The Welsh dialect of Carno, Montgomeryshire 29 March 2011 Welsh dialect of Montgomeryshire Listen to Francis Thomas talking in a Montgomeryshire dialect The recording An example of the Welsh dialect of Montgomeryshire. Mr Francis Thomas from Carno was born in 1912 and recorded by the Welsh Language Research Unit, Cardiff University. This is a recording of Francis Thomas talking in a Montgomeryshire dialect. Odd Nhæd yn credu’n gry’ iawn mewn crinjar. Odd ’i dæd ynte’n credu’n gry’ yn crinja[r]. Crinjar yn byw yn Llangurig, dau onyn nw. Jæms Tŷ Morris, odd hwnnw’n go’ lawr yn Gwmbela[n], a’r hen Ifan Griffis i fyny yn Pant y Benni. Odd Ifan Griffis a Nhæd yn ffrindie alswn i feddwl. Ag mi... dwi’n cofio fo’n deud odd y ceffyle yn trigo yn Creigfryn, pedwar o geffyle wedi trigo yn Creigfryn, rip rap ar ôl ei gilydd. A... John Tomos Creigfryn yn gyrru, gynno fo(?) ddau gymydog yr un un enw, un yn Creigfryn,llâll yn Bron ’Au[l]. John Tomos Creigfryn yn gyrru Nhæd, John Tomos Bron ’Aul, at y crinjar yma i Langurig. Ag yn ciæl rhyw, fel rhyw weddi Lladin a rhoi hi mewn potel a rhoi honno yn ’i lofft o, uwchben y lle odd o’n gysgu, a drigodd ’na’r un, ’r un ceffyl wedyn. A glŵes e’n deud stori arall, dew, mae’n anodd ’i choelio ’i, on’ ma ’i, ’dwi ’im credu dde tŷ a fa gielwydd, achos odd e wedi deud hon wtha’ i lawar gwaith. Oedd ’i fem wen o yn ferch Plæs Pennant Llanbryn-mair. Ag oedd Plæs Pennant, fyny yn Cwm Pennant, ar hanner ffor’ o dreflan Llanbryn-mair i Staylittle. Ag oedd ’na rhyw un yn byw mewn rhyw ben tŷ yn uwch fyny o’r enw Dot, Dot y Ceulan. A mi ddoth Dot y Ceula[nj lawr i ofyn i rieni ’i fem wen o, eise ’i lawr i station Llanbryn-mair i moyn glo. — Duw, duw, dwi rhy fisi, medde fo, dwi yn y gwair, dwi ry fisi. Ffindia rywun arall i fynd. Ag mi... Reit, mewn ryw dair wythnos o ’na gaseg læs wedi trigo yn ganol y ciæu. A mi æth yr hen, yr hen foi, yr hen ŵr, Plæs Pennant (glŵes i Nhæd ’n adrodd hon lawar gwaith) i Llangurig at y crinjar. A medde’r cr... ddudodd y crinjar, æth e fiwn i tŷ a rhyw lyfre mawr a troi drosodd o pæij i pæij ag mi, mi... gofnodd o fel ’na. — Duw, fyswn i’n licio, crinjar, fyswn i’n licio, Mr Griffis (Ifan Griffis o’ enw Pant y Benni), fyswn licio, Mr Griffis, tasach chi’n gallu deu’ ’tha i pwy sy wedi, wedi fy witsho i. — O, alla i ddeud ’ynny wthoch chi. Ewch adre a tynnwch calon y gaseg ’ma allan a rhowch hi ar blât mawr o flaen tæn. Reit o flæin tæn. A fel fydd y galon ’ma’n cnesu yn gwres yr tæn, mi fydd y perch... yr un sy wedi neud, wedi’ch witsho chi’n dŵad yn nes at y tŷ, yn nes at y tŷ o ’yd. Ag os dach chi’n gwbod am Plæs Pennan, ma y tŷ ar draws ffor’ a wedyn mei llidiart, tŷ ar draws top y ffalt, ag yn gwaelod y ffalt mei llidiart myn’ allan i ffor’. A edrych allan drwy’r ffenest, diawl yn union dyma’r Dot ’ma o Ceulan lawr yn pasho llidiart. Pasho ’i wedyn, pasho ’i wedyn, a fel odd y galon yn cnesu. Ag dyma, o’r diwedd dyma ’i’n mentro drwy llidiat a hanner fyny’r ffalt. A medde yr hen ddyn, — Duw, duw, ma fo felna, tynna’r galon nôl, dwi ’im ishe gweld y cythral tu fiwn i’r drws tŷ ’ma.
