: Dyddiadur Kate

@DyddiadurKate - Gwneud Menyn

Mared McAleavey, 25 March 2015

Yn ei dyddiadur ddoe, nododd Kate ei bod wedi 'Corddi y boreu. Modryb Erwfedig yma yn nol ymenyn.'

Roedd gwaith y llaethdy yn amlwg yn rhan ganolog o’i bywyd, a hithau’n cael ei disgrifio fel “merch ffarmwr gwaith llaethdy” yng Nghyfrifiad 1911. Dwi eisoes wedi disgrifio’n fras y broses o gorddi yn Tyhen, ond beth oedd y camau nesaf er mwyn gwneud menyn? Dyma ddyfynnu Kate unwaith eto yn disgrifio’r prosesau mewn cyfweliad hanes llafar gyda Minwel Tibbott nôl ym 1970. 

Wedi i’r menyn ffurfio, byddai Kate yn “i godi o wyneb y llaeth” gyda llaw a’i roi mewn noe, sef “fel bywlen bren fawr.” ‘Doedd dim yn cael ei wastraffu, ac unai byddai’r llaeth enwyn yn cael ei roi i’r anifeiliaid, neu byddai’r teulu yn “iwsho hwnnw i neud siot a phethe felly te, a gneud glasdwr [sef dŵr a llaeth enwyn] i fynd allan i’w yfed adag g’neud gwair … Fydde llawer iawn yn rhoi blaw’ ceirch hefyd, jesd i sgatro fo ar wyneb y can ‘n te wrth fynd â fo allan i’r cae gwair.”

I drin y menyn, roedd angen ei olchi’n lân mewn dŵr oer, “oedd raid chi ga’l y llaeth i gyd allan ne fysa fo’m yn cadw dim.” Wedi ei olchi, roedd rhaid cael gwared ar yr hylif. Yn y cyfweliad, mae Kate yn disgrifio'r hyn rwy’n ei adnabod fel clapiwr menyn, sef teclyn siâp madarch a ddefnyddid i weithio’r menyn yn y noe i gael y dŵr allan - “sgimer fydde ni’n galw beth o’ gynno ni yn i drin o’n te.”  Byddai Kate “yn gwbod yn syth” pan fo’r menyn yn barod “fydde chi’n sprinclo halen a’no fo a’i gymysgu’ o reit dda, a wedyn i godi o a neud o’n bwysi wedyn.”  Roedd ganddi “glorian i bwyso fo’n te, ‘dyn godi o, hynny o’chi’n feddwl fysa gneud pwys ‘n te a wedyn roi o mewn cwpan fenyn … ‘dyn o’dd o’n dŵad yn grwn … Roi o wedyn ar y slab carreg ‘n te, yna fydda ni’n roi’r print arno fo … Oedd pob ffarm a’i brint i hunan … Weles i ddeilen derwen, o’ hwnnw’n neis a wyddo chi mesen a’n o fo te … Welish i fuwch genno ni hefyd ryw dro … O’dda ni’n werthu o’n lleol i siop yn y pentre y rhan fwya” ac yn cyfnewid y menyn am “neges yn y siop.”

@DyddiadurKate – y rhyfel yn nesau at y Sarnau

Elen Phillips, 18 March 2015

Wrth ddarllen cofnodion diweddar @DyddiadurKate, mae’n hawdd anghofio am gysgod y rhyfel ar fywydau trigolion y Sarnau. Heblaw am un nodyn byr am orymdaith y milwyr drwy Feirionnydd ac ambell gyfeiriad at gasglu arian er budd y Belgiaid, dyw Kate ddim yn ymhelaethu rhyw lawer am y rhyfel yn ei dyddiadur.

Mae’n rhaid cofio nad oedd effaith y rhyfel ar y ffrynt cartref mor amlwg yn ystod misoedd cynnar y brwydro. Wrth gwrs, dyma’r cyfnod cyn gorfodaeth filwrol a chyn i ddinistr y cyfandir ddylanwadu ar bob cymuned a theulu mewn rhyw fodd. Ar ddechrau 1915, nid oedd prinder llafur ar ffermydd Cymru, nac ychwaith gofid am gynhyrchiant bwyd – roedd bywyd bob dydd yn mynd yn ei flaen fel arfer.

