This site uses cookies to improve your experience. View our Cookie Policy
Preferences

Cookie Preferences

Essential

These cookies are absolutely essential for our website to function properly.

 

Cookies that measure website use

We use Google Analytics to measure how you use the website so we can improve it based on user needs.

 

Cookies that help with communications and marketing

These cookies may be set by third party websites and do things like measure how you view YouTube videos.

 
 
View our Cookie Policy
Donate
Amgueddfa Cymru
Cymraeg
My account
Donate
Collections & Research
Departments Collections Online National Collections Centre

Amgueddfa
Cymru
Family

National Museum Cardiff

St Fagans National Museum of History

National Waterfront Museum

Big Pit National Coal Museum

National Slate Museum

National Wool Museum

National Roman Legion Museum

  • Collections & Research
  • Departments
  • Current Page: Collections Online
  • National Collections Centre
  • Articles
  • Ancient Wales
  • Art
  • Celf ar y Cyd
  • History
  • Natural History
  • The Museum at Work
  • Health, Wellbeing and Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • About Us
  • Collections & Research
  • Learn
  • Shop
  • Support Us
  • What's On
  • Get Involved
  • Health & Wellbeing

Collections Online

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Advanced Search

Advanced Search

Image filter options
Back to search results

Holiadur | questionnaire

Hughes, Owen (respondent)

Atebion i holiadur gan Owen Hughes, Llanddeusant, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.

Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by Owen Hughes, Llanddeusant, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.

**Tuadlen 1 /Page 01** Beth oedd amser codi arferol? 5.30. Yr hwsmon yn gyfrifol am alw pawb A godai pawb yr un amser? Na wnai, teulu’r ty yn ddiweddarach A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Porthi’r gwartheg a’r ceffylau Pa bryd oedd amser brecwast? 7 o’r gloch Beth a fwyteid i frecwast? Bara, llaeth neu brwas bara ceirch, a phaned o de a bara menyn A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Na fyddai, byddai’r teulu ar wahan A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? Oedd mewn rhai ffermydd Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Yn y bore rhan amlaf- ganol dydd gan eraill (os byddai’r meistr yn methu codi) Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y meistr A gymerai pawb ran yn ei dro? rhan amlaf a gweision hefyd os byddent o’r un tueddiadau. Cychwynodd aml weddïau cyhoeddus fel byw ar yr aelwyd A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nac oedd Os felly, pa fwyd? - Beth oedd enw’r pryd? - Ym mh’le y bwyteid ef? - A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? - Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? 12 o’r gloch A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Na fyddai y teulu ar wahan i gwasanaethyddion Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatw [trwy i crwyn] tatw llaeth tatw menyn. Tatw a chig buwch ac hefyd biff mewn rhai mannau A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddent A oedd enw arall ar ginio? Pnawnfwyd

**Tuadlen 2/Page 2** MS 347_0002 A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Na fyddem Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? - Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio? Chwythu cragen a rhwll ynddi, yn ddiweddarach cloch neu ffliwt Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn? O 4 i chwech o’r gloch Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cnwsfwyd Beth a fwyteid? Yn yr haf, llaeth oer a bara menyn, te a bara menyn hefyd. Bwyteid bara haidd yn arferol ond ceid bara gwyn i de y Sul. Anfynych iawn y ceid teisen. Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Yn y caeau gyda’r gwaith os byddai’r tywydd yn caniatau. [Er] engraifft teneuo [ywdeno] cynhaeaf yd a gwau [ac] amser codi tatws Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Rhwng 7 ac 8 o’r gloch wedi gorffen swperu’r anifeiliaid Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper Beth a fwyteid iddo? Uwd blawd ceirch, fel rheol a dogon o lefrith Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?) Y gweision yn unig Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Yr oedd digon o ddwylo ar gyfer y gwaith a phawb a’i waith wedi ei drefnu iddo o’r gwas bach i fyny Pa amser a wneid y godro? Tua 6 o’r gloch- a [unobwynion] ar gwas bach oedd y gyfrifol * A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddid. [Iarawai] ambell un anghelfydd ei ben â’r ffust Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Rhwng 3 a 4 o’r gloch, erbyn te (chwilboeth a stori-chwedl am hen wag a [adwaeneuta]) • A beth am y dynion? Cent hwy i ymweld gyda’r nos Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Cerdded tai Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Y merched yn nyddu, a gweu, a gwnio, yr oedd [cwrllio] yn gelf yr adeg hon. Byddai dynion yn trwsio sgidia’r teulu, gwneud ffyw- ac ambell i hen lyfr bryf yn darllen. Adrodd straeon [gwcheslol] megis cwffio, neidio te + Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Amrywiol iawn A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Tylinio’r toes erbyn pobi drannaeth, plices taliog, gwneud y bara llaeth A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Dim llawer o wahaniaeth- ond ceid [lobs] caws yn y gaeaf

Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ty yn eich ardal? Briws, cegin, parlwr, ty llaeth, selar A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod cynhaeaf? Ceid tatw yn y poplis- a phwdin plwm yn y chwaneg. Tra y ceid mwy o de yn ystod y cynhaeaf Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’ gwas mawr, gwas bach)? Gwas bach, 3ydd certmon, 2 gertmon, a phen certmon (os byddai [lau] gwedd) Hwsmon a phorthwr a dyn caled (ei waith oedd cau ac agor ffosydd) hefyd morwyn dynion a morwyn y gegin Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal? Ysgubor, beudy, cytiau moch, cwt ieir, cwt [llora] cwt [borlai] cwt golchi Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal? Yr oedd llawer iawn o arferion da yn ffynnu yn fy ardal megis Penny neu dingo, lle y caffai’r ieuanc fwynhau a datblygu ei dalent. Ai llawer o’r [llanelau] a merched i’r Seiat a Cyfarfod Gweddi- a llawer i’r dafarn hefyd i dreulio’i hamser am [hamau] prin. Yn y pentre yr oedd ty bwyta, lle y darperid buns, bara peilliad, penwaig picl a ginger beer ar gyfer y boys. Hen ferch neu wraig weddw fyddai yn cadw’r busnes bach hwn, fel rheol.

**Tudalen 4/Page 4** * Yr oedd hen wr o’r enw Gwen Rolant yn ardal Ceirchiog na wnai ddim ond dyrnu â ffust. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol, a bu yn pregethu yn Lerpwl draen er mai Cymro uniaith ydoedd • Yr oedd hyn yn arferiad da iawn mewn llawer lle. Ai y rhai gwell atynt o gwmpas- ac os gwelent angen yr oeddynt yn [bur] barod i estyn cymorth. + Amrywiol iawn oedd amser gwely . Byddai’r [llancean] yn mynd allan i streicio- byddant hefyd yn ymgynyll yn y felin lle y byddai’r gwaith yn mynd ymlaen drwy’r nos ar amserau arbennig, byddai neb yn [?] pryd yr [anf] i orffwys Gynhyrchodd y cyfnod hwn lawer iawn o gymeriadau gwych sydd a’u dylanwad yn aros. Diwylliant beiblaidd oedd diwylliant cefn gwlad, ar capel ar llan oedd canolbwynt bywyd cymdeithasol yr ardal.

Image: By permission of Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  Zoom / More Images (4)

Collection Area

Social & Cultural History

Item Number

MS 347

Historical Associations

Associated Person/Body: Hughes, Owen
Association Type: Writer
Place: Llanddeusant (Anglesey)

Creation/Production

Hughes, Owen

1957

Role: respondent
Period: 1957

Acquisition

Collected Officially

Material

Paper

Categories

Welsh Folk Museum questionnaires and answer books Anglesey
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.

Related Items

Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 362
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 350
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 339
More information
Social & Cultural History

Holiadur | questionnaire

MS 340
More information

Site Map

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Visiting
  • Collections & Research
  • Learn
  • Blog
  • Support Us
  • Shop
  • Venue Hire

Our Museums

  • National Museum Cardiff
  • St Fagans National Museum of History
  • National Waterfront Museum
  • Big Pit National Coal Museum
  • National Slate Museum
  • National Wool Museum
  • National Roman Legion Museum

Connect With Us

  • Contact Us
  • Get Involved
  • Join the Mailing List
  • Facebook
  • Instagram

The Website

  • Accessibility statement
  • Cookies
  • Copyright

Corporate

  • About Us
  • Jobs
  • Press Office
  • Picture Library
  • National Collections Centre
  • Working with Others
  • Filming & Photography
Sponsored by Welsh Government
  • Facebook
  • Instagram
Charity No. 525774
×
❮
❯