The Welsh dialect of Llannerch-y-medd, Anglesey 29 March 2011 Welsh dialect of Anglsey Listen to Edith May Hughes talking in the Welsh dialect of Anglesey. The recording An example of the Welsh dialect of Anglesey. Mrs Edith May Hughes was born in Llannerch-y-medd in 1904 and recorded by St Fagans National Museum of History. This is a recording of Edith May Hughes talking in the Welsh dialect of Anglesey. Y ...Ol rwan 'te, at amsar te, mi fydda 'na sosbennad o stwns rwdan, ne stwns carainsh, ne stwns rhacs, fydda'r hen bobl yn galw nw. A beth odd y stwns racs 'ma on' stwns cabatshan,'lwch. Ia. A wedyn, byddan nw 'di berwi'r gabatshan a wedyn fyddan nw'm yn rhoid y dail mawr sy ar tu allan, 'mond y rhei mwya' tendar,'te. Wedyn mi fydda rhini wedi cal 'u mhalu, ag wedi berwi. Wedyn, y, fydda'r tatws 'di cal 'u roid efo nw wedyn, rhini 'di cal 'u stwnsho, 'te. Wel, wddoch chi be? Mi odd o'n dda! Mi fysach chi'n deud bod 'na damad o gabatshan wedi mynd efo bob tatan. Odd o yn neis. Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan,'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, – a board 'te – wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi ny mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badell o refi da wedi neud — efo'r nionod 'ma i gyd, te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn od o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos, ylwch. Ag amsar swpar, 'te, chips Nan Ŵan fydda hi. Fydda reid deud y gwir wedyn 'te, powlan, ag am y shop chips Nan Ŵan. O, odd Nan Ŵan yn gwerth... Tydwi'm yn cofio neb yn gwneud chips ond Nan Ŵan. Y hi odd y ...yr original, chadal nhwtha 'te. Ag yn un dda. Ag yn un wŷllt! Ol, am ... am chips bendigedig odd gin Nan Ŵan! A pys – pys wedi'u mhwydo, a rhini ...tân bach odanyn nw, wn i'm sut odd 'i'n medru gneud y ffashwn bentwr ag odd 'i, wir... A ...fydda rei yn lecio bara llaeth. Ond mi gymwn i dipyn o fara llaeth os gawn i shwgwr yno fo, ne fyddwn i 'mo'i lecio fo. A digon o hwnnw, 'te. A mi dduda i wtha chi beth arall... yn yr ha' pen 'ddan ni wedi bod yn chwara ag yn chwys, fydda Mam bob amsar... digon o laeth. Pot pridd ylwch. A'r llaeth yn ffresh o'r ffarm, 'te. Lle bydda Nain yn cael y menyn, 'lwch. A ma 'na'i isho sôn am fenyn arall wthach chi hefyd, oddan ni'n gâl o'r ffermydd. Menyn pot. Ond efo'r llaeth rwan 'te. Mi fydda fy mam bob amsar pen 'ddan ni bod yn chwys yn y ...chwara 'te, yn galw anan ni i'r tŷ, a fyddan ni'n câl diod o laeth. Jwg fawr ar ganol y bwrdd. Jwg enaml, 'te. A wedyn fydda 'na jwg arall yn llawn... o'r llefrith 'ddan ni... 'llaeth' 'dach chi'n ddeud am hwnnw 'fyd 'te? Ond 'llefrith' 'ddan ni. A fydda 'na... y...powlan i bob un onan ni, llaeth wedi roi yno fo a wedyn rwbath yn debig o'r llefrith 'ma. Achos fydda'r hen bobol yn deud, os yfach chi y llefrith 'i hun, ag wedi chwysu a rhedag, y bydda fo'n corddi, ag wedyn y bydda fo'n berig, efo'r stumog, 'te.
