The Welsh dialect of Llanymawddwy, Montgomeryshire 29 March 2011 Mid Wales Welsh Listen to Mrs Ann Jones from Llanymawddwy talking in a Mid Wales dialect of Welsh. The recording An example of the Welsh dialect of Llanymawddwy in mid Wales. Mrs Ann Jones, born 1914, was recorded by the Welsh Language Research Unit at Cardiff University. An example of the Welsh dialect of the Llanymawddwy area of Mid Wales by Mrs Ann Jones. Fydde ’na ryw rafins ofnadwy ’ddeutu’r tŷ ar nosweth cyn priodas, yn’ bydde, cogie o gwmpas yn trio gneud rywbeth i stopio’r wraig ifanc fynd ffwr’ i’r briodas yn y bore yndê. Oedd, o, ma’n dal o hyd — o’ ’na briodas ’rochor arall ’ma ’leni, fûm i yn y briodas yn y Fairbourne Hotel ond o’ ’na rafins mawr ’na trw’r nos. On nw ’di gollwn y sgratsh defed lawr i’r ffor’, a’r hen gogie’n cel sbort. On i’n clŵed nw wthi, dal ati. Ond bydde es talwm ’run peth, a rhoi rw... /Cwinten./ Ie, cwinten, cadw cwinten. Dach chi’n gwbod be’ ’di rhoi rw. ..O, fûm i’n dal cwinten. Blode, a ’di rhoi nw ar ryw gortyn fel ’na, a’dd un bob pen, a wedyn fydde’r briodas yn dŵad wedyn fydde’r plant, pw bynnag fydde efo’r, efo’r gwinten, fydden yn cel pres, fydde raid i’r gŵr ifanc fod genno fo bres yn ’i boced, ceinioge oedden nw’r amser ‘ynny yndê, fwyaf ichi. Ond odd ceniog yn lot yr amser ’ny yndoedd ’i? Ag os gaech chi chwech, fel on i’n deu’ ’thoch chi, och chi’n ciel lot, ond oeddech chi. Ond fydde cwinten bob amser amser priodas, yntê. O bydde. O fydde ’na ryw neud a saethu mawr amser priodas. Saethu ofnadwy yn bydde? O bydde, ’dde ’na saethu ofnadwy wddoch chi amser, nos... dwrnod y briodas, yntê. Amser y ferch yma’n priodi yn Llanymowddu, yn yr eglwys Llanymowddu, o’ ’na saethu mawr wth giaet yr eglwys. Oedd, i fyny i’r gwynt, yndê, i’r awyr. O oedd. Ag oen nw’n rhoi rhw, on nw yn rhoi rhyw fwgwd ar y ffor’, llusgo coed ne rwbeth i stopio’r ’raig a’r gŵr ifanc fynd ffwr’ ’te. ’Yna fel oedd yr amser ’ynny yntê, dach chi’n dyallt. ’Yna fo, mae o rwbath yn debyg o hyd yndydi’n dal ffor’ yma hefyd, ryw hogie neud drwg, yntê a... /Ma’r gwinten wedi gorffen./ Ma’r gwinten wedi gorffen es talwm. Os neb yn dal cwinten ’ŵan, ‘te. O, fydden yn cadw, yn dal cwinten, o’ hynny ryw draddodiad, yntê. Wel o’ ’na lawer o helynt es talwm, hen bobol wedi meddwi yn y Red Lion, a phelly, ar amser y ffair, yntê. Ag oe’ ’na ryw hen ddyn, ag oedd o’n dod â stalwyn i’r ffair i adfyteisho’r stalwyn, yntê. Ag o’r hen ddyn yn eger ofnadwy am gwrw. Ag oddo ’di bod yn y Red Lion, ag oedd o ar... ar gefn... yn arwen y ceff... y stalwyn oedd o, ag oe’ ’na, oe’ ’na stondin yn gwerthu tuns godro a potie llaeuth. A... odd o ’di meddwi cymad mi baciodd y stalwyn i ganol y llestri a’r tuns. Ag o’r hen ddynes yn gyddeiriog o’i cho’. (Dech chi’n gwbod be’ ’di bod gyddeiriog o’ch co’ — o’i go’?) A fynte’n chwerthin am ’i phen ’i. Dwy fel swn i’n ’i weld o heddiw. Yr hen foi ’ydi dal ’i’n ofnadwy yn y ffair, ’tê. O, o’ ’na fobol, on nw’n dod yma, o dros y Bwlch o’r Bala ffor’ ’na i’r ffair, ag o Lanerfyl ago bob man i’r ffair. On