Collections Online
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Advanced Search
Holiadur | questionnaire
Atebion i holiadur gan John Fflewyn Williams, Llanddeusant, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'. Holiadur, Cyngor Gwlad Môn 1957 Lluniwyd y cwestiynau gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1957 er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am ‘ddiwrnod gwaith cyffredin’. Dosbarthwyd yr holiadur at unigolion gan Gyngor Gwlad Môn. Mae’r cwestiynau wedi eu teipio a’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw.
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council. Completed by John Fflewyn Williams, Llanddeusant, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in year's gone by'. Questionnaire, Anglesey Rural Community Council 1957 The questions were prepared by the Welsh Folk Museum in 1957 as a way of collecting and documenting information on the ‘common working day’. The questionnaire was distributed by Anglesey Rural Community Council. The questions have been typed and the responses have been hand-written.
**Tudalen 1/Page 1** Beth oedd amser codi arferol? Tua 5 o’r gloch ac ym mhellach ymlaen 6 o’r gloch A godai pawb yr un amser? Na [wnast], Byddai y gweision a’r morwynion yn codi o flaen teulu’r ty A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Gwneid. Byddai llawer o’r anifeiliaid wedi eu bwydo a charthu o danynt cyn brecwast Pa bryd oedd amser brecwast? Tua 6 i 6.30 Beth a fwyteid i frecwast? Bara ymenyn, brwas bara ceirch,eto, A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Byddai yn aml er byddai y teulu yn cael tipyn gwell tamaid A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? Oedd yn rhan fwyaf o’r cartrefi Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Rhai wedi becwast, eraill wedi cinio, eraill cyn mynd i’r gwely Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y pen teulu yn fwyaf mynych, ac hefyd ambell un o’r gweithwyr os byddai yn ddyn cyhoeddus A gymerai pawb ran yn ei dro? Gwneid mewn rhai lleoedd byddai pawb yn darllen adnod bob yn ail. A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Oedd yn y rhan fwyaf o’r ffermydd. Os felly, pa fwyd? Tafell o fara a chaws, a diod o laeth emoyn Beth oedd enw’r pryd? Y paned Ym mh’le y bwyteid ef? Yn mha le bynag y byddid ar y pryd, yn y maes, yn un o’r adeiladau allanol neu yn y ty A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? Oedd o 9 i 9.30 ar y gloch Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Am haner dydd, sef 12 o’r gloch A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Gawsai y meistr a’r teulu damaid tipyn gwell na’r gwasanaethyddion yn fwyaf mynych. Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatws a chig berw a brwas, tafell o fara a diod o laeth emoyn, dydd Sul efallai y ceid tamaid o bwdin, tatws llaeth A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddai, byddai y gweision a’r morwynion yn bwyta yn y briws, a theulu’r ty yn bwyta drwodd A oedd enw arall ar ginio? Chlywais i ddim
**Tudalen 2/Page 2** MS 346_0002 A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Byddem weithiau pan yn rhy brysur i ddod at y ty, a’r ffordd ymhell Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Ni cheid cinio poeth yn y caeau Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio? Trwy dyny rhaff oedd yn hongian wrth gloch a honio yn caeau Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn? Tua 4 o’r gloch yn y cynhaeaf ond tua 6 pan fyddai dydd bur yn y gaeaf Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Te neu cynwyswd, te chwech, Beth a fwyteid? Tafelli o fara ymenyn, a the Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Yn y ty y byddai y dynion yn bwyta yn y gaeaf ond yn y caeau neu’r adeiladau yr haf Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Tua 7 o’r gloch Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper Beth a fwyteid iddo? Te a bara ymenyn, weithiau powliad o uwd a chwpanaid a brechdan wefyr Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?) Y gweision a’r morwynion a fyddai yn cysgu ar y lle, yna teulu’r ty Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? - Pa amser a wneid y godro? Y peth cyntaf wedi brecwasta y bore, a thua 5 i 5.30 y prydnawn A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddid Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Yn y prydnawn a byddai gwraig y ty yn gwneyd cremfiog fel croeso i’w chymdogion A beth am y dynion? Tarawant ar eu gilydd yn y caeau pan yn edrych eu ‘stock’ yn y boreau Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Mynd i de, a hel visit Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Drwy darllen neu ganu, rhai o’r merched yn gwau neu wnio Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Tua 9 o’r gloch A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Gwneid, merched yn trwsio sana a thrwsio dilladau, a’r dynion yn coblio esgidiau neu gwneyd tipyn o waith coed A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Oedd, bwyd trwm cynnes yn y gaeaf, bwyd tipyn ysgafnach yn yr haf.
**Tudlalen 3/Page 3** Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ty yn eich ardal? Briws, ty llaeth, pantry, gegin parlwr, y lobby, twll dan y grisiau a’r gwahanol lofftydd a chegin llamiau A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod cynhaeaf? Byddai, ceid tatw a chig eidion wedi ei rostio i ginio, a phwdin mewn ambell i le, a bara ymenyn a chaws i de. Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’ gwas mawr, gwas bach)? Hwsmon, eilgwas, pen certmon, eil gertmon, trydydd certmon os byddai y fferm yn fawr, dyn caled, gwas bach Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal? Beudy, ystabl, ystabl bach, cwt boeler, cwt malu, cytiau moch, cwt glo, hofel Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal? O berthynas i weithio cyn brecwast, clywais fy nhad yn dweyd y byddai ef a dyn arall yn rhwymo yd yn ysgubau am ryw awr cyn brecwast, ac y byddent mewn diwrnod yn rhwymo ac yn stookio 60 stook bob un. Roedd stook yn golygu 12 o ysgubau sef 9 yn y gwaelod a thair fel to ar y pen, a’r ysgub ucha wedi ei rhwymo yn y ddwy arall. Golyga hyny y byddent wedi rhwymo 720 o ysgubau bob un a’u stookio, ystyrid hyny yn gryn orchest. Byddai llawer yn godro defaid cyn brecwast, y merched fyddai yn cyflawni y gwaith hwn amlaf, torchen ar eu pennau a’r piser llaeth ar ben hwnw. Ynglyn a chadw’n ddyletswydd deuluaidd byddent yn darllen pennod o’r Beibl ac yn canu emyn cyn mynd i weddi mewn ambell i le.