Collections & Research

Mawrth 13, 2007

David Thorpe, 13 March 2007

Waw am ddiwrnod braf! Helo! Diwrnod o waith swyddfa sydd gen i heddiw, ond ces gyfle i fynd allan i grwydro'r safle bore 'ma cyn cwrdd â gr?p o ymwelwyr o Benarth.

Fe fuom ni'n sbecian o amgylch yr Eglwys - minnau a Ray Smith (Pen Saer - yn yr ystyr llythrennol - yr Amgueddfa) yn ateb cwestiynau a sgwrsio. Mae Ray wedi bod yn gweithio yn Sain Ffagan ers sbelen r?an: a dweud y gwir, mae wedi bod yn gweithio ar brosiect yr Eglwys ers ei chychwyn (h.y. pan oeddwn i'n fabi bach bochgoch).

O edrych yn ofalus ar luniau yn ein archifau, gellir ei sbotio, mewn du a gwyn, yn gweithio ar brosiect adeiladu Siop Gwalia, ac ar Institiwt Glowyr Oakdale hefyd. Ei orchwyl, ar hyn o bryd, yw cerfio bywyd Teilo Sant (cewch air am weddill ei gampweithiau mewn post nes ymlaen!) Mae'n defnyddio un darn o dderw Cymreig, un-troedfedd-ar-bymtheg o hyd - a chan ei bod hi dipyn yn gynhesach tu allan, mae wedi symud yn ôl i fyny i'r Eglwys i weithio. Dwi'n falch o gael ei gwmpeini, am ei fod yn llawn hwyl a gwybodaeth am bawb a phopeth yn Sain Ffagan (ac hefyd yn wrandawr da iawn pan fydda i'n troi'n Strempan oriog ar foreuau glawog). Os ddewch chi i fyny i'r Eglwys rywdro, mynnwch sgwrs ag e - ar yr amod y byddwch chi'n glou: mae gwaith 'da fe i'w wneud!

Ta waeth, wythnos orlawn sydd wedi mynd heibio (fe fydd raid i chi faddau imi - dwi'n gwybod taw dydd Mawrth yw hi, ond mae Wythnos Sain Ffagan yn wahanol iawn. Ddewch chi ddim o hyd iddi ar gloc na chalendr...) - ac mae'n syndod cymaint yn rhagor o ymwelwyr sydd wedi dod atom ni yn yr wythnos heulog ddiwethaf. O ystyried y cyfarch, sgwrsio, malu awyr, ateb cwestiynau a dwrdio dwi'n ei wneud bob dydd, mae'r Eglwys - er ei bod hi'n wag o gynulleidfa - yn dod, yn raddol bach, yn le swnllyd iawn.

Mawrth 6, 2007

David Thorpe, 6 March 2007

Dwi'n ôl ar ôl tipyn o seibiant yn Lerpwl - ac yn ceisio gwneud pen-a-chynffon o'r holl ymweliadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf. Dwi'n si?r i'n hymddangosiad ni ar y Newyddion a'r radio fis Chwefror ddenu llawer o bobl yma - nifer ohonynt yn ymweld am y tro cyntaf â'r Eglwys, sydd wastad yn beth braf.

Dwi'n teimlo, mor bell a hyn i fewn i fy nyddiadur bach, y dylwn i gyflwyno prif gonsyrn Eglwys Teilo Sant, er dwi'n siwr eich bod chi wedi sylwi ar hynny erbyn hyn - yn iawn.

Eglwys hynafol eithriadol yw hi - wedi bod ar daith, nawr, ers dros ugain mlynedd. Ym mis Hydref eleni, 'dyn ni'n gobeithio datgan bod ei thramwyo ar ben yn swyddogol, a'i bod am ddechrau pennod newydd o lonyddwch gosgeiddig - serch rhyw hanner can milltir yn bellach i lawr yr M4.

Er ein bod ni'n ail greu'r Eglwys fel ac yr oedd hi yn oes Harri'r wythfed, mae ei hanes yn ymestyn llawer ymhellach na hynny. Adeiladwyd y rhan fwyaf hynafol yn oes y Normaniaid - ac estyn fuodd arni wrth i boblogaeth Pontarddulais a Hendy dyfu'n araf bach. Erbyn oes y Tuduriaid, 'roedd tua tri chant o bobl yn byw yn yr ardal - y rhan fwyaf ohonynt yn ffermwyr hunan gynhaliol. Sawl un ohonynt oedd yn dilyn cyfraith gwlad, ac yn addoli yno bob sul, wyddwn ni ddim. Yn sicr, roedd atynfa'r Eglwys fel canolfan gymdeithasol yn gryfach i rai na'i rôl fel hafan ysbrydol.

Mae'r iard o amgylch yr Eglwys yn ddigon o faint, dwi'n credu, i ail-greu peth o'r naws cymdeithasol hyn - gwyliau ar ddyddiau'r Seintiau, rasus, chwaraeon, gamblo, a phob mathau o weithgareddau Duwiol eraill.

Fe geisiaf i dynnu rhai lluniau i'w dangos, i chi gael gwell syniad ar naws y lle - os nad ydych chi'n teimlo fel ymweld, wrth gwrs...

Chwefror 14, 2007

David Thorpe, 14 February 2007

Diwrnod gwyn, prysur oedd diwrnod Teilo Sant ddydd gwener diwethaf (Chwefror 9), wel, tan amser cinio o leiaf, pan gaewyd yr Amgueddfa oherwydd Yr Eira.