ma ’i ’di gorffen es talwm, wedi gorffen es ta... [Colsyn yn syrthio o’r tân.] Nae, peidiwch â poeni, pidiwch â poeni, ma’n olreit ngwaeshi. Bydden nw’n dod yma o bob man i’r ffiria. Agos doe’ ’na’m llawer o’m byd arall ar fod, yn naeg oedd, ond — gwatsha fagio hwn [Mr Jones yn mynd i godi’r colsyn] — ond ffeirie, naeg oedd. ’Na fo. A ffair glangua wedyn, o’ honno, o’ honno’m gimin ffair cweit, nag oedd. Ond oen nw m..., on nw’m mynd â gwartheg a pethe felly liawr i gwerthu lawr i’r Dinas, ond odden nw. Ond don nw’m yn gwerthu llawer o ddefed. Porthmyn odd yn dŵad o gwmpas i brynu defed, ydach chi’n dyallt, yndê, porthmyn, brynu defed. A wedyn fydden yn mynd â helfeydd o ddefed dros y Bwlch am Gorwen, Rhuthun, ffor’ ’na. Milodd, milodd, ohonyn nw’n mynd — llond y ffor’, yndê, yr amser ’ny, yntê. Dyna fo. Ond ddôth y sêls a wedyn ’na orffen am y... am y porthmyn yntê, yn prynu, ie. A wedyn fydde ’na bobol yn cer... gennyn nw fobol, be’ galwch chi bobol sydd yn gyrru’r... /Drofars./ ...drofars, yntê, mynd â’r defed, yntê. O bydde. Fûm i’n mynd efo nw lawer gwaith i’r ysgol, pan oedden ni’n mynd yn blant i’r ysgol, licio ce’ mynd efo nw a chel ceniog am aros mewn tylle yn y stingodd — dwi ’di deu’ ’thoch chi am y stingodd — am aros yn y tylle, dach chi’n gwbod. O, odden ni’n enjoio cel mynd efo nw. Ond ar ôl mynd i’r ysgol oedden ni’n cel gwers reit ddae gen yr hen schoolmaster, bo’ ni’n hwyr dod i’r ysgol. — Wel ble buoch chi? — Wel fuon yn brysur iawn yn helpu’r drofars efo’r defed. A ’na fo, mi dawelodd i lawr wedyn, yntê. Ond fydden nw’n mynd â milodd dros y Bwlch, yn’ bydden nw.
The Welsh dialect of Llansannan, West Clwyd 29 March 2011 Denbighshire Welsh Listen to Samuel Davies from Llansannan talking in a Denbighshire dialect of Welsh. The recording An example of the Welsh dialect of Llansannan, Denbighshire. Samuel Davies was born in 1911 and recorded by St Fagans:National Museum of History An example of the Welsh dialect of the Llansannan area of Denbighshire by Samuel Davies. Ew! Dwy ‘di bod yn cysidro hefo... euddwn i’n cysidro hyd ‘nod yn ‘ngwely neithiwr am enwe sydd ar betha ar drol. A dwy ‘di methu’n glir â cofio un enw, a fedra’ im cofio chwaith. Gymaint o wahanol enwe sy ar ddefnyddie mewn trol geffyl ‘ndê. Dach chi’n cofio rhei onyn nw? Ydw... Wel cymwch chi’r olwyn i gochwyn, yndê. /Ia, ia./ Y cylch, y camogie /ia/, y both /ia/, yr edin /ia/, a’r bocs echel /A!/ i gymyd o’r ddwy olwyn, o olwyn i olwyn /ia, ia/. Wel ma ‘ne... yn y... yn y drol wedyn, ma ‘ne fel ‘den ni’n deud... y crab ar ben blaen, ar drows pen blaen y drol. Fydda... fydda’r ciartar yn amal iawn adeg ‘onno, dudwch bod o’n mynd i rwle, ‘uda’ i bod o’n mynd i’r felin efo’r gaseg a’r drol. Wel y rên, ag ista ar y crab yndê. A’i ddwy droed fel hyn ar y shafft yndê. Crab byddan nw’n galw hwnnw. /0 ia ia, ia./ Wel y frân, i godi’r drol i fyny pen fydde’n cario tail. Fydde ‘ne rw bishyn bach o huarn fel ‘yn a tylle yno fo felne, a wedyn gaech chi godi y pin fel byddech chi’r tail yn mynd yn... i godi hwnne ‘ndê. Y din