: St Teilo’s Church

Mawrth 27, 2007

David Thorpe, 3 April 2007

Pnawn da. Gai ddechre trwy estyn gwahoddiad ichi (nage, ddim i'r Eglwys. 'Dych chi ddim wedi blino darllen am honno eto...)?

Mae Oriel 'Perthyn' (neu 'Belonging') newydd Sain Ffagan yn agor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Mawrth 31, 2007 - gobeithio y gallwch ymweld â ni! Mae'r Oriel wedi bod yn wagle tywyll ers rhai misoedd 'nawr, ond mae'r goleuadau, y camerâu a'r gwrthrychau i gyd wedi'u gosod - ac un ohonynt yn arbennig â chysylltiad gyda'r Eglwys. Dim ond jyst a ffitio i mewn i'w chornel 'mae hi, ond mae murlun Santes Catrin yn werth ei gweld. Rhaid ifi gyfadde' teimlo braidd yn bigog-tu-fewn pan welais i hi'n cael ei symud o'i chuddfan yn y Castell i lawr i'w chartref newydd - mae hi gyda un o'r olion hynaf o ddarlunio o'r Eglwys ac yn fregus iawn.

Cafodd y Santes ei phaentio yng nghanol y 14eg Ganrif, ac yn ffigwr pwerus, gosgeiddig iawn. Mae'r olwyn y tu ol iddi, wrth gwrs, yn ein hatgoffa o artaith y Cristnogion cynnar - yn ogystal ag agwedd hard sell yr Eglwys Gatholig Ganol Oesol. Mae gan bob un o'r seintiau yn yr Eglwys wrthrychcau i'n atgoffa o stori eu bywyd - ond canolbwyntio ar eu rhinweddau fyddwn ni heddiw, yn hytrach na'r aberth a'r boen welwn yn y darluniau canoloesol. Ta waeth, mae 'na gannoedd o bethau eraill (o oes cyn Crist i foddi Capel Celyn) i'w gweld yn yr Oriel newydd - ond cofiwch ddweud helo wrth y Gatrin pan ewch chi heibio.

Cyffro yng nghasgliad yr Amgueddfa - a chyffro felly i'n dehonglwyr: roedd rhaid ffarwelio â'n 'Celt' preswyl, Owain (hwnnw wedi mynd i adeiladu nyth wiail i'w epil newydd), a chroesawu Anna i'n plith (y hi fydd yn gweithio yn Oriel Perthyn) yr wythnos hon. Ychwanegu hwnnw at chwa'r gwanwyn o fysus ysgol, ynghyd â'r gobaith y cai amser i dynnu gwynt a sgrifennu'r wythnos nesa, a dyna fy wythnos. Hwyl am y tro!

Mawrth 20, 2007

David Thorpe, 20 March 2007

Wythnos dipyn yn llai bownslyd sydd wedi mynd heibio - mae'n si?r nad fi yw'r cynta' i fod 'chydig bach yn rhy optimistig ar ddechre mis Mawrth. Ei sgil effaith, wrth gwrs, oedd fy mod wedi defnyddio fy nognau egni i gyd erbyn dydd Gwener (ac wedi anghofio, fel ffwl, am y penwythnos prysur o fy mlaen: Caerdydd gyfan, yn sicr o fod â chlamp o Benmaenmawr wedi'r gêm, yn crwydo'r parc fel zombies gwyrdd!)

Mae cyfarch a sgwrsio 'da'r cyhoedd yn fusnes blinedig. Mae dewis ei wneud mewn dillad rhy frau, ar ddiwrnod arbennig o oriog, yn fusnes blinedig a gwirion.

