Blog Homepage

Ebrill 3, 2007

David Thorpe, 3 April 2007

Ers dechrau gweithio yn Sain Ffagan, mae fy 'niddordeb' mewn materion crefyddol wedi gorfod tyfu'n sylweddol. Ydw, wir, dwi'n ddigon hapus (wrth fy modd, bron) yn mwydro am oriau am yr Eglwys Ganoloesol; llafarganu, cerfluniau, darluniau Almaenig o'r Apocalyps hydnoed - ond mae maes 'Yr Eglwys Heddiw' yn llawer mwy niwlog a chythryblus ei olwg i fi na'r hen, hen hanes. Ces i ddipyn o gyflwyniad i'r pwnc pan yn trafod ail-gysegru'r Eglwys. Roedd yn rhaid ystyried pob math o broblemau dyrys - rhyw hybrid ysbrydol-ymarferol sy'n gorfod ystyried anghenion trigolion Pontarddulais, yr Eglwys yn Nghymru a thros chwe chan mil o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'n codi sylw at nyth gacwn o enwadau, defodau, ac, yn naturiol, hanes difodiant adeiladau tebyg, nad oedd lle iddynt yma yn Sain Ffagan.

Roedd hi'n braf, felly, gweld yr erthygl hon (http://news.bbc.co.uk/1/hi/magazine/default.stm), felly, ar dudalen Saesneg y BBC. Mae'n adlewyrchu cymaint o'r themau yr hoffem ni - ac y bydd raid i ni - fynd i'r afa'l â nhw wedi i'r Eglwys agor yn swyddogol fis Hydref. Beth yw rôl addoldy heddiw - ai creiryn yn unig fydd yr Eglwys wrth iddi agor? Gobeithio y bydd digon ohonoch chi'n ymweld â ni i roi dipyn o fywyd i'r lle - does dim byd tebyg i'r teimlad yna pan fydd hi'n llawn pobl!

Felly, gyda'r mwydro lled-athronyddol o'r ffordd, rhaid troi ngolwg i'r Pasg. Stori'r Atgyfodiad yw prif thema ein murluniau - a bydd yr artist Tracey Williams a minnau'n cynnal gweithgareddau'n peintio a dehongli'r stori dros y pythefnos nesa'. Mae croeso i chi alw i mewn i gymryd rhan - dewch â'ch het artist gyda chi!

David Thorpe

Senior Digital Developer
Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.