Mammoth fun in the Ice Age Louise Mumford, 15 July 2008 National Archaeology Week 2008 is under way at National Museum Wales, and at three NMW sites, visitors have been getting arty like cave-dwellers, writing like Romans, helping to sort out a medieval pottery's rejects and witnessing the technology that put the Iron into the Iron Age.And all in the first five days!At National Museum Cardiff, families joined Ken Brassil and Bethan Jones for Cave Art workshops.Bethan:"The cave art weekend was a great success. The visitors became their very own cave men and women for the weekend, exploring the new Origins gallery, studying traditional cave paintings and the animals before stepping back through time in to our Evolution of Wales exhibition, where they were able to experience what life may have been like in a damp dark cave....The families sketched the animals found around that time before heading back to the present to create their art from the sketches they'd made. The children were able to use and experience similar materials to those their ancestors would have used: stone, wood and even bones. I think using the bones to draw with was everyone's favourite, especially mine! A really fun-packed weekend. I was very impressed with the amount of sculpture made as well as drawings. Good job every one, including the parents and grandparents, for getting stuck in!"Ken:"National Archaeology Week kicked off in Amgueddfa Cymru - National Museum Cardiff with the latest take on Ice Age art created by seriously enthusiastic families of South Walians and super visitors from Quebec City too.We explored the Palaeolithic zone of the new archaeology galleries and sought out the robotic mammoths in the Evolution of Wales Gallery as catalysts for making clay figures ... to take home.The mini figures we created made up for the (almost total) absence of Ice Age art from Wales....Mini mammoths were the most popular creation. Some of the seniors modelled hybrid rhino-mammoths, even a cold loving turtle. One family brought their teddy bear mascot to keep company with our museum specimen bear-skull from Tian Shan, China!If the participants had decided not to take their animals home, then we would need to add two new cases to our new archaeology gallery to accommodate Ice Age Art: Class of 2008 .... Congratulations to you artist-archaeologists....
What Machen primary school have been saying about their visit to the archaeological dig at Llanmaes Chris Owen, 7 July 2008 "I really enjoyed looking at the pottery and teeth. I would like to know all the things the Iron Age Celts ate. How did they build the round houses? Did they play sport?""I liked doing the music because of the really good beats! I liked looking at the pigs teeth and the Roman coin. I would like to be an archaeologist because I love history, but I don't like working in wet weather!""I really liked looking at the pig bones and i learnt such a lot!""The ceremony we did was fab and I loved our music! I wanted to wear the mask home, but I wasn't sure about tearing up the cauldron we'd made!""Recording the music on the computer and changing it using the technology was really cool! The bones were cool as well!""I liked wearing the mask and playing the music.""I really enjoyed today because it was fun. My favourite part was doing the music and going back in time!"
Ebrill 3, 2007 David Thorpe, 3 April 2007 Ers dechrau gweithio yn Sain Ffagan, mae fy 'niddordeb' mewn materion crefyddol wedi gorfod tyfu'n sylweddol. Ydw, wir, dwi'n ddigon hapus (wrth fy modd, bron) yn mwydro am oriau am yr Eglwys Ganoloesol; llafarganu, cerfluniau, darluniau Almaenig o'r Apocalyps hydnoed - ond mae maes 'Yr Eglwys Heddiw' yn llawer mwy niwlog a chythryblus ei olwg i fi na'r hen, hen hanes. Ces i ddipyn o gyflwyniad i'r pwnc pan yn trafod ail-gysegru'r Eglwys. Roedd yn rhaid ystyried pob math o broblemau dyrys - rhyw hybrid ysbrydol-ymarferol sy'n gorfod ystyried anghenion trigolion Pontarddulais, yr Eglwys yn Nghymru a thros chwe chan mil o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'n codi sylw at nyth gacwn o enwadau, defodau, ac, yn naturiol, hanes difodiant adeiladau tebyg, nad oedd lle iddynt yma yn Sain Ffagan.Roedd hi'n braf, felly, gweld yr erthygl hon (http://news.bbc.co.uk/1/hi/magazine/default.stm), felly, ar dudalen Saesneg y BBC. Mae'n adlewyrchu cymaint o'r themau yr hoffem ni - ac y bydd raid i ni - fynd i'r afa'l â nhw wedi i'r Eglwys agor yn swyddogol fis Hydref. Beth yw rôl addoldy heddiw - ai creiryn yn unig fydd yr Eglwys wrth iddi agor? Gobeithio y bydd digon ohonoch chi'n ymweld â ni i roi dipyn o fywyd i'r lle - does dim byd tebyg i'r teimlad yna pan fydd hi'n llawn pobl!Felly, gyda'r mwydro lled-athronyddol o'r ffordd, rhaid troi ngolwg i'r Pasg. Stori'r Atgyfodiad yw prif thema ein murluniau - a bydd yr artist Tracey Williams a minnau'n cynnal gweithgareddau'n peintio a dehongli'r stori dros y pythefnos nesa'. Mae croeso i chi alw i mewn i gymryd rhan - dewch â'ch het artist gyda chi!
