: Dyddiadur Kate

Dyddiadur Kate: ‘Week end’ yn Rhyduchaf

Elen Phillips, 7 June 2015

Yn ei dyddiadur echddoe, soniodd Kate ei bod yn mynd i fferm y Fedwarian, Rhyduchaf, am y ‘week end’. Yn ddiweddar mae hi hefyd wedi bod yn 'white washio' ei llofft ac yn gwibio o le i le ar ei 'bike'. Ar yr olwg gyntaf, mae geiriau fel hyn yn edrych yn chwithig mewn dyddiadur wedi ei leoli mewn cymuned a chyfnod o'i fath. Ond o gofio cefndir Kate, efallai nad yw hi’n syndod iddi fabwysiadu rhai ymadroddion Saesneg fel rhan o’i iaith bob dydd.

Mae cyfrifiad 1911 yn dangos ei bod yn medru’r ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg. Felly hefyd ei mam, Alice Jane Ellis. Er hyn, Cymraeg yn unig oedd iaith ei llys-dad, Ellis Roberts Ellis. Os gofiwch chi, ganwyd Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, ble roedd ei thad – David Williams – yn gweithio yn y diwydiant dur. Fel ei mam, roedd yntau hefyd yn frodor o Gefnddwysarn, ond bu farw mewn damwain yn y gweithle pan roedd hi’n naw mis oed. Yn ddiweddarach, ailbriododd ei mam ac aeth y teulu bach newydd i fyw i Lantisilio yn 1897. Roedd Kate yn bum mlwydd oed ar y pryd, ac yn ddeuddeg pan ddychwelodd y teulu i Feirionnydd. Dyma ei hatgofion o’r cyfnod:

Mi ailbriododd mam a mi athon ni i fyw i Llantisilio i ochor Llangollen wedyn yn de… Sisnigedd iawn o’dd fano. A dw i’n diolch am hynny heddiw hefyd ynde, i mi gael yn nhrwytho yn y Saesneg i fynd drwy’r byd… Doedd dim [Cymraeg] tu allan i’r ty.

Wrth wrando ar lais Kate Rowlands ar y tapiau sain sydd yma yn Sain Ffagan, mae’n rhyfedd meddwl amdani’n siarad Saesneg o gwbl! Yn ôl ei theulu, bu Kate yn gweini yn Lerpwl yn y blynyddoedd cyn 1915 a chafodd flas mawr ar fywyd dinesig. Roedd hi’n canlyn Bob Price Rowlands ar y pryd (ei gwr yn ddiweddarach) a bu yntau hefyd yn gweithio yn nociau Lerpwl am sbel. Mae ei ddyddiadur o'r cyfnod ym meddiant y teulu. Yn ôl bob sôn, mae'r iaith yn troi i'r Saesneg yn fwya' sydyn - dylanwad y ddinas mae'n siwr.

Bydd cyfle eto i ysgrifennu blog ehangach am iaith dyddiadur Kate, ond am y tro mwynhewch eich weekend.

 

Dyddiadur Kate: Bwydo’r boblogaeth

Elen Phillips, 29 May 2015

Ym Mawrth 1915, agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel yn y Frongoch, gerllaw’r Bala. Mewn blog blaenorol, fues i’n trafod ymateb Kate a’r wasg leol i ddyfodiad yr Almaenwyr i Sir Feirionnydd. Er gwaetha’r gofid cychwynol, erbyn canol 1915 penderfynwyd y dylid defnyddio’r carcharorion er budd yr ymgyrch rhyfel. Yn wyneb prinder llafur, ym Mehefin 1915 rhoddod Ynadon Penllyn ganiatad i’r carcharorion weithio ar ffermydd cyfagos:

Yr ydym ni Ynadon Dosbarth Penllyn, yn dymuno datgan ein barn y bydd prinder llafurwyr amaethyddol yn y dosbarth yn ystod y cynhauaf agoshaol, a gorchwyl ereill, ac felly yn dymuno datgan ein barn mai da fyddai i’r awdurdodau milwrol ganiatau i’r Germaniaid sy’n garcharorion yn Frongoch gael eu llogi at wasanaeth ffermwyr y dosbarth. Yr Adsain 22 Mehefin 1915