Ond er hyn, erbyn diwedd Mawrth 1915 rydym yn gweld yn nyddiadur Kate ambell awgrym fod y rhyfel yn nesau at adref. Ar 18 Mawrth, mae’n nodi’r canlynol:

18 Mawrth – Myfi yn mynd ir seiat. Seiat ymadawol a R. Daniel Jones

Mae enw Robert Daniel Jones yn ymddangos droeon yn y dyddiadur rhwng Ionawr a Mawrth 1915. Roedd ymhlith cylch cymdeithasol Kate a’i theulu ac yn ymwelydd cyson â Tyhen. Hyd y gwela i, roedd yn byw yn y Derwgoed ac yn gweithio fel gwas ffarm efallai?

22 Chwefror – Berwi pen mochyn, a thoddi lard. Myfi yn mynd ir Hendre. Tomi a Richard yma min nos. Robert Daniel Jones yn ymadael or Caerau ir Derwgoed yn wael.

Yng nghefn ei dyddiadur, roedd Kate yn cadw cofnod o gyfeiriadau ffrindiau oddi cartref. Ymhlith yr enwau, mae tri cyfeiriad ar gyfer Robert Daniel Jones – pob un yn gysylltiedig â 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wrth bori dogfennau milwrol y Rhyfel Mawr ar-lein, mae’n dod yn amlwg pam fod seiat ymadawol iddo ar 18 Mawrth 1915 – pum niwrnod yn ddiweddarach ymrestrodd â’r fyddin. Gallwch weld ei gerdyn medalau

.

Ffurfiwyd 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn y Drenewydd ym Medi 1914. Bataliwn Meirionnydd a Maldwyn oedd hon â grewyd i wasanaethu gartref, yn hytrach na thramor. Ar 22 Ebrill 1915, symudodd y bataliwn i Northampton – ffaith sy’n cael ei ategu yng nghefn dyddiadur Kate:

Pte R. Daniel Jones

3679 2/7th Batt RWF Co. D

c/o Mrs Callon

78 Adams Avenue

Northampton

Prin iawn yw’r sôn am Robert Daniel yn y dyddiadur wedi Mawrth 1915. O’r cerdyn medalau sydd i’w ganfod yn y National Archives yn Kew, rydym yn gwybod iddo oroesi’r rhyfel.  Cafodd ei ryddhau o’r fyddin ar 22 Ebrill 1916 oherwydd gwaeledd. Mae natur ei salwch yn ddirgelwch, ond mae un cyfeiriad yng nghefn y dyddiadur yn ei leoli yn ysbyty filwrol Cherryhinton, ger Caergrawnt:

Pte R. D. Jones 3679

2/7 Battalion RWF D Coy

Transport Section

Cherryhinton Military Hospital

War 6. C.

Cambridge

Roedd Robert Daniel ymhlith y cyntaf o gyfoedion Kate i ymuno â’r fyddin. Cadwch lygad ar y blog dros y misoedd nesaf i glywed mwy am hanes y lleill.

Os oes rhagor o fanylion gennych am Robert Daniel Jones, neu unrhyw berson neu leoliad sy’n cael eu crybwyll yn y dyddiadur, ebostiwch neu gadewch neges isod. Diolch yn fawr!

 

 

 

@DyddiadurKate - Corddi Menyn

Mared McAleavey, 13 March 2015

Fel amryw ohonoch dwi’n siwr, dwi wrth fy modd yn darllen @DyddiadurKate ac wedi dotio sut gall brawddeg fer neu gwpl o eiriau ddadlennu cymaint am fywyd a diwylliant teulu a chymuned.

