniare by the Welsh Folk Museum, 1971. Answer Books were sent out by the Welsh Folk Museum to individuals across Wales as a way of collecting and documenting information on aspects of folk culture in their areas, including agriculture, crafts, food, customs and dialects. The responses were hand-written in the books. The Answer Books had a similar purpose to the earlier questionnaires sent out in 1937.

**Tudalen 1/Page 1** **Patrwm Bwydydd a Chadw Tŷ** **Tŷ Gwladwr** A. 1. Bwyteid cawl gan amlaf i ginio, ond ambell waith, cawsai ei ail dwymo i swper os fyddai peth ar ôl. 2. brecwast - wŷ wedi berwi, uwd, cig moch a wyau. cinio – cawl neu bwyd y cybudd, sef cig mochyn a wynwyn wedi cael eu berwi gyda tatws te – bara ac ymenyn, jam, caws, bara brith, tarten a byns swper – cig oer a thatws wedi eu ffrio, cawl wedi ei ail dwymo neu bara llaeth. brecwast – 8:00 a.m. tê – 4:00 p.m. cinio – 12:30 p.m. swper – 8:00 p.m. 3. Yn y gaeaf ceir tê a biscedi, ond ni cheir ddim yn yr haf. Gelwir hwn yn ‘Dê Deg’ B. 1. brecwast – te a bara a menyn, caws cinio – tatws a chig oer. tê - yr un fath ar [sic] gaeaf swper – salad 2. amser Nadolig – mwy o felysion, a bwyd drud, sef, ffrwythau – dathlu geni’r Iesu. 3. haf – cynheuafau[sic] gwair a thatws. 4. Ar ddydd Sul ceir cig fres [sic], tatws, gravi[sic], ac amryw o lysiau. 5. Prynnir[sic] ffagodau, sosej, cig moch, a phicls wynwyn yn y farchnad. C. 1. cig fres[sic] neu cyw iâr, amryw o lysiau, tatws wedi eu rhostio, tatws ac wedyn pwdin reis. 2. Nac oedd – dim prydiau[sic] oer. CH 1. gwraig y fferm 2. un o’r morynion yn helpu’r wraig

**Tudalen 2/Page 2** D. 1. gegin, parlwr, ystafell fwrdd a llaethdŷ 2. ystafell bwrdd. (gelwir hon yn ystafell ford) 3. yn y llaethdŷ. 4. eu roi [sic] I mewn yn y llaethdŷ ar y meinciau oer, neu mewn cypyrddau mawr Dd. 1. yn y gegin. 2. yn y gegin fach 3. ystafell fwrdd. 4. yn y gegin efo’r teulu E. 1. a) boiler sgot?? b) dysl bridd neu eu hongian i lawr o’r nenfwd. c) ffiolau, basn, a llwyau pren. 2 a) yr oedd llawer o’r bobl yn gwneud llestri pren eu hunain, ond yr oedd turnwyr lleol i’w gael. b) prynnwyd [sic] y rhain mewn siop lestri. c) copr, pres a tsieni [sic] – mewn siopau eto. F 1. Dydd Llun – golchi a smwddio. “ Mawrth – rhoi glanhau’r llofft. “ Mercher – glanhau’r gegin, a gwneud mân bethau eraill, wedyn mynd i’r farchnad yn y prynhawn. Dydd Iau – glanhau’r tŷ drwyddo, fel dod ar [sic] matiau allan i’w ysgubo, a sgleinio’r celfi. Yn yr haf cawsai’r ffenestri eu glanhau hefyd. Dydd Gwener – Diwrnod prysur, pobi bara a gwneud cacennau erbyn y Sul. Dydd Sadwrn – Paratoi erbyn y Sul – rhostio’r cig a gwneud y pwdin. Glanhau’r tatws a’r llysiau i gyd. Dydd Sul – mynd i’r cwrdd. 2. Rhaid oedd ysgubo’r clos a glanhau esgidiau’r teulu i gyd, a thynnu’r dillad gorau allan o’r cwpwrdd

** Tudalen 3/Page 3** i’w caledi erbyn y Sul. Ff. G. 1. Yn yr haf, byddai’r gŵr yn glanhau’r ardd, a thorri’r cloddiau. Byddai’r wraig yn glanhau’r drôrau. Ambell i noswaith, bydant yn paentio’r drysau tu allan, a’r glwyd. 2. Nid oedd llawer o waith yn mynd ymlaen y tu allan yn y gaeaf am fod y dydd yn fyr. Byddai’r wraig yn gwnio’r dillad y plant (chotio’r), a gwau’r hosannau, ac hefyd siwmperau. Ng. 1. Cinio dydd Sul oherwydd fod ganddynt gyw iâr neu gig fres [sic] ac amryw o lysiau. Ar hyd yr wythnos yr oeddynt yn cael bwyd mwy syml. 2. cenhin [sic], persli, wynwyn a safri. 3. cennin syfi, sibwn, a mint. H. 1. Cawsai ymenyn i wneud o tua fis Mai i fis Medi, am fod y gwartheg allan yn pori, felly yr oedd ganddynt fwy o laeth. b) Yr oedd y caws yn cael eu[sic] wneud pan oedd y llaeth a dim digon o hufen i wneud ymenyn. Cawsai eu [sic] wneud yn yr haf, ac wedyn eu [sic] storio erbyn y gaeaf. c) Cawsant datws newydd tua fis Mai, ac hefyd llaeth enwyn am fod ymenyn yn cael ei wneud ch) diwedd y Gwanwyn – sibwn, letys, berwr, ffa, pys, Haf – moron, panas, a ffa ffrengig. d) ‘Roedd y bara ceirch yn cael ei baratoi erbyn y cneifio, fel rhyw fwyd arbennig gyda bara ymenyn a chaws. Cawsai ei fwyta hefyd pan fyddai pobl ddieithr yn ymweld â’r teulu. dd) Cedwi’r[sic] y rhain mewn ffordd arbennig erbyn y gaeaf.