Ac felly mae'r chill cyfarwydd yn dangos ei ben, ac yn sydyn reit dwi'n teimlo'n swrth ac oer - efo dim ond clogyn brethyn Tuduraidd yn y swyddfa'n gwmpeini cynnes (a hwnnw'n edrych yn wirioneddol sdiwpid ar ben jîns!) Mae gennai got Ray Mears ar sêt deithiwr y car. Peth anferth, bob tywydd. Pob poced yn llawn teclynnau anhepgor, abswrd rhywun sy'n treulio lot gormod o amser mewn Amgueddfa awyr agored - tortsh, matsys, cliciwr-cyfri, cyllell boced, mapiau a phisys o bapur yn f'atgoffa i ffonio 'Catholic Living Magazine'. Dim iws i neb ar sêt y 'Pyrjo' yn y maes parcio. Y clogyn amdani te. Cam amgen i fyd 'dehongli byw' ar bnawn Sadwrn, yn enw cynhesrwydd!

Diar mi - fe soniais i, yndo, pa mor hawdd ydi datblygu obsesiwn efo'r tywydd yn Sain Ffagan, a dyma fi, unwaith eto, yn swnian am yr oerfel.

Yn fyr - dwi 'nôl yn y Swyddfa Gynnes r?an, ac wedi llowcio cymaint o fitaminau dwi'n gneud s?n fel ratl babi pan dwi'n symud. Maen nhw ar y ddesg, drws nesa' i'n hylif haul - mae o wedi bod yn eistedd yno'n optimistig ers mis Awst diwethaf...

Mawrth 13, 2007

David Thorpe, 13 March 2007

Waw am ddiwrnod braf! Helo! Diwrnod o waith swyddfa sydd gen i heddiw, ond ces gyfle i fynd allan i grwydro'r safle bore 'ma cyn cwrdd â gr?p o ymwelwyr o Benarth.

Fe fuom ni'n sbecian o amgylch yr Eglwys - minnau a Ray Smith (Pen Saer - yn yr ystyr llythrennol - yr Amgueddfa) yn ateb cwestiynau a sgwrsio. Mae Ray wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers sbelen r?an: a dweud y gwir, mae wedi bod yn gweithio ar brosiect yr Eglwys ers ei chychwyn (h.y. pan oeddwn i'n fabi bach bochgoch).

O edrych yn ofalus ar luniau yn ein archifau, gellir ei sbotio, mewn du a gwyn, yn gweithio ar brosiect adeiladu Siop Gwalia, ac ar Institiwt Glowyr Oakdale hefyd. Ei orchwyl, ar hyn o bryd, yw cerfio bywyd Teilo Sant (cewch air am weddill ei gampweithiau mewn post nes ymlaen!) Mae'n defnyddio un darn o dderw Cymreig, un-troedfedd-ar-bymtheg o hyd - a chan ei bod hi dipyn yn gynhesach tu allan, mae wedi symud yn ôl i fyny i'r Eglwys i weithio. Dwi'n falch o gael ei gwmpeini, am ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth am bawb a phopeth yn Sain Ffagan (ac hefyd yn wrandawr da iawn pan fydda i'n troi'n Strempan oriog ar foreuau glawog). Os ddewch chi i fyny i'r Eglwys rywdro, mynnwch sgwrs ag e - ar yr amod y byddwch chi'n glou: mae gwaith 'da fe i'w wneud!

Ta waeth, wythnos orlawn sydd wedi mynd heibio (fe fydd raid i chi faddau imi - dwi'n gwybod taw dydd Mawrth yw hi, ond mae Wythnos Sain Ffagan yn wahanol iawn. Ddewch chi ddim o hyd iddi ar gloc na chalendr...) - ac mae'n syndod cymaint yn rhagor o ymwelwyr sydd wedi dod atom ni yn yr wythnos heulog ddiwethaf. O ystyried y cyfarch, sgwrsio, malu awyr, ateb cwestiynau a dwrdio dwi'n ei wneud bob dydd, mae'r Eglwys - er ei bod hi'n wag o gynulleidfa - yn dod, yn raddol bach, yn le swnllyd iawn.