bren, fel bydden n’n deud, o’ reid tynnu honno yn gynta, yndodd i, ar draws tu ‘nôl. Ar draws tu ’nôl? Tu ‘nôl. O, ie./ O dan y shafftie o boptu o‘ ‘ne ddau... wel, dau ychdwr yma fel ‘yn, debig iawn i ddau goes brws. Dau dwm fydden ni’n alw o. Twm. O dan y shafftie. /Ie. / A wedyn, os byddech chi... dduda’ i bo’ chi’n... yn dadfachu ar ganol dydd efo llwyth o wair, fyddech chi’n dadfachu’r ceffyl, a gadal y drol ar y ddau dwm ‘ma, a wedyn fydde honno’n cadw’r drol yn ‘run ychdwr ag oedd ‘i wth y ceffyl yndê. A wedyn 25 o’ ‘ne rwbeth i roi ar y drol i gario cnwd — hofygafana eudden ni’n galw ‘i. Pethe i estyn y...? le. Dene fo. O! ’Na beth och chi’n galw nw, ie? Dene be’ chi’n galw hwnnw. A ‘ma ‘ne wedyn ar hyd top yr ochor y drol, ar rw shâp, fel rw dop llong, ond fedra’ i... Doedd o ddim ond ‘w bishyn o bren, dudwch bod i’n deud rw ddwy fodfedd a hanner. A fedra’ i yn ‘y myw einios â cofio be’ ‘di enw o. A dwy fod yn gwbod yn iawn be’ ‘di enw o, ‘de... Oedd o ar hyd top yr ochor i gryfhau a ‘dyn y pinne sgriws ‘ma’n mynd wedyn i’r ochre’r drol yndê. Ond am ‘u cofio’u henwe nw! A dwy’n gwbod yn iawn bod ‘ne enwe arnyn nw ‘ndê. ... Gêr y ceffyl wedyn, ‘de. /Ie./ Bobol bach! ‘Ne chi’m byd ‘blaw y siwt odd gen y ceffyl isho’i roi wth y drol. Fydden ni’n ‘i alw o y strodur. Ar ’i gefn o, ie? le. A wedyn, o’ ‘ne y din dres eudden ni’n galw ‘i. Tshaen — pad yn mynd rownd y ceffyl, a dwy tshaen yn dod i’r shafftie. O’ ‘ne ddwy arall mynd o’r mwnci i’r drol. Fel bydden ni yn deud, pytie tsheini fydden ni’ngalw rhini adeg ‘no. /O ie./ O’ ‘ne beliband. /O shafft i shafft, ia?/ Ia, o dan dor y ceffyl. /A ie. le, ie./ Ym... y ffrwyn. Yr enwe odd ar y ffrwyn. Yr awen... A ‘dyn y bit, trw geg y ceffyl... O’n ofynnol i geffyl gwaith wastad teg, dene fo... am geffyl shoe dene fo, dôs ne’m byd, ond o’ reid i geffyl llwyth gâl... y... y... clustie fel hyn i’w ffrwyn wastad teg yndê. /O ie./ On’ be ‘i, basa ceffyl yn gweld ‘i lwyth tu ‘nôl ne gweld y gwaith ‘sech chi’n neud, mi alle ‘i chymid ‘i’n syth. Fel odd o ‘di cal ‘i gau nad odd o’n gweld dim byd ond o’i flaen, ‘de. Fydde gêr troi yn beth gwahanol eto? O’ honno yn gêr gwahanol eto. Wel y prif beth am ‘onno... dyne’r... y... eudden ni’n galw honno y cefndres. A! Fel pad ar ’i... Dyne fo. Dim ond pad drost y cefn, a bacha arni, a dwy tshaen o’r mwnci hyd i’r sgildreni bach, fel bydden ni’n deud. /Be’ odden nw?/ Suldremi bach. Felne bydden ni... O’ ‘ne dair sgilbren i droi. Un sgilbren fawr, a’i chanol ‘i’n bachu wrth yr ared, a... yn bob pen i’r silbren fawr o’ ‘ne ddau... fel hook fel ‘dan ni’n deud. Wel bachu... y ddwy sgilbren bach yn rheini i bob ceffyl.