**Tudalen 4/Page 4** e) Bwyteid pysgod. Ceid rhai o’r môr mewn siop bysgod, ond deliwyd rhai mewn afonydd agos. Ceir un neu fwy o fathau o bysgod drwy’r flwyddyn. f) cegddu, hadog, lleden, macrell – o’r môr. brithyll, gwyniedyn ac eog – yn yr afonydd agos ff) Bwytawsant gwningen wedi ei rhostio, berwi, neu mewn stiw. Yr oedd ysgyfarnog yn cael ei ystyried fel moethyn. Rhostiwyd ffesant. I a) Bwytawyd crempog ar Fawrth Ynyd ac amser benblwydd y feistres. – Chwerfor 23ain. b) bwytawyd cig llo ar y pasg c) Cynhaeaf gwair – berwi’r cig moch a serio y croen â siwgwr brown, tatws newydd, pys, wedyn digon o bwdin reis a chwrens, ac ar ôl y cyfan, yfant ddigon o gwrw sinsir o waith cartref. ch) I swper ar ôl gorffen y cynhaeaf, cawsant gig oer, bara ymenyn, a bara brith. d) gwŷdd, bara ymenyn, a llaeth. dd) gwŷdd neu porc. L a) lladdwyd mochyn tua fis Tachwedd. b) c) ch) saets, teim, persli, a cennin syfi, safri. d) gwneud llawer o jam – mwyar, plums, gwsberins, cwrens coch a du. dd) Na. e) Byddant yn piclo wynwyn a bresych coch. f) Cochwyd pysgod. Ll. 1. bara llaeth, sucan, wyiau[sic]. 2. rhosmari i annwyd ac hefyd blodau’r ysgawen.

**Tudalen 5/Page 5** M. llaeth buwch, wyau ac uwd N. 1) Berwi cig mochyn neu eidion 2) O. Bara menyn, caws, cacennau – cacen ferem, a teisen lap. P. a) gwneud bara planc, tato rhost a thato drwy’r pil. Ph. a) b) R. 1) y wermod lwyd, y gamil, rhosmari 2) rhai – ee, eli eryrod.

**Tudalen 6/Page 6** iii) Na Rh. 1. swatio hwy 2. cathod a trapiau 3. holltu a’u hongian 4. camphor 5. mynd allan ar gwely plu unwaith y flwyddyn S. 1. 2. Dechrau’r flwyddyn – gwneud siwt i’r gŵr. 3. Gwinio. Prynasant y gwlanen yn ffair Glyngaeaf. 4. a) ffatrioedd gwlan a’r marchnadoedd. b) gwely pluf 5. 6. T 1. arian y wyau. Yr oedd y gŵr yn gweithio. 2. tê, swgwr [sic], blawd. 3. cael y defnydd yn y ffair a gwna’r teiliwr hwy

**Tudalen 7/Page 7** iii) Na Rh. 1. swatio hwy 2. cathod a trapiau 3. holltu a’u hongian 4. camphor 5. mynd allan a’r gwely plu unwaith y flwyddyn. S. 1. 2. Dechrau’r flwyddyn – gwneud siwt i’r gŵr. 3. Gwinio. Prynasant y gwlanen yn ffair Glyngaeaf. 4. a) ffatrioedd gwlan a’r marchnadoedd. B) gwely pluf 5. 6. T 1. arian y wyau. Yr oedd y gŵr yn gweithio. 2. tê, swgwr [sic], blawd. 3. cael y defnydd yn y ffair a gwna’r teiliwr hwy. 4. Cael eu gwneud gan seiri. Na. Th. 1. Dillad hen am y plant; byw mewn tai bach – teuluoedd mawr iawn. 2. os byddai’r haf wedi bod yn wlyb a’r cynhaeaf wedi eu distriwio. 3. Oedd. Eu llosgi. 4. gwerthu wyau, ymenyn, cyw iar, gw^yddau a llaeth enwyn.

Image: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  Zoom / More Images (7)

Collection Area

Social & Cultural History

Item Number

F71.59

Historical Associations

Association Type:
Place: Llandysul

Creation/Production

Miss Auriol Thomas

1971

Role: respondent
Period: 1971

Acquisition

Donation, 11/2/1971

Material

Paper

Categories

Welsh Folk Museum questionnaires and answer books Cardiganshire
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.

Related Items

Social & Cultural History

Answer book

MS 2979
More information
Social & Cultural History

Answer book

MS 1088
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 348
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 350
More information

Site Map

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Visiting
  • Collections & Research
  • Learn
  • Blog
  • Support Us
  • Shop
  • Venue Hire

Our Museums

  • National Museum Cardiff
  • St Fagans National Museum of History
  • National Waterfront Museum
  • Big Pit National Coal Museum
  • National Slate Museum
  • National Wool Museum
  • National Roman Legion Museum

Connect With Us

  • Contact Us
  • Get Involved
  • Join the Mailing List
  • Facebook
  • Instagram

The Website

  • Accessibility statement
  • Cookies
  • Copyright

Corporate

  • About Us
  • Jobs
  • Press Office
  • Picture Library
  • National Collections Centre
  • Working with Others
  • Filming & Photography
Sponsored by Welsh Government
  • Facebook
  • Instagram
Charity No. 525774
×
❮
❯