: St Teilo’s Church

Chwefror 6, 2007

David Thorpe, 6 February 2007

Ddaeth y lluwch eira ddim bore 'ma, fel o'n i wedi disgwyl - wel, wedi hanner gobeithio, byddai ymladd peli eira ar safle'r amgueddfa'n hwyl a sbri. Tywydd oer, clir drwy'r bore.

Cyn dod i weithio yma, ro'n i'n casau'r hen arfer o sôn am y tywydd yn lle sgwrsio 'go iawn'. Ar ôl chwe mis yn Sain Ffagan, fodd bynnag, dwi wedi dechrau deall - a mwynhau - yr obsesiwn genedlaethol efo atmosfferics. Mae bod allan yn yr awyr agored, mewn bwthyn neu ffermdy ddrafftiog yn llawer llai cynnes a chyfforddus 'na swyddfa ddiflas wedi'i hawyru. Tra'n gweithio ar y safle, felly, mae'r rhan fwyaf o'n gofalwyr yn paratoi tân yn y tai, yn casglu pren i greu tanllwyth croesawgar (ac ymarferol o gynnes).

Mewn Eglwys, fel 'dych chi'n si?r o wybod yn barod, does dim lle tân i swatio o'i amgylch. Er taw ail-godi Eglwys Duduraidd ydym ni, mae 'na un gwahaniaeth bach - gwresogyddion tanddaearol ar y safle. Yn wir, 'roedd y Rhufeiniaid yn eu defnyddio nhw - ond 'dyn ni wedi eu rhoi yn yr adeilad er mwyn cadw'r gwaith pren a'r plastr yn sych ac hapus. Dw inne'n dal i fferru gan amla (a chan mai cwyno sy'n ail agos i sôn am y tywydd yn y lle 'ma) - felly croeso cynnes (bwm bwm) gafodd y ffenestri newydd ddydd gwener diwethaf. Mae'r Athrofa yn Abertawe wedi bod yn brysur yn eu gosod, a gobeithio y cewch chi gyfle i ddod i fyny i'r Eglwys rywben i gal sbec arnyn (neu drwyddyn) nhw.

Mae paratoadau Diwrnod Sant Teilo, sydd dydd Gwener, Chwefror 9 yn mynd yn eu blaenau - bydd y dathlu'n digwydd ar ddydd Gwener, gyda gweithagareddau dros y penwythnos hefyd. Fe fydda i'n falch o wybod beth sydd gan drigolion Pontarddulais i'w ddweud am y datblygiadau newydd bryd hynny - siawns y cewch chithau ddarllen amdanyn nhw'r wythnos nesa' hefyd!

Ionawr 30, 2007

David Thorpe, 30 January 2007

Cofnod fach diwedd-y-dydd sydd gen i ar eich cyfer heddiw. Mae diwrnod Teilo Sant (ar Chwefror 9) yn prysur agosau a 'dwi'n ceisio trefnu oedfa ar gyfer cynulleidfa o Bontarddulais, sef safle gwreiddiol yr Eglwys. Mae'n fusnes cymhleth - yn enwedig â'r adeilad yn dal i edrych fel safle adeiladu ar hyn o bryd!

Fe gawsom ni newyddion da heddiw, fodd bynnag: mae ein cloch newydd wedi cyrraedd o Loughborough, a bydd dwy ffenestr yn ei lle erbyn diwedd yr wythnos (yr rheiny o Institiwt Wydr Abertawe). Siawns y medrai berswadio'r adeiladwyr i wneud dipyn o dwtio tra fyddwn nhw'n eu gosod!

Bydd penwythnos y 9-11 o Chwefror yn gyfle i bobl ymweld â thu fewn yr Eglwys, a dysgu 'chydig am fywyd yng Nghymru yn yr oes Duduraidd: fe fyddwn ni'n barod amdanoch chi, 'dwi'n si?r.

Rhaid trefnu gweithgareddau fel hyn fisoedd o flaen llaw, a 'dwi wedi gaddo cynnal gweithgareddau paentio yn ystod mis Ebrill. Fy ngwaith cartref i heno, felly, fydd dyfeisio ryseitiau paent naturiol. Dwi wedi bod yn arbrofi (yn aflwyddiannus) gydag wyau, lard, sbigoglys ac olew olewydd. Llawer yn rhy ddrewllyd.

Bîtrwt, sbeisys a chlai amdani heno, felly...