The Welsh dialect of Llansawel, Dyfed 29 March 2011 Carmarthenshire Welsh Listen to Martha Williams from Llansawel talking in a Carmarthenshire dialect of Welsh. The recording An exmple of the Welsh dialect of Carmarthenshire. Mrs Martha Williams of Llansawel was born in 1907 and recorded by St Fagans; National Museum of History. An example of the Welsh dialect of the Llansawel area of Camarthenshire by Martha Williams. Wel, weda i wthoch chi, och chi yn lladd y gwair i ddechre. Os gallech chi, a bod 'i'n sych, lladd e yn y bore. A fuodd yn nhad, odd 'dag e ddim — ddim lladdwr gwair a ceffyl yn dinnu e, a'dd e'n iwsho pladur i ladd y gwair 'ma. A bydde fe'n dechre yn y bore bach, lle bod yr haul yn dod a bydde fe'n lladd 'i 'unan wrth 'ny. Ond odd e'n gweud buodd e bwti neud gormod ryw ddyrnod, chimod. Goffo' fe orwedd lawr, yndife. Odd e... odd e wedi lladd gormod heb cal dim byd i ifed, a neud e yn y bore bach lle bod... fydde'n myn' 'nôl i odro, yndife, chimod. A wedyn ar ôl lladd y gwair 'na, och chi'n wasgaru e wedyn, a picwarch och chi'n galw 'i... Bydde fe'n lladd ystod o hyd chi'n gwel'. Bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd a... ma ystod o hyd, a fydde raid cymysgu hwnna lan wedyn i'r haul cal gafel 'no fe, fel ma bôn y gwair yn cal 'i godi lan lle bydde fe... lipa, chwel', yndife. Reit, welar ôl bydde hwnnw wedi dod yn sych, byddech chi'n crynhoi e yn ystodion mowr wedyn, fel y ceffyl a'r cart yn dod wedyn, ne gambo, i godi fe fanna a myn' ag e i'r tŷ gwair... A felny wi'n cofio dou falle, dwy bicwarch yn codi gyda'i gilydd, a'r un odd ar... odd... druan â hwnnw, odd 'dag e waith i ddodi'r gwair yn fflat fel bod e'n dala i bido cwmpo, chwel yndife. A odd e'n waith caled... A bydde ryw... ffarm nesa atoch chi'n lladd nawr... A wedyn os bydde rywun yn gweud 'Alli di ddod fory?' 'Galla, galla. Ddŵa i a gewch chi ddod 'nôl aton ni drennydd. Fyddwn ni'n lladd drennydd.' 'Na le on ni'n myn' yn hwys mawr ffor' 'ny wedyn. Chimod, helpu'i gilydd... [Peswch] On i'n cal ym mhen-blwydd yn... y ddouddegfed o Orffennaf a'n i'n meddwl 'na neis, bydd y gwair wedi dychre erbyn 'ny a fyddwn ni'n fishi, a... A os gelen ni gâl rw de mâs ar y câ 'da Mam wedyn. Bydde 'i'n do' mâs a pasged fowr a... A wedyn... odd bara menyn a'r jam a'r gagen a'r darten a'r llestri'n cal 'u dodi ar y llawr ar y... llien bord mowr wedyn. A 'na le on ni, ar y pelinie rown' felny wedyn. A odd stên fowr o de wedyn. A'r llâth a pethe. A bydde Nhad yn gweud 'Cofia bod ti'n dod a stên nawr, a bara cyrch a dŵr i ifed.' Pan 'dden nw a syched anyn nw yn gwitho wth y gwair, bydde hwn yn bôn y... bôn y clawdd. A bydde cwpan ne rwbeth ar 'i bwys e. On nw'n myn' i gal.., a cyrch, fel blawd cyrch yn y gwilod, a dŵr. A shiglo hwnnw nawr, odd hwnna nawr yn torri syched, chwel. O, odd e'n well.., odd ambell un yn cymysgu... ym... cwrw gwaith catre chimod. A'r stori on i'n gliwed am ym mrawd nawr, y trydydd, John odd 'i enw e. On nw'n colli John o hyd ychwel. On nw ffilu diall lle odd e, chwei. 'Le ma'r crwt 'na nawr 'te wedi mynd?' Odd John wedi hifed 'sbod e'n feddw yn cornel fan 'ny. Odd e 'di bo'n hifed yn y tshwc o 'yd o 'yd a Mam yn gwed 'Wel, wyt ti ddim... Os dim byd yn y shwc 'ma!' O! Odd e ddim yn gwbod, wir! A byti saith, wyth ôd, chwel. Wedi bod manny, a on nw'n gweud y stori 'ny bod e'n itha gwir, chwel, bode 'di ifed gormod, chwel. A cwrw gwaith catre odd e, chi'n gweld.