Mawrth 6, 2007

David Thorpe, 6 March 2007

Dwi'n ôl ar ôl tipyn o seibiant yn Lerpwl - ac yn ceisio gwneud pen-a-chynffon o'r holl ymweliadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf. Dwi'n si?r i'n hymddangosiad ni ar y Newyddion a'r radio fis Chwefror ddenu llawer o bobl yma - nifer ohonynt yn ymweld am y tro cyntaf â'r Eglwys, sydd wastad yn beth braf.

Dwi'n teimlo, mor bell a hyn i fewn i fy nyddiadur bach, y dylwn i gyflwyno prif gonsyrn Eglwys Teilo Sant, er dwi'n siwr eich bod chi wedi sylwi ar hynny erbyn hyn - yn iawn.

Eglwys hynafol eithriadol yw hi - wedi bod ar daith, nawr, ers dros ugain mlynedd. Ym mis Hydref eleni, 'dyn ni'n gobeithio datgan bod ei thramwyo ar ben yn swyddogol, a'i bod am ddechrau pennod newydd o lonyddwch gosgeiddig - serch rhyw hanner can milltir yn bellach i lawr yr M4.

Er ein bod ni'n ail greu'r Eglwys fel ac yr oedd hi yn oes Harri'r wythfed, mae ei hanes yn ymestyn llawer ymhellach na hynny. Adeiladwyd y rhan fwyaf hynafol yn oes y Normaniaid - ac estyn fuodd arni wrth i boblogaeth Pontarddulais a Hendy dyfu'n araf bach. Erbyn oes y Tuduriaid, 'roedd tua tri chant o bobl yn byw yn yr ardal - y rhan fwyaf ohonynt yn ffermwyr hunan gynhaliol. Sawl un ohonynt oedd yn dilyn cyfraith gwlad, ac yn addoli yno bob sul, wyddwn ni ddim. Yn sicr, roedd atynfa'r Eglwys fel canolfan gymdeithasol yn gryfach i rai na'i rôl fel hafan ysbrydol.

Mae'r iard o amgylch yr Eglwys yn ddigon o faint, dwi'n credu, i ail-greu peth o'r naws cymdeithasol hyn - gwyliau ar ddyddiau'r Seintiau, rasus, chwaraeon, gamblo, a phob mathau o weithgareddau Duwiol eraill.

Fe geisiaf i dynnu rhai lluniau i'w dangos, i chi gael gwell syniad ar naws y lle - os nad ydych chi'n teimlo fel ymweld, wrth gwrs...

Chwefror 14, 2007

David Thorpe, 14 February 2007

Diwrnod gwyn, prysur oedd diwrnod Teilo Sant ddydd gwener diwethaf (Chwefror 9), wel, tan amser cinio o leiaf, pan gaewyd yr Amgueddfa oherwydd Yr Eira.

Pleser prin yw cael eich taflu allan o'r Amgueddfa Hanes Genedlaethol, ac felly 'roedd cynulleidfa'r gwasanaeth yn lwcus iawn! Gobeithio y cawsant siwrne saff yn ôl i Bontarddulais, er gwaetha'r lluwchio.

Hwn oedd y gwasanaeth cynta i mi ei drefnu, ac roedd hi'n fwy o hwyl nag oen i'n ddisgwyl - ac yn wers nad oes unrhyw faint o drefnu dyfal a pherswadio yn gallu curo'r tywydd. Roedd y gwasanaeth yn wych - rhaid i mi gyfadde mod i dan deimlad am eiliad fach yn ei ystod (gormod o amser lan yn y goedwig 'ma, falle!). Ond o ddifri - braf oedd gweld y lle'n llawn, ac mae'n ysgogiad i drefnu gweithgareddau tebyg yn fwy aml yn y dyfodol.

Prin iawn oedd yr amser i ddal fy ngwynt ar ôl yr eira - roedd rhaglen lawn o weithgareddau ar hyd y penwythnos, a dwi'n dechrau tridie o sesiynau gwisg Tuduraidd heddiw. Lot o hwyl - ond anghyfforddus yw teipio mewn staes, felly mi ai yn ôl at fy nghaban rwan!