The Welsh dialect of Rhosllannerchrugog 29 March 2011 Welsh dialect of Rhosllannerchrugog Listen to Eluned Phillips talking in the Welsh dialect of Rhosllannerchrugog in Chapter 2 of this story. The recording An example of the dialect of Rhosllanerchrugog, a mining community in north-east Wales. Mrs Eluned Phillips was born in 1911 and was recorded by St Fagans:National Museum of History. This is a recording of Eluned Phillips talking in the Welsh dialect of Rhosllannerchrugog. Och chi'n cal mynd un waith y fiwyddyn efo'r capel i'r Rhyl, a'dd o'n treat mawr. /Ie./ Trên yn mynd o'r Rhos, y capelydd yn... yn uno amser honno, yntê. O! Wel odd o'n werth weil, y trip capel yndoedd? Mynd i'r Rhyl. A dene'r unig drip och chi yn gal. Llond y trên wedyn? O, oedd. Trên yn llawn. Oedd. On ni'n meddwl bo' ni'n cadw... a 'chefn, ichi feddwl, odd station Rhos yndoedd yn packed yn gweled plant yr Ysgol Sul yrŵan yn mynd i'r Rhyl. Ag odd 'i'n ... odd y station ... odd y platform yn packed y noswith 'nw, pawb yn weifio ni'n dôl. Fath â dasen ni 'di bod i ffwr' yn Llunden. 'Lla i ddim credu'r peth heddiw, cofiwch. Na alla. Na. Beth oddech chi'n neud yn Rhyl wedyn? O, bwced a rhaw yntê. O, 'chi'm pres i wario! Nag odd. Syth i ffwr' at y swnd, yntê. O' 'ne'm pres ichi wario. Nag oedd. Chi'n lwcus amser honno dasech chi'n cal dwy geniog ne dair. Diar annwl! Ma pethe 'di newid. Wedi newid yn hollol. Beth am y Pasg wedyn 'de? O, odd Pasg yn adeg arbennig iawn. O' 'ne gyfarfod yn capel Mynydd Seion, a'r Annibynwyr eto yntê. A dwi'n meddwl bo' ... bron bob capel yn uno yn y gwasaneth yn Mynydd Seion. Odd nene ar nos Wener. Ar nos lau. O' 'ne ddau pregethwr yn Mynydd Seion 'rhyd y blynyddodd i gyd. A trw'r dydd, dy' Gwener y Croglith o' 'ne wasaneth bore, pnawn a hwyr. A'r capel yn orlawn! Yn orlawn! Ag odd rhaid inni fynd, o' rhaid ni fynd. Odd o'n beth ... Wel, odd nene i'r enwade i gyd, chi'n gweld, hwn yn Mynydd Seion. Capel yr Annibynwyr yntê. Ag ... ym ... odd pobol yn cwrdd 'i gilydd chwaneg amser honno, dwi'n meddwl trw bod nw'n mynd i'r ... i'r capel a Band of Hope ag ... On nw'n ddallt bobol yn sâl. Dach chi'n gweld, Oddyn nw ... man nw'n câl chwaneg o help hiddiw, ond câl chwaneg o gymwynas a cyfeillgarwch yr amser sy 'di mynd. Pawb yn cofio am rŵun odd yn sâl, yntê. Dene 'di gwahanieth. Beth nethoch chi — beth odd ych oed chi'n gadel yr ysgol 'te? Pedwar ar ddeg oed. A beth nethoch chi wedyn, 'te? O, mynd i le och chi'n deud amser honno. I weini man nw'n deud heddiw, 'nte. O ie. O ie, mynd yn forwyn. I ble wedyn? Mynd yn forwyn i tŷ Dr. Dafis. Hen Dr. Dafis y Rhos. A cal deg sŵllt yr wsnos. Codi chwech o gloch yn y bore, a rhy flin i mynd i'ch gwely deg o gloch yn y nos. A tân amser honno'n cal 'i gynnu yn y consulting room, surgery, dispensary, morning room a room y morynion. Pump a chwe tân isho cal 'u cynnu bob dydd. Ag aech chi'n barod i ddropio yn y nos cyn ichi fynd i'ch gwely, am ddeg sŵllt yr wsnos ... A'dd Mam mor dlawd ... on i'n mynd getre efo'r papur chweugen on nw'n ddeud amser honno am ddeg sŵllt yntê, ag on i'n câl sŵllt yn dôl. A fydde Mam wastad yn deu' 'tha i, 'Cofia bod ti ishe rwbeth yn yr Ysgol Sul.' Allan o'r sŵllt 'na on i'n gâl. Ond diolch bod ni 'di gwbad be' 'di nene. Den ni 'di gweled ... ma 'ne fwy o werth yn y bywyd sy 'di mynd na be' sy 'ne ar ôl gynna i heddiw, yntê. Glowyr odd pobol y Rhos amser honno. A'dd 'i'n gymdeithas glos pan odd y glowyr, chi'n gweld. 