A finna’n gyfrifol am y casgliadau bywyd cartref, ei chyfeiriadau at y gwaith dyddiol o gadw ty a dyletswyddau’r fferm sy’n fy niddori fwyaf. Dwi’n mwynhau’r cyfle i drydar lluniau ar fy nghyfrif @SF_Ystafelloedd er mwyn rhoi cyd-destun gweledol i’w chofnodion syml, megis:

                “golchi yn y boreu”

                “berwi pen mochyn”

                “pobi bara ceirch y boreu”

Ddoe bu Kate yn “corddi”, a gan fod gennym dâp cyfan yn ein harchif sain o atgofion Kate am gorddi a gwneud menyn ar fferm Tyhen, dyma sbardun i mi ymhelaethu a dyfynnu peth o’r cyfweliad.

Roedd y llaethdy, neu’r "dairy” chwedl Kate yn “oer, oer” gyda “meinciau cerrig fel ryw silffoedd cerrig.” Byddai’r llaeth yn cael ei hidlo i mewn i bot llaeth, gyda “slentsen” yn gaead iddo. Llechen gron oedd hon, wedi ei phrynu yn Chwarel Ffestiniog, i arbed “llwch a gwybed” rhag heintio’r cynnwys. Byddai’r llaeth yn sefyll yn y pot “am ryw dri d’wrnod … a’i droi o bob dydd ‘n te. Oedd hynny’n bwysig i chi ga’l y lliw yn y menyn yr un peth ‘n te.” Yn aml iawn byddai’n cymryd mwy o amser i dwchu’r llaeth yn y gaeaf a byddai’n rhaid “dod a fo ar y pentan wrth y tân i gadw’r gwres i fyny.”

Nid corddi â llaw fyddai’r teulu, “oedde ni’n Tyhen yn corddi efo ceffyl … y gwerthyd [sef y echel haearn o’r pwer ceffyl, y tu allan i’r adeilad] yn dod trw’r wal i’r sgubor ac wedyn o’dd o’n rhedeg ar bwlis wedyn i fewn i’r dairy.” Byddai un person yn gofalu nad oed y ceffyl yn symud yn rhy gyflym, a’r llall yn cadw llygaid ar y fuddai. “O raid ni stopio ryw ddwy waith ne dair yn dechre wedi roi ryw ddau dro ‘n te i ollwng y gwynt o’r fudde ne fyse’n byrstio … Fydde ne wydr bach i chi wel’ be’ fydde fo ar torri’n fenyn … Mynd reit ara deg wedyn am blwc ie ‘dyn fydden hel yn fenyn i gyd yn top ychi … Pan ddoi’r gwydyr yn glir, dene chi ‘di darfod ‘n te.”

Hacio'r Iaith - Cyflwyno Kate

Sara Huws, 10 March 2015

Ro'n i'n falch iawn (a braidd yn nerfus) i fynychu Hacio'r Iaith am y tro cyntaf dros y penwythnos. Mae'r diwrnod ar fformat barcamp - sy'n gofyn bod pawb yn dod â rhywbeth i'w drafod, ei gyfrannu neu'i gyflwyno. Canlyniad hyn oedd diwrnod llawn ymgysylltu, dysgu a hwyl - mi oedd bron bob sgwrs yn sesiwn yn ei hun, a mi ddysgais i gymaint am blatfformau a phrosiectau digidol Cymraeg. Dwi ar fy ffordd i sesiwn Digidol ar Daith, felly gobeithio y gallai bostio crynodeb fwy trylwyr o beth ddysges i yn fuan.

Er fy mod i wedi hen arfer siarad yn gyhoeddus, dyma fy sgwrs gyntaf ar ran yr adran ddigidol - ac am fy mod yn cyflwyno am @DyddiadurKate, roeddwn i'n awyddus i wneud argraff dda ar ran y tîm sy'n gweithio mor galed ar y prosiect. Cewch edrych dros fy sleidiau, a chrynodeb o'r sgwrs ar wefan Hacio'r Iaith. Cewch chwilio trwy #fwrlwm y dydd ar twitter hefyd.

Diolch i'r trefnwyr a'r cyfrannwyr am y croeso, ac am yr ysbrydoliaeth!