The Welsh dialect of Llangynwyd, Mid Glamorgan 29 March 2011 Llangynwyd Welsh Listen to Richard Giffith Thomas from south-east Wales talking in a Llangynwyd dialect of Welsh. The recording An example of the Welsh dialect of south-east Wales. Richard Griffith Thomas of Llangynwyd was born in 1894 and recorded by St Fagans:National Museum of History An example of the Welsh dialect of the Llangynwyd area in south-east Wales by Richard Giffith Thomas. Odd yr 'en ffwrn crasu bara yn y wal yn y manna. Ma 'i... Ma 'i 'na 'eddi, dim on' bo'r y... brics a'r... y græ ts newydd 'ma wedi gaead a miwn. Wi'n cofio bod jyst y miwn yn y ffw... yr 'en ffwrn! Odw, achos wi'n cofio odd yr arch wedi... yn tu fiwn w' dychra cwmpo. A beth fynnws Næ d odd mynnyd sæ r y Llan. Odd y sæ r, odd a'n neud y... gwaith sæ r a gwaith meiswn. On' beth nath e odd nid acor, gwitho odd' 'ma, on' acor twll o'r glowty 'rochor yco miwn i'r ffwrn. A llanw'r ffwrn o liti a doti'r brics yn ôl yn y top mwn morta' sment. A gatal nw sefyll wthnos. A wetyn, Næ d a jobyn wetyn, tynnu'r Iliti mæ s, a ma'r 'en ffwrn yn sefyll byth ag wn i. Er nag os dim crasu bara w' bod yndi es pynthag, pynthag, ddeunaw mlynadd. O, fi welas yn rai ffermydd abothu 'ma... y... on nw'n cæ l tripat. Wel, pishyn... barra harn odd a, ag odd dou o nw, dou yn dod mæ s 'ma, yn 'itsho'n y bar top man 'yn, ag odd y rest myn' t'ag yn ôI, drws y tæ n. Ag oech chi'n gallu doti citl ne grochon ar ben y tæ n ar... i sefyll arno fa. Odd 'wnnw'n rwpath odd wedi dod o'r 'en amsar pan odd y tshaen. /Ife?/ Dim on' shwrna 'riôd gwelas i'r tshaen, y tshaen a'r bechyn. Yn...mwn tŷ fferm yn y Bitws. Ond y tro dwedda own i 'no, pan odd y ffermwr sy 'no 'eddi'n myn' 'no, odd a'n altro'r cyfan. Odd a'n caead yr 'en bart 'ny fynydd, ag yn neud gecin newydd i'r modern fashion. A 'na odd pwrpas arall i'r tripat wetyn odd i ddoti'r mæ n 'arn i grasu y... ffroes a pics crynon arno fa. Welsh cakes ys gwetson nw 'eddi. /Ie, ie, ie./ Wi'n... oen nw'n gwe' 'thdo i, odd Næ d a Mam yn gwed bo' nw'n colIo iwso mæ n carrag. Oen, oen. Mæ n carrag. On' 'na beth odd gen Mam yma, a'r un peth odd gen Mam-gu yn Llest Wen, mæ n 'arn odd genti. On' odd ych tad yn cofio un... un carreg? Odd, odd. Yma? Un carrag, odd. Pwy garreg byse honno? Wel, os gen i'm cof... welas i mo 'i, on' i glŵas a'n gwed am... bod, bod y mæ n carrag wedi bod yn cæ l iwso. Achos ishtag odd ar yr 'en ffwrn bara yn y manna, plæ t carrag odd i 'onno. Wel, y... gwelas i mog e, on' wi'n cofio Næ d yn mynnyd plæ t 'arn. A wi'n gofio fa achos bod a'n... yn ddueddol o gwmpo, myn' ag e a cæ l y gof i [ddo] ti dolan iddo fa, a shelff ar 'i waelod a. 'Sa'n cwnnu lan, a [do] ti fa'n erbyn y ff... gwddwg ffwrn, odd a'n sefyll 'i 'unan wetyn.