Yn ôl Robin Barlow, bu dros 1,000 o garcharorion Almaenaidd o’r Frongoch yn gweithio ar ffermydd yr ardal. Wrth chwilota drwy wefan Papurau Newydd Cymru Arlein, daw hi’n amlwg nad menter leol yn unig oedd hon. Er enghraifft, mae’r Denbighshire Free Press yn nodi’r canlynol yn Nhachwedd 1919:

REPATRIATION OF GERMANS: On Monday, the 24th October, all the Germans prisoners at Bathafarn Hall, with the exception of ten left behind to clean up, were returned to the Migrating Camp at Fron Goch, near Bala, and the others have since followed. Captain Bennet, camp commandant for Denbighshire, who has been in charge at Bathafarn, reports that farmers testify to the very good work done on farms by the prisoners.

Ond pam fod angen cymorth y carcharorion ar ffermydd ardal y Bala? Yn ei dyddiadur, mae Kate eisoes wedi nodi ymadawiad Robert Daniel Jones o’r Derwgoed. Ymunodd ef â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mawrth 1915. Roedd Bobbie Penyffordd wedi ymrestru yn Awst 1914, a chyn diwedd 1915 roedd o leiaf dau arall o gymdogion Kate wedi ymuno â’r lluoedd – Tomi’r Hendre ac Ivor Erwfeirig.

Erbyn 1916, roedd y Bwrdd Masnach yn amcangyfrif fod gweithlu amaethyddol Cymru a Lloegr wedi gostwng 33% ers dechrau’r rhyfel (nid yw’r ffigwr hwn yn cymryd menywod i ystyriaeth). Yn ogystal â’r prinder llafur, daeth bwydo’r boblogaeth yn boen meddwl wrth i’r rhyfel lusgo yn ei flaen. Roedd gaeaf 1915 a gwanwyn 1916 yn ddychrynllyd o oer a gwlyb, ac fe gafodd hyn effaith andwyol ar gynhaeaf y flwyddyn honno. Ar ben y cwbl, roedd si ar led fod yr Almaenwyr yn cynllunio i dargedu mewnforion gyda’u llongau tanfor. O ganlyniad i hyn oll, ymatebodd y llywodraeth drwy annog y boblogaeth i dyfu cnydau a bod yn ddyfeisgar gyda chynhyrchu bwyd. Mae’r fowlen siwgr hon o gasgliad yr Amgueddfa yn cynnwys neges o anogaeth gan David Lloyd George:

I HAVE NO HESITATION IN SAYING THAT ECONOMY IN THE CONSUMPTION & USE OF FOOD IN THIS COUNTRY IS A MATTER OF THE GREATEST POSSIBLE IMPORTANCE TO THE EMPIRE AT THE PRESENT TIME

Mae modd gweld rhagor o wrthrychau sy’n gysylltiedig â bwyd ac amaethyddiaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar ein gwefan.

 

 

@DyddiadurKate - A oes heddwch? Eisteddfodau a'r Rhyfel Byd Cyntaf

Fflur Morse, 22 May 2015

Wythnos nesaf bydd Caerffili a’r cylch yn croesawu Eisteddfod yr Urdd a dros 15,000 o blant a phobl ifanc i’r dref i gystadlu mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio. Uchafbwynt yr ŵyl i lawer fydd seremoni’r coroni a chadeirio.

Ar y penwythnos yma, ganrif yn ôl, bu Kate hefyd yn ymweld ag Eisteddfod, sef Eisteddfod Llanuwchllyn 1915.

Enillydd cadair Eisteddfod Llanuwchllyn y diwrnod hynny oedd neb llai, nag Hedd Wyn, un o brif ffigurau llenyddol Cymru.