'Chos dwi'n cofio Parch. Idryd Jones, odd y fo'n byw ar Allt y Gwter. Ag odd coliars yn mynd at 'u gwaith, cerdded amser honno. Ag odd o'n deud bod o'n cal 'i ddeffro 'mpas hann' 'di pump yn bore, coliars yn chwislo ac yn canu emyne wrth fynd at 'u gwaith, i lawr y pŵll, cofiwch chi. 'A dene,' medde fo fel ene, ''aru... odd nene i mi,' medde fo fel ene, 'fel Hallelujah Chorus,' medde fo. 'On i'n methu credu bod coliars yn callu chwislo a canu mynd at 'u gwaith,' medde fo, 'hann' 'di pump yn y bore.' le. Beth am wraig y colier wedyn? Odd digon o waith ... odd hi'n codi'n fore. O oedd! Hithe'n codi'n fore, torri bwyd mewn tun yntê. A wedyn pan fyse colier mynd getre yn y pnawn, bath ar yr ylwyd. On nw'n gorod molchi flân y tân, yndoedd? O' gynnyn nw'm byd arall i folchi.
The Welsh dialect of Caernarfon 29 March 2011 The Welsh dialect of Caernarfon Listen to Gareth Wyn Jones talking in the Welsh dialect of Caernarfon The recording An example of the Welsh dialect of Caernarfon town. Gareth Wyn Jones was born in 1943 and recorded by St Fagans National Museum of History. This is a recording of Gareth Wyn Jones talking in the Welsh dialect of Caernarfon. Oddan ni'n cal hop - hop, ia. Downsho, ia, yn Feed my lambs yn Ganarfon. Ag odd hogia Bangor yn dod i lawr ar nos Ferchar ag oddan ni'n cal fight dod cyn bus deg. Ar y Maes, 'elly ia, cyn i nw fynd adra. Ond… ym… oedd 'i'n mynd o ddrwg i waeth i ddeud y gwir, 'cos odd petha… oedd plismyn a bob peth, ia, ar nos Sadwrn yn gwatshad hogia Bangor yn mynd yn ôl 'lly am bo' hogia dre yn dyrnu nw felly. Beth odd y Feed my lambs 'ma? O Feed my lambs, wel…ym…church hall 'elly ia 'te. Ym... Ia, fel church hall odd 'i drost y ffor' i Ysgol Rad 'elly, ym…'te. A wedyn oddan ni yn cal hop yna ia, fel disgo ia. Disgo 'di o 'wan, ia. 'Te. Ag oddan ni'n mynd i fanno … ym… bob nos Ferchar os dwi'n cofio'n iawn. A nos Sadwn. I ddownsho, 'elly ia. Pwy mor bell odd pobol yn dod i... Oddan nw'm yn dod yn bell ichi, 'cos oddan nw... odd gynnon nw ofn dŵad i Gynarfon i ddeud y gwir. 'Mond hogia Fangor odd yn dŵad 'lly 'cos odd 'na lot o fights a peth felly. Beth, ôs 'na enw drwg...? Nag oes, nag oes! Pobol odd yn pigo anan ni 'elly ia. Wedyn odd raid i ni gwffio 'nôl 'te. O' lot o bobol o wlad yn dod i lawr ar nos Sadwn 'elly ia. Ag ... ym... wel wth gwrs, hogia Gynarfon yn mynd ar ôl gennod wlad, oddan, felly ia. Ag ym... a nhwtha ar ôl hogia Gynarfon am bo' ni'n well na hogia ... hogia wlad i ddeud y ... O ! Well i fi bidio deud peth... ffashwn bethau! Dod yn ôl i Feed my lambs 'wan, pan 'ddan ni'n mynd i ddownsho i Feed my lambs. Ddoth ym... Richie Prichard Brothers felly ia. Prichard Brothers firm removals yn Gynarfon mawr i lawr yn Porth yr Aur, Ganarfon. Y ... a Richie yn dod — ddoth o yna i Feed my lambs i holi os o' 'na rŵun isho mynd i actio yn ffilm Inn of the Sixth Happiness felly ia. Ag, wel, odd 'i... o' 'na ddim ysgol. Adag holidays yr 'a ' odd hyn, ia. Ag... ym... oddan ni'n gorfod cyfarfod dwrnod wedyn, ym, chwech o' gloch yn bora, ar y Maes yn Ganarfon. I neidio i tu 'nôl i lorri Richie. Ag odd o'n mynd â ni i fyny i Beddgelart i actio yn y ffilm Inn of the Sixth Happiness ia. Ag ...ym... oddan ni'n câl two guineas a day. O' 'ny'n lot o bres adag hynny 'elly ia. Tua nineteen fifty seven os dwi'n cofio'n iawn ia. Ag oddan ni'n cal 'u bwyd 'efyd ia. A wedyn be' 'ddan ni'n neud, oen ni'n gorod gwisgo fyny fel Chinese felly ia, a rhedag efo gwn ar draws ochor y mynydd 'ma. Ag oddan nw'n ffilmio ni 'lly ia. Ag ym... oddan ni gyd yno. Pawb. 