Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur gan John G. Williams, Llanfechell, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by John G. Williams, Llanfechell, Anglesey, on the subject area of a typical work day in year's gone by. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
**Tudalen 1/Page 1** Gorffennaf 17, 1957 [Wedi ysgrifennu ‘Clwb Pensiynwyr Padrig’] Enw: John G Williams Cyfeiriad: [Y? 7?] Bungalow, Llanfechell Beth oedd amser codi arferol? 5 o’r gloch A godai pawb yr un amser? Na fyddant, ond y certmyn ar porthwr A wneid unrhyw waith cyn brecwast? 2 awr cyn brecwast yn y cynhaeaf a brecwast am 7 yr adeg hono Pa bryd oedd amswer brecwast? 6 o’r gloch Beth a fwyteid I frecwast? Bara llaeth a Brwas A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Byddant y gweision A oedd hi’n arferol i gadw dyletswydd? Gyda’r mwyafrif Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Ar ôl y Boreufwyd Pwy fyddai’n cymryd rhan? Gwr y ffarm a’r gweision hynaf A gymerai pawb ran yn ei dro? Pawb yn ei dro A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nac oedd Os felly, pa fwyd? – Beth oedd enw’r pryd? – Ym mh’le y bwyteid ef? – A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? – Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Hanner dydd A fyddai pawb un cael yr un bwyd? Byddai y gweision Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatw llaeth tatw, gravy a beef A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Byddai by gweision A oedd enw arall ar ginio? Prawnfwyd
**Tudalen 2/Page 2** A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Na fyddant Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? – Sut oedd galw’r dynion or’ caeau i’r tŷ i gael eu cinio? Gyda gloch, crogau, neu yn hwsmon yn galw, ac yn cychwyn am y ty Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawd? 6 o’r gloch Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cynyswyd neu te Beth a fwyteid? Powliad o de, bara cymysg a digon o fenyn pot Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Yn y briws, neu y gegin Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? am 7 o’r gloch Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper Beth a fwyteid iddo? Powliad o uwd a digon o lefrith ac bara menyn Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraift?) Dim ond y rhai sengl gan y byddai y gwyr yn mynd gartref Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Y Beilif yn rhoi [yr orden?] ir hwsom, ac yntau yn ei rannu wedyn Pa amser a wneid y godro? Ar ol y boreufwyd, y porthwr, morynion a’r gwas bach A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddant Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Yn y prynhawn. Gwadd i de, a [freal?] o [deiseu?] gri A beth am y dynion? Ar ol noswydd Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Cerdded tai Sut yr oedd pobl y neu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Seiat, Penny Reading, neu y dynion yn tyrru at ei gilydd a pawb ei stori Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? 9-30pm – 10pm A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Y merched yn gwnio neu yn gweu, neu trwsio sannau A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? [Teby?] fyddai y bwyd