Y gadair yma oedd y bedwaredd gadair iddo ennill mewn eisteddfod leol, a’i ffugenw oedd ‘Fleur-de-lis’, enw a ddefnyddiodd sawl tro wrth gystadlu. Dyma hefyd oedd yr eildro iddo ennill cadair Eisteddfod Llanuwchllyn. Yn yr eisteddfod gyntaf, yn ôl llafar gwlad, bu’n rhaid cadeirio Hedd Wyn yn ei absenoldeb, oherwydd iddo adael yr eisteddfod yng nghwmni un o ferched y fro, ac aros allan gyda hi.

Derbyniodd glod aruthrol yn y ddwy eisteddfod. Meddai’r beirniad ym 1913:

Well done Hedd Wyn, dos yn mlaen hyd nes cyrhaedd Cadair Genedlaethol.

A dyna be wnaeth – yn 1915 aeth ati i geisio am Gadair Genedlaethol Eisteddfod Bangor ond ni ddaeth i’r brig y tro yna. T.H Parry Williams a gipiodd y gadair a’r goron y flwyddyn hynny.

Er iddo golli ym Mangor, ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, ond yn dorcalonnus, bu farw mewn brwydr yng ngwlad Belg rhai wythnosau ynghynt. Yn ystod y ddefod, gosodwyd gorchudd du dros y Gadair.

Bu eisteddfodau yn elfen bwysig o fywydau'r Gymru yn ystod y Rhyfel. Fe roddodd gyfle i bobl ddod at ei gilydd i fwynhau ag anghofio pryderon rhyfel, pe bai hynny ond am ysbaid fechan. Mewn cyfnod o ansicrwydd, dychryn a pherygl fe fydda’r eisteddfod yn corddi ymdeimlad o ysbryd cymunedol, nid yn unig ar y ffrynt Gartref ond hefyd i filwyr hiraethus o Gymru:

The Welshmen in khaki could not let Easter go by without his feast of song, and “somewhere in England” the lads from the Principality had a Welsh Divisional Eisteddfod. Cambrian Daily Leader, 25 Ebrill 1916  

@DyddiadurKate - Carcharorion Rhyfel

Richard Edwards, 11 May 2015

Yn dilyn ymlaen o flog Elen am Wersyll Carcharorion Frongoch, dw i am dynnu eich sylw at y gwrthrychau sydd gennym yn ein casgliadau sy’n gysylltiedig â charcharorion rhyfel neu gwersylloedd rhyfel yn ystod y ddau ryfel byd.

Am gyfod byr bu’r peilot Arthur Wellesley Rees Evans yn garcharor rhyfel pan saethwyd ei awyren i lawr tra ar ei ffordd i fomio Cologne yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei gasgliad gennym yn yr archif yn Sain Ffagan ac yn cynnwys dogfennau megis canllawiau am gyfathrebu â charcharorion rhyfel sydd wedi'u caethiwo dramor, canllawiau'r Pwyllgor Canolog Carcharorion Rhyfel ynghylch anfon parseli bwyd i garcharorion rhyfel yn yr Almaen, yn ogystal â cherdyn post o Wersyll Carcharorion Rhyfel Limburg yn hysbysu ei deulu ei fod yn garcharor rhyfel.

Mae enghreifftiau gennym hefyd o wrthrychau a wnaed gan garcharorion rhyfel Almaeneg a Thwrcaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r rhain yn cynnwys set ysmygu a wnaed gan garcharor Almaeneg mewn gwersyll carcharorion rhyfel ym Mhenarth, a model gleinwaith o neidr gyda chameleon yn ei geg gyda'r geiriau 'TURKISH PRISONER 1917'.

Mae pawb yn gyfarwydd â’r ddelwedd o garcharorion rhyfel Prydeinig yn brwydro ac yn dianc o wersylloedd y gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd mewn storïau anhygoel megis ‘The Great Escape’ neu ‘Pum Cynnig i Gymro’.