Mawrth 27, 2007 David Thorpe, 3 April 2007 Pnawn da. Gai ddechre trwy estyn gwahoddiad ichi (nage, ddim i'r Eglwys. 'Dych chi ddim wedi blino darllen am honno eto...)?Mae Oriel 'Perthyn' (neu 'Belonging') newydd Sain Ffagan yn agor yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Mawrth 31, 2007 - gobeithio y gallwch ymweld â ni! Mae'r Oriel wedi bod yn wagle tywyll ers rhai misoedd 'nawr, ond mae'r goleuadau, y camerâu a'r gwrthrychau i gyd wedi'u gosod - ac un ohonynt yn arbennig â chysylltiad gyda'r Eglwys. Dim ond jyst a ffitio i mewn i'w chornel 'mae hi, ond mae murlun Santes Catrin yn werth ei gweld. Rhaid ifi gyfadde' teimlo braidd yn bigog-tu-fewn pan welais i hi'n cael ei symud o'i chuddfan yn y Castell i lawr i'w chartref newydd - mae hi gyda un o'r olion hynaf o ddarlunio o'r Eglwys ac yn fregus iawn.Cafodd y Santes ei phaentio yng nghanol y 14eg Ganrif, ac yn ffigwr pwerus, gosgeiddig iawn. Mae'r olwyn y tu ol iddi, wrth gwrs, yn ein hatgoffa o artaith y Cristnogion cynnar - yn ogystal ag agwedd hard sell yr Eglwys Gatholig Ganol Oesol. Mae gan bob un o'r seintiau yn yr Eglwys wrthrychcau i'n atgoffa o stori eu bywyd - ond canolbwyntio ar eu rhinweddau fyddwn ni heddiw, yn hytrach na'r aberth a'r boen welwn yn y darluniau canoloesol. Ta waeth, mae 'na gannoedd o bethau eraill (o oes cyn Crist i foddi Capel Celyn) i'w gweld yn yr Oriel newydd - ond cofiwch ddweud helo wrth y Gatrin pan ewch chi heibio.Cyffro yng nghasgliad yr Amgueddfa - a chyffro felly i'n dehonglwyr: roedd rhaid ffarwelio â'n 'Celt' preswyl, Owain (hwnnw wedi mynd i adeiladu nyth wiail i'w epil newydd), a chroesawu Anna i'n plith (y hi fydd yn gweithio yn Oriel Perthyn) yr wythnos hon. Ychwanegu hwnnw at chwa'r gwanwyn o fysus ysgol, ynghyd â'r gobaith y cai amser i dynnu gwynt a sgrifennu'r wythnos nesa, a dyna fy wythnos. Hwyl am y tro!
Mawrth 20, 2007 David Thorpe, 20 March 2007 Wythnos dipyn yn llai bownslyd sydd wedi mynd heibio - mae'n si?r nad fi yw'r cynta' i fod 'chydig bach yn rhy optimistig ar ddechre mis Mawrth. Ei sgil effaith, wrth gwrs, oedd fy mod wedi defnyddio fy nognau egni i gyd erbyn dydd Gwener (ac wedi anghofio, fel ffwl, am y penwythnos prysur o fy mlaen: Caerdydd gyfan, yn sicr o fod â chlamp o Benmaenmawr wedi'r gêm, yn crwydo'r parc fel zombies gwyrdd!)Mae cyfarch a sgwrsio 'da'r cyhoedd yn fusnes blinedig. Mae dewis ei wneud mewn dillad rhy frau, ar ddiwrnod arbennig o oriog, yn fusnes blinedig a gwirion.Ac felly mae'r chill cyfarwydd yn dangos ei ben, ac yn sydyn reit dwi'n teimlo'n swrth ac oer - efo dim ond clogyn brethyn Tuduraidd yn y swyddfa'n gwmpeini cynnes (a hwnnw'n edrych yn wirioneddol sdiwpid ar ben jîns!) Mae gennai got Ray Mears ar sêt deithiwr y car. Peth anferth, bob tywydd. Pob poced yn llawn teclynnau anhepgor, abswrd rhywun sy'n treulio lot gormod o amser mewn Amgueddfa awyr agored - tortsh, matsys, cliciwr-cyfri, cyllell boced, mapiau a phisys o bapur yn f'atgoffa i ffonio 'Catholic Living Magazine'. Dim iws i neb ar sêt y 'Pyrjo' yn y maes parcio. Y clogyn amdani te. Cam amgen i fyd 'dehongli byw' ar bnawn Sadwrn, yn enw cynhesrwydd!Diar mi - fe soniais i, yndo, pa mor hawdd ydi datblygu obsesiwn efo'r tywydd yn Sain Ffagan, a dyma fi, unwaith eto, yn swnian am yr oerfel.Yn fyr - dwi 'nôl yn y Swyddfa Gynnes r?an, ac wedi llowcio cymaint o fitaminau dwi'n gneud s?n fel ratl babi pan dwi'n symud. Maen nhw ar y ddesg, drws nesa' i'n hylif haul - mae o wedi bod yn eistedd yno'n optimistig ers mis Awst diwethaf...