The Welsh dialect of Glynogwr, Mid Glamorgan 29 March 2011 Glynogwr Welsh Listen to Mrs Margaret Williams from south-east Wales talking in a Glynogwr dialect of Welsh The recording An example of the original Welsh dialect of the Glynogwr area in south-east Wales. Mrs Margaret Williams was born in 1873 and recorded by St Fagans:National Museum of History. An example of the original Welsh dialect of the Glynogwr area in south-east Wales by Mrs. Margaret Williams. Ond y... down i ddim gallu nuthur menyn, odd yn nilo i ry dwym. Man nw nawr. Wi'n goffod, dwi'n ffaelu'n glir a myn' mlæn â'r y... /gweu/ gwau achos man nilo i mor dwym. Ond own i'n lîco nuthur ciaws yn 'y ngalon. O... Wel nawrte, ffor' och chi'n neud caws, gwedwch wrtho i nawrte. Godro'r dæ yn gynta a allws y... mynd â'r llæth i miwn i'r y... fel cecin fawr odd 'no. A gwoshban faw[r]... o, 'na beth oen ni'n 'i gialw 'i — woshban fawr o zinc 'no. /Ie./ Allws llæth i miwn 'no, a wetiny doti cwrd... cwrdab yndo fa. A wetiny oen ni'n giwro fo. Ffor' och chi'n giwro fe? Llian. Llian drosto fo. A dwy ffon. Næ, odd rwpath wedi neud gintyn nw at y pwrpos, dros y woshban a doti llian drosto. Wetiny aros. Wi ddim cofio am bw faint nor. Duws, duws, ma blynydda 'ddar 'ny. Ag, wetiny oen ni'n 'i... odd peth gintyn nw at 'i gymysgu fo. Wetiny oen ni'n... atal a sefyll. Beth, beth odd y peth 'ma at i gymysgu fe? Wel, fel mæth o lwy fawr bren. Rownd. A wetiny oen ni'n dyfiddo'r... Wi'n cofio'n Granny yn ishta lor acha ciatar a doti... ag odd hi'n gallu dyfiddo. Odd 'i'n lico nuthur 'ny. Allws y maidd i woshban arall. Ffor' odd 'i'n gneud 'ny 'te? Odd 'na dwli yn y badell 'ma? Nægodd. Gwnnu fa o... y... Beth odd ginti nor? Sgiæl wi'n cretu odd 'i'n 'i gialw 'i. Ma gin i ryw gof. Odych chi w' clŵad y gair 'na? 'Der â'r sgiæl 'na i fi,' wetsa 'i. Ag y... Dyfiddo'r... y... Y... y ciaws. Wetiny atal a sefyll, y... Cwnnu'r woshban lan dipyn bach, a [do]ti a yn rochor lle bo'r y... y sudd yn dod mæs ry rwydd. On nw'n barticular iawn. O, odd shŵr bo' ciaws gora'n y byd 'no. Odd raid bod y sudd yno, odd e? Wel, chi'n gwpod, pido wasgu fa ry gynnar. Pido roi... Odd 'ny'n bwysig? Odd. O, odd. Os gwasgech chi fe'n ry ginnar beth odd yn... Wel odd y dioni'n dod mæs og e. Ormodd og e. O, oen nw'n barticular iawn. Dyr, diar, diar! Wel nawr, bob pryd och chi'n neud y caws 'te wedyn? O, ar ôl iddo fa... 'swch nawr... sefyll am getyn, odd isha wetiny 'i frwo fa i'r cowstall. Chi'n gwel'. Wi'm c[r]etu bo' cowstall iddi giæl nor! [Chwerthin.] Fe fu un gin i, a fu... gorffod i fi frwo fa lan. Odd y clawr a chwbwl yn llawn o... chi'n gwpod, wedi darfod, wedi myn'. Ag.. .y... llian gwyn nor ar y cowstall, a wetiny brwo'r ciaws miwn iddo. A [do]ti halan fel oeddach chi'n 'i... moyn. Llanw'r cawstall. A giatal 'wnnw sefyll wetiny am... am noswith wi'n cretu. Odd ddim ryw... o... deg... deg o warthag odd 'no wi'n cretu. Ddim lle mawr chi'n gwel'. Nægodd. Ond odd a'n le cyffwrdus iawn. Dim un fuss. Dim drifo dim 'no. Nægodd. /'Na fe./ Cyffwrdus iawn. Wel nawr, bob pryd och chi'n neud caws? Bob nos, ne pob bore, ne pryd? Ne bob douddydd? 0... bob bora. /Bob bora./ Ia, llæth y nos a'r llæth y bora gyda'i gilydd. Wel odd raid 'chi dwymo llâth y nos wedyn, odd e? Odd, odd. Witha. Witha fysin ni'n nuthur 'ny a witha ciaws llefrith oen ni'n 'i alw fa. Wel nawrte, beth yw caws llefrith? Wel, all fresh milk, chi'n gwpod.