Mae stori

yn debyg iawn i’r storïau hyn. Bu’n aelod o’r RAF, a chymrodd rhan mewn nifer o chyrchfaoedd bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Saethwyd ei awyren i lawr yn Mai 1943, a chafodd ei ddal gan yr Almaenwyr tra’n lloches gyda theulu Ffleminaidd. Danfonwyd Cecil i wersyll carcharorion rhyfel Almaeneg, Stalag Luft 3, ond nid oedd yn bwriadu treulio gweddill y rhyfel y tu ôl i’r weiren bigog. Felly, mi ddihangodd

cyn cael ei ddal eto gan yr Almaenwyr a’i ddanfon yn ôl i’r gwersyll. Rhoddwyd ei gasgliad o ddogfennau i’r Amgueddfa ddwy flynedd yn ôl, ac mae’n gasgliad hynod ddiddorol. Mae’n cynnwys cynlluniau i ddianc , mapiau hancesi papur , trwyddedau ffug gyda’r stamp Natsïaidd , a hyd yn oed ambell i Reichsmarks!

DyddiadurKate – Gwersyll Carcharorion Frongoch

Elen Phillips, 20 April 2015

Erbyn Ebrill 1915, roedd sgil effeithiau’r Rhyfel Mawr i’w gweld a’u teimlo ar lawr gwlad Meirionnydd. Nepell o gartref Kate a’i theulu, fe agorwyd gwersyll i garcharorion rhyfel ar gyn safle distylldy whisgi yn Frongoch – rhyw ddwy filltir o’r Bala.

Yn y cof cenedlaethol, rydym yn dueddol o gysylltu Frongoch â’r Gwyddelod. Yma y carcharwyd arweinwyr blaenllaw Gwrthryfel y Pasg ym 1916. Ond yn wreiddiol, carchar i Almaenwyr oedd Frongoch. Bu’r awdurdodau wrthi am wythnosau yn gweddnewid yr hen ddistylldy ar eu cyfer.

Y Germans – Prysurdeb di-ail a welir yn hen waith whisgi Fron Goch, yn darparu lle i giwaid y fath sydd i ddyfod yma mewn rhyw fis eto. Wrth syllu oddeutu’r adeilad, a gweled rhwyd-waith o wifrau sydd yn ei amgylchu, gallai dyn feddwl mai haid o greaduriaid gwylltion a mileinig ydynt, ac yn ol a welaf, bydd yn haws i lygoden fynd o gêg cath nag i’r un o honynt ddiengyd. Diolch am hyny; y maent yn ddigon agos atom lle y maent, heb son am gartrefu yn ein hymyl fel hyn. Y Llan 1 Ionawr 1915

Yn naturiol, roedd y wasg leol yn llawn erthyglau am ddyfodiad yr Almaenwyr i Frongoch. Wedi’r cyfan, hwn oedd un o’r gwersylloedd cyntaf o’i fath ym Mhrydain yn y cyfnod dan sylw. Gallwn ond ddychmygu chwilfrydedd a gofid y boblogaeth leol pan gyrhaeddodd yr Amlaenwyr cyntaf ar 25 Mawrth 1915.

Bydd dydd Iau diweddaf yn ddiwrnod i’w hir gofio yn ardaloedd y Bala, a bydd yr argraffiadau a wnaed ar feddyliau y cannoedd plant ac ereill yn rhwym o aros ar eu cof tra byddant byw, oblegid yr oedd amgylchiad yn un mor eithriadol, sef dyfodiad yn agos i bedwar cant o garcharorion rhyfel i wersyllfa Frongoch, yr hwn sydd o fewn dwy filltir a hanner i’r Bala… Deallwn fod llawer o’r carcharorion uchod wedi eu dal ar ol y frwydr fawr yn Neuve Chapelle. Y Cymro (Lerpwl a’r Wyddgrug) 7 Ebrill 1915

Er nad oedd Kate yn un i gofnodi cerrig milltir y rhyfel, mae cyfeiriad byr at yr Almaenwyr yn cyrraedd Frongoch yn ei dyddiadur (hynny a hanes coler ceffyl a'i chwpwrdd newydd!)

19 Ebrill – Dros 500 o garcharorion Germanaidd yn dod i Frongoch. Myfi yn mynd ir Post a mynd a choler ceffyl Berwyn House adref. Fewythr Hugh yn dod yma i weld y cwpwrdd.

Dyma un o'r ychydig gyfeiriadau uniongyrchol at y rhyfel yn y dyddiadur.