'Ogia Sgubor Goch i gyd a hogia mynd i Y .. YMCA yn Ganarfon 'elly ia. Yr unig gyfla gesh i odd hwnna ia, ond mi ddaru nw films erill yn dre fel... ym... The Vikings. A dwi'm cofio hwnnw, on i 'chydig bach yn fengach adag hynny, ag ... ym... o' 'na lot o hogia Ganarfon ag un yn arbennig... Wil Napoleon 'te. Oedd o yn y ffilm yma 'te, fel Viking. Ag oddan nw allan yn y Menai Straits 'elly ia, a 'ddan nw 'di neud cwch Jôs Peilot i fyny fel llong Vikings ia. Ag ... ym... o' Wil 'di bod yn gwithio am ryw wythnos yn neud y ffilm The Vikings 'ma, ag odd o'n seinio dôl wsnos wedyn. Ag... ym... o' raid nw ofyn, - Wel, 'dach chi 'di bod yn gwithio, Wil? - Do, me' fo. - Be' 'dach chi 'di bod yn neud? - Actio yn ffilm The Vikings ia. Wel dwi isho newid papur dôl i ddeud film star 'wan.
Why worry if languages die? 8 February 2010 Why worry if languages die? Professor David Crystal, author of The Cambridge Encyclopedia of Languages responds: How do languages die? How do languages die? A language dies only when the last person who speaks it dies. But you know, some people say it dies when the second-last person who speaks it dies. Because then the last person has no one left to talk to. Well, of course, languages have come and gone throughout history as communities have come and gone. But what's happening now is something quite extraordinary. How many languages are dying? How many are dying? There are about 6000 languages in the world, more or less. Nobody knows the exact number. And of these, people think that about half of them are so seriously endangered that they are likely to die out in the course of the present century. Now the present century is a hundred years, half is 3000 languages, so that means one language is dying out somewhere in the world, on average, every two weeks. Why are they dying? How does this happen? There are all kinds of reasons why languages die. One is the physical reasons when people are affected by famine and disease and earthquake. Another is genocide, when some countries deliberately try to stamp out a small language. The main reason is globalisation. That is, there are some huge languages in the world, like English and Spanish, and Arabic and French, and these are like steamrollers crushing the smaller languages that they find in their path. Can anything be done? What can be done? A great deal can be done to preserve an endangered language. The first thing is that the people themselves must want the language to be preserved. That's very important. The second thing is the powers-that-be must want the language to be preserved. They must have a respect for the minority languages that are in their care. And the third thing that has to be there, of course, is cash. It costs quite a lot of money to preserve an endangered language. Think about it - you have to train the teachers, you have to write books for the children, and all that sort of thing. It doesn't cost an extraordinary amount of money, but it does cost a bit. So without money, endangered languages don't have a positive future. Why should we care? Why should we care? We should care for exactly the same reason as we care about the biodiversity of the planet — the preservation of the various species of plants and animals. Languages are exactly like that, except they are the intellectual diversity of the planet. There are something like 6000 visions of the world expressed by the 6000 languages that exist. Half of those visions are about to disappear. And I mean disappear. Because think of it like this: when a language dies which has never been written down, it is as if it has never been.