Dyddiadur Kate: Anturiaethau’r peiriant dyrnu

Elen Phillips, 9 March 2015

A ninnau bron ar derfyn 3 mis cyntaf @DyddiadurKate, mae un ‘cymeriad’ wedi chwarae rhan blaenllaw iawn yng nghofnodion yr wythnosau diwethaf sy’n haeddu bach o sylw ar y blog – y peiriant dyrnu. Rhwng Ionawr a Mawrth 1915, bu’r peiriant hwn ar grwydr i sawl ffermdy gerllaw cartref Kate a’i theulu. Ynghyd â mynychu’r capel, corddi a chrasu, hynt a helynt y peiriant dyrnu yw un o brif weithgarwch y dyddiadur hyd yma. Ond diolch amdano. Arferion amaethyddol fel hyn sy’n gwreiddio’r dyddiadur o fewn cymuned a chyfnod.

18 Ionawr – Yr injan ddyrnu yn Llwyniolyn

23 Ionawr – Ellis yn Tynybryn gyda’r peiriant dyrnu

30 Ionawr – Y peiriant dyrnu yn Penycefn

2 Mawrth – Yr injan ddyrnu yn y Derwgoed

4 Mawrth – Ellis yn mynd i Fedwarian at y peiriant dyrnu

Yma yn Sain Ffagan, mae sawl un mwy cymwys na fi i drafod peiriannau dyrnu. Un o fy mhrif ddiddordebau i fel curadur yw hanes prosesau casglu – y dulliau hynny a ddefnyddwyd gan Iorwerth Peate, Ffransis Payne, Minwel Tibbott ac eraill i roi hanes Cymru ar gof a chadw. Mewn blog blaenorol, soniais am waith arloesol yr Amgueddfa ym maes cofnodi hanes llafar – bu Kate Rowlands ei hun yn destun sawl cyfweliad. Dull poblogaidd arall a fabwysiadwyd gan yr Amgueddfa i gasglu data oedd holiaduron a llyfrau ateb. Roedd y rhain yn cael eu gyrru at unigolion o fewn plwyfi yng Nghymru yn gofyn am wybodaeth benodol ynglyn ag arferion eu milltir sgwâr. Mae casgliad helaeth ohonynt yma yn trafod amrywiol bynciau – meddygyniaethau gwerin, arferion tymhorol ac ati. I’r un perwyl, mae gennym hefyd bentwr o lythyrau ac ysgrifau.

Tra’n chwilota am ddeunydd yn yr archif o ardal y Sarnau, Cefnddwysarn a bro @DyddiadurKate, fe ddes i o hyd i ysgrif gan Mary Winifred Jones o’r Hendre, Cwm Main. Bydd mwy ar y blog cyn hir am y teulu hwn – mae tad a brodyr Mary yn cael eu crybwyll sawl gwaith yn y dyddiadur. Ysgrif yw hon sy’n disgrifio ffotograff o ddiwrnod dyrnu ar fferm Pentre Tai’n y Cwm, Cefnddwysarn. Gallwch weld y llun a’r ysgrif fan hyn. Tybed os mai hwn yw’r peiriant dyrnu y mae Kate yn sôn amdano?

Ar fuarth fferm Seimon Davies Pentre Tai yn Cwm Cefnddwysarn y tynwyd y darlun hwn. Perchenog y peiriant oedd Morgan Hughes Bryniau Cynlas ar ol hyny. Bu y peiriant yn gyfrwyn i roi gwaith i amryw amaethwyr bychain yn ystod y gaeaf pan oedd ychydig yn dod i fewn am fod ganddo ychwaneg nag un peiriant yr oedd yn rhaid cael dau ddyn i ganlyn pob un sef y gyrwr ar porthwr…

Yr hyn sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen atgofion Mary Jones, ac yn wir dyddiadur Kate Rowlands, yw pwysigrwydd cydweithio o fewn cymuned amaethyddol – cymdogion a ffrindiau, hen ac ifanc, yn cynorthwyo’i gilydd.