Pleser prin yw cael eich taflu allan o'r Amgueddfa Hanes Genedlaethol, ac felly 'roedd cynulleidfa'r gwasanaeth yn lwcus iawn! Gobeithio y cawsant siwrne saff yn ôl i Bontarddulais, er gwaetha'r lluwchio.

Hwn oedd y gwasanaeth cynta i mi ei drefnu, ac roedd hi'n fwy o hwyl nag oen i'n ddisgwyl - ac yn wers nad oes unrhyw faint o drefnu dyfal a pherswadio yn gallu curo'r tywydd. Roedd y gwasanaeth yn wych - rhaid i mi gyfadde mod i dan deimlad am eiliad fach yn ei ystod (gormod o amser lan yn y goedwig 'ma, falle!). Ond o ddifri - braf oedd gweld y lle'n llawn, ac mae'n ysgogiad i drefnu gweithgareddau tebyg yn fwy aml yn y dyfodol.

Prin iawn oedd yr amser i ddal fy ngwynt ar ôl yr eira - roedd rhaglen lawn o weithgareddau ar hyd y penwythnos, a dwi'n dechrau tridie o sesiynau gwisg Tuduraidd heddiw. Lot o hwyl - ond anghyfforddus yw teipio mewn staes, felly mi ai yn ôl at fy nghaban rwan!

Chwefror 6, 2007

David Thorpe, 6 February 2007

Ddaeth y lluwch eira ddim bore 'ma, fel o'n i wedi disgwyl - wel, wedi hanner gobeithio, byddai ymladd peli eira ar safle'r amgueddfa'n hwyl a sbri. Tywydd oer, clir drwy'r bore.

Cyn dod i weithio yma, ro'n i'n casau'r hen arfer o sôn am y tywydd yn lle sgwrsio 'go iawn'. Ar ôl chwe mis yn Sain Ffagan, fodd bynnag, dwi wedi dechrau deall - a mwynhau - yr obsesiwn genedlaethol efo atmosfferics. Mae bod allan yn yr awyr agored, mewn bwthyn neu ffermdy ddrafftiog yn llawer llai cynnes a chyfforddus 'na swyddfa ddiflas wedi'i hawyru. Tra'n gweithio ar y safle, felly, mae'r rhan fwyaf o'n gofalwyr yn paratoi tân yn y tai, yn casglu pren i greu tanllwyth croesawgar (ac ymarferol o gynnes).

Mewn Eglwys, fel 'dych chi'n si?r o wybod yn barod, does dim lle tân i swatio o'i amgylch. Er taw ail-godi Eglwys Duduraidd ydym ni, mae 'na un gwahaniaeth bach - gwresogyddion tanddaearol ar y safle. Yn wir, 'roedd y Rhufeiniaid yn eu defnyddio nhw - ond 'dyn ni wedi eu rhoi yn yr adeilad er mwyn cadw'r gwaith pren a'r plastr yn sych ac hapus. Dw inne'n dal i fferru gan amla (a chan mai cwyno sy'n ail agos i sôn am y tywydd yn y lle 'ma) - felly croeso cynnes (bwm bwm) gafodd y ffenestri newydd ddydd gwener diwethaf. Mae'r Athrofa yn Abertawe wedi bod yn brysur yn eu gosod, a gobeithio y cewch chi gyfle i ddod i fyny i'r Eglwys rywben i gal sbec arnyn (neu drwyddyn) nhw.

Mae paratoadau Diwrnod Sant Teilo, sydd dydd Gwener, Chwefror 9 yn mynd yn eu blaenau - bydd y dathlu'n digwydd ar ddydd Gwener, gyda gweithagareddau dros y penwythnos hefyd. Fe fydda i'n falch o wybod beth sydd gan drigolion Pontarddulais i'w ddweud am y datblygiadau newydd bryd hynny - siawns y cewch chithau ddarllen amdanyn nhw'r wythnos nesa' hefyd!

Ionawr 30, 2007

David Thorpe, 30 January 2007

Cofnod fach diwedd-y-dydd sydd gen i ar eich cyfer heddiw. Mae diwrnod Teilo Sant (ar Chwefror 9) yn prysur agosau a 'dwi'n ceisio trefnu oedfa ar gyfer cynulleidfa o Bontarddulais, sef safle gwreiddiol yr Eglwys. Mae'n fusnes cymhleth - yn enwedig â'r adeilad yn dal i edrych fel safle adeiladu ar hyn o bryd!

Fe gawsom ni newyddion da heddiw, fodd bynnag: mae ein cloch newydd wedi cyrraedd o Loughborough, a bydd dwy ffenestr yn ei lle erbyn diwedd yr wythnos (yr rheiny o Institiwt Wydr Abertawe). Siawns y medrai berswadio'r adeiladwyr i wneud dipyn o dwtio tra fyddwn nhw'n eu gosod!

Bydd penwythnos y 9-11 o Chwefror yn gyfle i bobl ymweld â thu fewn yr Eglwys, a dysgu 'chydig am fywyd yng Nghymru yn yr oes Duduraidd: fe fyddwn ni'n barod amdanoch chi, 'dwi'n si?r.

Rhaid trefnu gweithgareddau fel hyn fisoedd o flaen llaw, a 'dwi wedi gaddo cynnal gweithgareddau paentio yn ystod mis Ebrill. Fy ngwaith cartref i heno, felly, fydd dyfeisio ryseitiau paent naturiol. Dwi wedi bod yn arbrofi (yn aflwyddiannus) gydag wyau, lard, sbigoglys ac olew olewydd. Llawer yn rhy ddrewllyd.

Bîtrwt, sbeisys a chlai amdani heno, felly...