Blog Homepage

@DyddiadurKate - ‘Y condemiad mwyaf ynddo’i hun fu ar y rhyfel yng Nghefnddwysarn’

Elen Phillips, 5 January 2016

Cyn i ni ddechrau o ddifri ar y bennod nesaf ym mhrosiect @DyddiadurKate (oes, mae dilyniant!), yn y blog hwn mi fyddai’n ffarwelio â dyddiadur 1915 drwy gyflwyno stori Tomi’r Hendre.

Mae enw Tomi’r Hendre yn gyfarwydd iawn i’r rhai ohonoch sydd wedi dilyn @DyddiadurKate o’r cychwyn cyntaf. Ynghyd â’i chwaer Win, roedd Tomi yn ymwelydd cyson â Ty Hen – cartref Kate a’i rhieni – drwy gydol 1915. Fe’u magwyd yng Nghwm Main, ble roedd eu rhieni – John ac Ann Jones – yn rhedeg Siop yr Hendre. Mae llyfrau cyfrifon a thalebau’r busnes bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac os gofiwch chi, mewn blog blaenorol, fe fues i’n trafod ymgyrch John Jones i gael blwch post cyfleus i drigolion yr ardal.

Ond i droi nôl at Tomi’r mab, yn 1915 roedd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor, ac eisoes wedi hyfforddi fel athro. Yn Rhagfyr y flwyddyn honno – tri mis cyn ei benblwydd yn 21 – ymunodd â’r fyddin. Nid oes cofnod o hyn yn nyddiadur Kate Rowlands.

Erbyn Ionawr 1916, roedd Tomi wedi ei leoli gydag 21ain Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng ngwersyll hyfforddi Parc Cinmel. Wrth chwilota drwy archifau Siop yr Hendre, fe ddes i ar draws cerdyn post a anfonodd Tomi at ei rieni yn ystod y cyfnod hwn.

Derbyniais y parcel ond oherwyd[d] prysurdeb yr wyf wedi bod yn anabl i atteb [sic] o’r blaen. Yr wyf wedi symud i Hut 30 fel y gwelwch ac wedi cael fy ngwneyd [sic] yn ben arno ac felly yr wyf yn hollol gartrefol. Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front gan y byd[d]wn yn cael ein gwneyd [sic] yn officers… Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol mor fuan ag a alloch.

Er nad oedd yn rhagweld cyfnod yn y ffosydd, ym Mehefin 1916 roedd Tomi ar ei ffordd i Ffrainc. Llai na mis yn ddiweddarach, ar 20 Gorffennaf, fe’i hanafwyd yn ddifrifol yn ei frest ym mrwydr Coedwig Delville. Cludwyd Tomi i ysbyty yn Boulogne, ac yna i Ysbyty Ryfel Leith, ger Caeredin. Mae’r adroddiadau gan feddygon Leith yn anodd iawn i’w darllen. Dyma grynodeb o’i gyflwr pan gyrhaeddodd yr ysbyty ar 31 Gorffennaf.

Admitted from No 18. Gen. Hospt. Boulogne. There is a small wound size of 5/ on right side about the level of the 8th rib. Dulness all over this side absolute at base, breath sounds faint over upper lobes. Pat. states that he spat blood but only very little at first. X-ray shows piece of metal at level of 8th rib.

Bu farw Tomi’r Hendre o’i anafiadau ar 27 Awst 1916.

I hereby certify that No. 29606 Pte Thomas Jones… who died to-day of Empyeme and septicaemia… stated to me that he was wounded inaction [sic] at Delville Wood on July 20th 1916. There was a wound in right side of the chest, haemothorax and X. Ray showed a piece of metal in chest. Patient was operated upon and portion of rib resected to allow of free drainage on the 13th, but septic condition was very bad. L. Stewart Sandman M.D.

Mae’n dorcalonnus meddwl am fawredd y golled i’w deulu a’i gymdogion yng Nghwm Main. Cynhaliwyd ei angladd yng Nghefnddwysarn ar 31 Awst, ac mae’n debyg fod tad Kate yn un o’r rhai fu’n talu teyrnged iddo mewn seiat gyda’r hwyr. Cyhoeddwyd adroddiad manwl, di-flewyn-ar-dafod, am yr angladd yn Y Cymro (Lerpwl a’r Wyddgrug).

Angladd Tom yr Hendre yw y condemiad mwyaf ynddo’i hun fu ar y rhyfel yng Nghefnddwysarn… Y mae ei ysbryd caredig yng nghartref Caredigrwydd ei hun. Nid oes yno orfodaeth, nid oes yno glwyfo, nid oes yno ladd a llofruddio, nid oes yno neb yn cael ei gablu a’i regi gan ei salach. Yno y mae cydwybod yn rhydd, yno ni chlwyfir cariad mam, yno rhoddir ei le i gariad tad, yno ni chwelir cartrefi, ac yno ni thorrir calonnau.

Fel y byddai’n gwneud i goffau Hedd Wyn maes o law, cyfansoddodd R. Williams Parry – cyn ysgolfeistr y Sarnau –  englynion er cof amdano.

Ger ei fron yr afon rêd – dan siarad

Yn siriol wrth fyned;

Ni wrendy ddim, ddim a ddwed

Dan y clai nid yw'n clywed.

 

Ond pridd Cefnddwysarn arno – a daenwyd

Yn dyner iawn drosto;

A daw'r adar i droedio

Oddeutu'i fedd ato fo.

 

Elen Phillips

Principal Curator Contemporary & Community History
View Profile

Comments (2)

Comments are currently unavailable. We apologise for the inconvenience.
Sara Huws Amgueddfa Cymru – Museum Wales Staff
7 January 2016, 14:05

Haia Ffion - nai basio dy ymholiad ymlaen, byddai'n ddiddorol gallu gweld os oes cysylltiad yn Llyfr y Cofio. Mi wnai basio dy ymholiad 'mlaen at Elen, awdur y blog - sut fyddai'r ffordd orau i gysylltu â ti? Alli di ateb y sylw yma gan adael dy gyfeiriad ebost, a mi allai ei bigo lan o fanno, bydd dim rhaid ei gyhoeddi yma os nad wyt ti moyn.

Sara
Tîm Digidol

ON Ife Ffion F sydd 'na? Os felly, blwyddyn newydd dda!

6 January 2016, 17:39
Hi! Hoffen i weld os mae enw Tomi yn Llyfr y Cofio fel rhan o'r project 'Cymru dros Heddwch' i gasglu rhai o'r straeon tu ol i'r enwau yn y Llyfr. Falle gallwn ni trafod? Pob hwyl,
Ffion